Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae Adain yr Arfordir a Chefn Gwlad yn rheoli mwy na 2500 o gilometrau o lwybrau cyhoeddus yng Ngheredigion. Gallwch weld y llwybrau cyhoeddus ar y Map a'r Datganiad Diffiniol.

Sut mae gwybod lle mae'r Hawliau Tramwy Cyhoeddus?

I gael gwybodaeth gyffredinol am hawliau tramwy cyhoeddus gallwch ddarllen Mapiau 1:25,000 "Explorer" yr Arolwg Ordnans ond nid ydynt yn dangos trywyddion diffiniol y llwybrau na'u statws cyfreithiol. Os oes arnoch angen gwybodaeth fanwl am drywydd a statws unrhyw lwybr, dylech gyfeirio at y Map Diffiniol.

Mae'r Map Diffiniol yn gofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Ceredigion yn ei bencadlys ym Mhenmorfa, Aberaeron. Gallwch archwilio'r map yn ystod oriau swyddfa arferol. Nid oes angen gwneud apwyntiad, ond dylech gysylltu â'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar 01545 572315 i sicrhau y bydd Swyddog wrth law i'ch helpu gyda'ch cais.

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol megis cyfreithiwr sy'n gweithredu ar ran cleient, gallwch anfon ceisiadau ysgrifenedig am chwiliadau penodol o'r Map Diffiniol i'r Adain Pridiannau Tir yn y lle cyntaf. Pe bai gennych fwy o gwestiynau ynglŷn â'r manylion ar y Map Diffiniol, dylech holi'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Noder y codir £15 am bob cwestiwn ar hyn o bryd (2011-2012).

Yn ychwanegol i'r Map Diffiniol mae map rhyngweithiol ar-lein o hawliau tramwy cyhoeddus ar gael i weld nawr yma. Mae'n bwysig nodi NID y Map Diffiniol yw'r map rhyngweithiol hwn. Pwrpas y map rhyngweithiol yw darparu gwybodaeth cyffredinol yn unig. Mae posibilrwydd o gamgymeriadau bychan yn y map sydd dim ond yn weledol lawr i raddfa o 1:10,000. Os oes angen gwybodaeth manwl gywir arnoch yn sgil llwybrau arbennig dylsech trefnu apwyntiad i gael golwg ar y Map Ddiffiniol neu siarad gyda swyddog ar 01545 572315.

Beth am hawliau Preifat?

Nid yw'r Cyngor Sir yn dal cofnodion o hawliau tramwy preifat neu "hawlfreintiau". Os ydych chi'n cael trafferth â hawliau preifat, yna dylech archwilio gweithredoedd eich eiddo a chael cyngor cyfreithiol fel y bo'n briodol.