Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi
Rydym yn credu bod gan holl bobl Ceredigion hawl i ddylanwadu ar ddyfodol y gwasanaethau a ddarperir yn eu sir.
Mae'n hanfodol bod Cyngor Sir Ceredigion yn annog ac yn galluogi pobl leol i gymryd rhan yn ein prosesau gwneud penderfyniadau. Mae ymgysylltu da yn gyfrifoldeb pawb sy'n gweithio i'r Cyngor. Mae'n broses ddwy ran – rydym yn gwrando ar safbwyntiau a barn aelodau'r cyhoedd ac rydym yn darparu gwybodaeth glir am swyddogaethau Cyngor Sir Ceredigion.
Mae ymgysylltu hefyd yn ddull y gall y Cyngor ei ddefnyddio i roi gwybod i bobl leol am yr hyn y mae’n ei wneud, y gwasanaethau y gall eu darparu a’r rheini na all eu darparu, a sut y mae’n pennu’i flaenoriaethau a’i bolisïau.
Mae ein Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2026 yn amlinellu ein dull corfforaethol o ymgysylltu â phobl yng Ngheredigion. Mae'n adeiladu ar y cynnydd a wnaethom ers ein polisi blaenorol a gymeradwywyd yn 2022.
Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2026
Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2022
Adroddiad Blynyddol Ymgysylltu a Chyfranogi 2024/25
Adroddiad Blynyddol Ymgysylltu a Chyfranogi 2023/24
Adroddiad Blynyddol Ymgysylltu a Chyfranogi 2022/23
Adroddiad Monitro hanner blwyddyn 2023
Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru