Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y Map Diffiniol / Cofrestrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Caiff pob llwybr cyhoeddus ei gofnodi ar fap diffiniol ac y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r Cyngor Sir ei gynnal a'i gadw a'i ddiweddaru. Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol i gadw cofrestrau yn gysylltiedig â cheisiadau hawliau tramwy, datganiadau a dogfennau cysylltiedig.

Map Diffiniol

Mae cofnodi llwybr ar fap diffiniol yn cael ei ystyried yn dystiolaeth ddigamsyniol yn ôl y gyfraith o statws, safle a bodolaeth y llwybr cyhoeddus dan sylw.

Fodd bynnag, mae'n bosib bod yna lwybrau cyhoeddus eraill yn bod nad ydynt wedi eu cofnodi. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd pennu natur yr hawliau hyn yn ddibynnol ar y dystiolaeth a gesglir. Gall tystiolaeth yngl?n â hawliau cyhoeddus ddod o ddogfennau hanesyddol a/neu drwy unrhyw wybodaeth sy'n dangos bod y cyhoedd yn defnyddio'r llwybr dros gyfnod parhaus.

Cedwir y Map Diffiniol yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Mae mwy na 2500 o gilometrau o hawliau tramwy yng Ngheredigion. Maent yn dod o dan y categorïau canlynol:

Llwybrau Troed Cyhoeddus:

Mae hawl gan y cyhoedd fynd ar droed ac yn ôl, ac yn gyffredinol derbynnir y bydd ganddynt fel arfer bram, cadair wthio neu gi.

Llwybrau Ceffylau:

Mae hawl gan y cyhoedd i fynd ar droed, ar gefn ceffylau ac ar gefn beiciau pedalau ac yn ôl.

Cilffyrdd Cyfyngedig:

Mae hawl gan y cyhoedd i fynd ar droed, ar gefn ceffylau a cherbydau nas gyrrir yn fecanyddol ac yn ôl.

Cilffordd sy'n agored i bob traffig:

Mae hawl gan y cyhoedd i fynd ar droed, ar gefn ceffylau ac ar feiciau pedalau ac mewn cerbydau ac yn ôl ond caiff y llwybr ei ddefnyddio'n bennaf gan gerddwyr a/neu geffylau.

Sylwer: rhoddir y wybodaeth hon fel cyfarwyddyd yn unig ac nid yw'n gyfarwyddyd terfynol o'r sefyllfa yn gyfreithiol.

Cofrestrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus

Gellir gwyro, cau a chreu Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ond rhaid dilyn trefn gyfreithiol benodol.

Defnyddir dwy Ddeddf i wneud newidiadau o'r fath i'r rhwydwaith:-

  • Deddf Priffyrdd 1980 - i wyro, cau a chreu hawliau tramwy lle ystyrir iddo fod er budd y perchennog, y prydleswr neu ddeiliad y tir sy'n cael ei groesi gan lwybr a/neu'r cyhoedd yn gyffredinol
  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 - i wyro a chau llwybrau troed a llwybrau ceffylau sy'n cael eu heffeithio gan ddatblygiad

Gall aelodau'r cyhoedd wneud cais i'r Cyngor Sir am Orchymyn Llwybr Cyhoeddus ar dir sy'n berchen iddyn nhw neu gyda chaniatâd ysgrifenedig perchennog y tir dan sylw. Serch hynny, dylai ymgeiswyr nodi fod y drefn ar gyfer prosesu ceisiadau yn un faith, gan gymryd o leiaf chwe mis heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant yn y pen draw.

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl y meini prawf deddfwriaethol, ac yna'n destun cyfnod ymgynghori cyn y gellir eu hystyried yn ffurfiol. Y tâl safonol ar hyn o bryd yw £2,225 am bob cais. Os hoffech ragor o wybodaeth ar y mater hwn, cysylltwch â'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy'r dudalen Cysylltwch â Ni.

Gorchmynion Addasu'r Map Diffiniol

Gall unrhyw un herio cywirdeb cofnod cyfreithiol y Map Diffiniol trwy wneud cais am "Orchymyn Addasu" dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Gall hyn fod ar gyfer ychwanegu llwybr at y cofnod, neu ddileu llwybr a gofnodwyd drwy gamgymeriad. Gall ceisiadau uwchraddio neu israddio statws llwybr, neu ddiwygio unrhyw fanylion eraill yn y cofnod cyfreithiol megis y rhai a gofnodwyd yn y Datganiad Diffiniol.

Gyda Gorchymyn Addasu rhaid cael tystiolaeth dda bod camgymeriad wedi digwydd, naill ai trwy gyflwyno datganiadau gan ddefnyddwyr y llwybr neu bobl eraill gyda gwybodaeth leol, neu trwy ymchwilio i ddogfennau a mapiau hanesyddol, neu gyfuniad o'r ddau. Gall y broses fod yn anodd a chymryd llawer o amser, heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant, ac o bryd i'w gilydd mae'n arwain at ymchwiliad cyhoeddus.

Argymhellir fod unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais o'r fath yn cysylltu â'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy'r dudalen Cysylltwch â Ni i drafod y drefn a'r amserlen sy'n debygol o fod ynghlwm â'r cais.

Datganiadau a Chynlluniau statudol a wnaed dan Adran 31(6) Deddf Priffyrdd 1980

Mae'r ddarpariaeth gyfreithiol hon yn caniatáu perchnogion tir i roi tystiolaeth i'r Cyngor Sir o'u bwriad i beidio â chysegru unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus newydd ar eu tir. Canlyniad hyn yw negyddu unrhyw hawliadau yn y dyfodol am Orchmynion Diwygio ar gyfer dynodi llwybrau ychwanegol, yn seiliedig ar dystiolaeth defnyddwyr ar ôl cyflwyno'r dystiolaeth. Serch hynny, ni fydd yn negyddu unrhyw dystiolaeth a roddwyd cyn cyflwyno.

Daw'r dystiolaeth fel rheol ar ffurf:

  1. cynllun o'r tir, yn dangos ei leoliad a ffiniau ac unrhyw lwybrau cyhoeddus sy'n bodoli (os ydynt ar y Map Diffiniol neu beidio), ynghyd â
  2. datganiad wedi'i arwyddo yn nodi nad oes gan berchennog y tir fwriad i ddynodi unrhyw lwybrau cyhoeddus eraill. Rhaid cael Datganiad Statudol cyffelyb ymhen chwe blynedd, a bob deng mlynedd wedi hynny.

Mae ffurflenni a gwybodaeth ar gael gan Adain yr Arfordir a Chefn Gwlad, i alluogi perchnogion tir i gyflwyno tystiolaeth. Cysylltwch â'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy'r dudalen Cysylltwch â Ni i gael manylion.

I weld copi caled o’r cofrestr cyhoeddus cysylltwch â’r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy'r dudalen Cysylltwch â Ni. I weld y cofrestr ar-lein dilynwch y dolenni uchod. I wneud chwiliad allweddair defnyddiwch y swyddogaeth “ctrl F” ar eich cyfrifiadur personol/gliniadur. Sylwch mai dim ond pan fydd codau post ar gael y mae chwiliadau cod post yn bosibl.