Grant Datblygu Disgyblion (GDD) – Mynediad
Gall dysgwyr sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim wneud cais am grant o £225 y dysgwr, a £300 i'r dysgwyr hynny sy'n dechrau ym mlwyddyn 7, gan gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd. Byddwch cystal a nodi fod y grant wedi cynyddu gan £100 I bob oedran am y flwyddyn yma yn unig.
Gall teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gwneud cais os oes ganddynt blentyn mewn:
- ysgol gynradd o'r Flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 6
- ysgol uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys ar gyfer y grant, p'un a ydynt yn cael prydau ysgol am ddim ai peidio.
Bydd disgyblion llawn amser sy’n mynychu Derbyn, Blwyddyn 1, a Blwyddyn 2 yn deilwng i Brydau Ysgol am Ddim i Bawb.
Ond nodwch os yw’ch plant yn mynychu’r blynyddoedd penodedig yma, ni fyddwch yn deilwng i dderbyn grant tuag at wisg ysgol (GDD-Mynediad) yn awtomatig. Felly os yr ydych am dderbyn taliad Grant Tuag at Wisg Ysgol (GDD – Mynediad), fe fydd dal angen i chi gwblhau ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim.
Dim ond unwaith y plentyn, fesul blwyddyn ysgol, y mae gan deuluoedd hawl i wneud cais.
Bydd cynllun 2022 i 2023 yn agor 1 Gorffennaf 2022.
Os nad ydych yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim yna cwblhewch ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim a bydd eich GDD-Mynediad yn cael ei ystyried ar yr un pryd.