​Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949

Roedd Deddf 1949 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau Sir gofrestru trywyddion (yng nghefn gwlad, yn bennaf) a oedd wedi cael statws cyhoeddus. Galwyd y gofrestr yn 'Y Map Diffiniol a'r Datganiad o Hawliau Tramwy Cyhoeddus'.

Dan y Ddeddf roedd hi'n ofynnol cofnodi pob trywydd, naill ai fel 'llwybr troed cyhoeddus', 'llwybr ceffylau cyhoeddus', neu 'ffordd a ddefnyddir fel llwybr cyhoeddus'. Rhoddwyd statws 'llwybr troed cyhoeddus' neu 'lwybr ceffylau cyhoeddus' i'r trywyddion hynny yr oedd y cyhoedd wedi ennill hawliau i fynd ar eu hyd. Fodd bynnag, rhoddwyd diffiniad amwys o'r trydydd statws, sef y Ffyrdd a Ddefnyddir fel Llwybrau Cyhoeddus. Mae Adran 27(6) Deddf 1949 yn diffinio Ffordd a Ddefnyddir fel Llwybrau Cyhoeddus fel:

'priffordd, ac eithrio llwybrau cyhoeddus, y mae'r cyhoedd yn ei defnyddio yn bennaf at yr un dibenion ag y defnyddir llwybrau troed neu lwybrau ceffylau'

Yn ôl Adran 32(4) Deddf 1949, unwaith y paratowyd y Map a'r Datganiad Diffiniol, roedd yr hyn a ddangoswyd arnynt yn dystiolaeth derfynol fel a ganlyn:

(a) lle mae'r map yn dangos llwybr troed, bydd y map hwnnw'n dystiolaeth derfynol y bu'r llwybr troed hwnnw yn bodoli ar y dyddiad perthnasol a nodir yn y datganiad

(b) lle mae'r map yn dangos llwybr ceffylau, neu ffordd a ddefnyddir fel llwybr cyhoeddus, bydd y map hwnnw'n dystiolaeth derfynol y bu hawl tramwy i gerddwyr, marchogion a thywyswyr ceffylau yn bodoli ar y cyfryw ddyddiad, ond ni fydd y paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw gwestiwn a oedd gan y cyhoedd ar y dyddiad hwnnw unrhyw hawl tramwy ac eithrio'r hawliau dywededig'

Roedd hi'n amlwg o'r dechrau, felly, bod Ffyrdd a Ddefnyddir fel Llwybrau Cyhoeddus â statws cyfwerth â hawliau llwybrau ceffylau, o leiaf. Cadarnhawyd y farn honno gan y Llys Apêl yn achos 'R v Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd ex parte Hood (1975)' ac yna drwy Gylchlythyr Adran yr Amgylchedd 123/1977. Ni chafwyd eglurder o ran pa drywyddion yr oedd gan bobl hawl i fynd â cherbydau arnynt. Y rheswm am hynny oedd bod Deddf 1949 ddim yn gofyn i Gynghorau ymchwilio i hawliau o'r fath.

Pan luniwyd y Map Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y 1950au, cafodd oddeutu 700 o drywyddion eu hawlio a'u cofrestru â'r statws 'ffordd a ddefnyddir fel llwybr cyhoeddus'. Gwelwyd fod pobl mewn cerbydau wedi gwneud rhywfaint o ddefnydd o rai o'r trywyddion, ond nid oedd yn amlwg ai perchnogion preifat ynteu'r cyhoedd oedd y bobl hynny. Cadarnhaodd y Llysoedd yn ddiweddarach fod gan bob Ffordd a Ddefnyddir fel Llwybr Cyhoeddus â statws cyfwerth â hawliau llwybrau ceffylau, o leiaf.

Cyflwynwyd deddfwriaeth wedi hynny a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i ailddosbarthu'r holl Ffyrdd a Ddefnyddir fel Llwybrau Cyhoeddus yn gilffyrdd, os nad oedd gan y cyhoedd hawl i fynd â cherbydau ar eu hyd. Ym 1991, aeth Cyngor Sir Dyfed ati i gynnal arolwg o'r Ffyrdd a Ddefnyddir fel Llwybrau Cyhoeddus yng Ngheredigion. Ar ôl ymgynghori ac ymchwilio, canfuwyd bod gan y cyhoedd hawl i fynd â cherbydau ar hyd 41 ohonynt. Yna aeth y Cyngor Sir ati i lunio a chyhoeddi 70 o Orchmynion Ailddosbarthu. O blith y rheiny, ail-ddosbarthwyd 41 yn gilffyrdd, 656 yn llwybrau ceffylau a 5 yn llwybrau troed. I'r rhai hynny a ail-ddosbarthwyd yn llwybrau ceffylau, nid oedd y sefyllfa'n newid mewn gwirionedd, gan fod yr un hawliau'n bodoli ar Ffyrdd a Ddefnyddir fel Llwybrau Cyhoeddus a Llwybrau Ceffylau fel ei gilydd.

Derbyniwyd gwrthwynebiadau statudol i bron hanner y gorchmynion ailddosbarthu. Roedd y rhan helaeth o'r gwrthwynebwyr wedi camddeall y sefyllfa, ac yn credu bod hawliau newydd yn cael eu creu. Nid felly yr oedd hi.

Dechreuodd Cyngor Sir Ceredigion ymgymryd â'r arolwg ym 1996. Prin fu'r cynnydd yn y 14 mlynedd a aeth heibio ers hynny. Wrth gynnal trafodaethau â gwrthwynebwyr ers 1996, nid yw'r Cyngor Sir wedi llwyddo i ddileu ond 37 o'r 463 gwrthwynebiad, gan gyfeirio dim ond saith o'r Ffyrdd a wrthwynebwyd i Lywodraeth Cymru.

Crëwyd Atodlen ar gyfer y Ffeiliau Achos, Atodlen ar gyfer y Ffyrdd a adolygwyd ac Atodlen o Wrthwynebiadau. Caiff yr Atodlenni hynny eu diweddaru yn barhaus bellach.

Ym mis Ionawr 2010, roedd yno oddeutu 273 o ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus lle'r oedd tua 250 o bobl neu grwpiau yn dal i'w gwrthwynebu. Roedd yno gyfanswm o 426 gwrthwynebiad unigol. Roedd y rheiny'n cynnwys 125 gwrthwynebiad gan ddefnyddwyr cerbydau, tua 290 gan berchnogion tir, ac 11 gan Gynghorau Cymuned. Mae gan bob un o'r rhain hawl statudol i gael gwrandawiad os na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl. Mae'r mwyafrif helaeth o'r gwrthwynebwyr yn codi materion nad ydynt yn berthnasol i'r drefn ailddosbarthu.