Clwyd ar y llwybr arfordiolOs ydych yn mwynhau cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion ac os hoffech gefnogi’r gwaith caled sydd ynghlwm gyda chynnal a chadw llwybr a thirlun byd-enwog, gallwch helpu drwy gyfrannu at ein cynllun Cefnogi Clwydi.

Mae yna 200 eitem o gelfi unigol megis gatiau, pontydd, arwyddbyst ar hyd Llwybr Arfodir Ceredigion; cysylltwch â’r Tîm Llwybrau Cyhoeddus i drafod eich dewis le (gweler manylion cyswllt ar y gwaelod).

Bydd pob eitem yn cynnwys plac wedi ei bersonoli, sy’n rhoi’r opsiwn i chi gyfrannu er cof am rywun annwyl, fel rhodd i rywun arbennig, drwy gyfrwng eich cwmni/sefydliad neu hyd yn oed yn eich enw eich hun.

Manylion allweddol am y cynllun:

  • Mae cost cyfranu yn gallu dibynu ar yr eitem a’i leoliad. Isod ceir gwybodaeth ynghylch cost gwahanol eitemau:
£250

Gatiau

£600

Arwyddbyst (pyst pren yn unig)

Pontydd

£1000

  • Bydd y cyfraniad am gyfnod o 10 mlynedd.
  • Fel rhan o’r cyfraniad, cynigir plac wedi ei bersonoli a bydd yr Awdurdod Lleol yn gosod y plac hwnnw ar yr eitem unigol. Mae’r plac pres yn mesur tua 6x2 modfedd. Os caiff yr eitem ei adnewyddu yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd, caiff y plac ei roi ar yr eitem newydd.
  • Ar ddiwedd y cyfnod o10 mlynedd, bydd rhywun yn cysylltu gyda’r cyfranwyr i weld a ydynt am barhau gyda’r cyfraniad am gyfnod o 10 mlynedd arall.
  • Fel rheol dim ond un plac gaiff ei roi ar bob eitem o gelfi a chaiff ei osod ar yr eitem yn dilyn trafodaethau rhwng yr unigolyn/busnes/sefydliad a’r Awdurdod Lleol (gwelwch telerau ac amdodau).
  • Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y cynllun ‘Rhoi Gât’ yn cefnogi’r broses o gynnal a chadw’r Llwybr anhygoel hwn ar hyd yr arfordir yn ogystal â rhwydwaith ehangach.
  • Gellir rhoi’r geiriau isod ar y placiau:
    - ‘Cyflwynedig i……(ychwanegwch enw)'
    - ‘Rhoddwyd gan….(ychwanegwch enw)’

 

Os hoffech ‘Roi Gât’ lawrlwythwch y ffurflen gais ac wedi i chi ei llenwi, dychwelwch hi at Clic@ceredigion.gov.uk

Fel arall gallwch ei dychwelyd drwy’r post at:

Yr Arfordir a Chefn Gwlad
Cyngor Sir Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA

Taliadau

Mae yna nifer o ffyrdd y gellwch dalu; arian parod, siec, cardiau credyd/debyd. Trafodwch hyn o flaen llaw gydag aelod o’r tîm i gadarnhau pa ddull yw’r mwyaf cyfleus i chi.

Meinciau

Ein hamcan cyffredinol yw cael cyn lleied o gelfi â phosibl ar hyd Llwybr yr Arfordir a lleoli meinicau yn y llefydd mwyaf addas yn unig. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael ceisiadau niferus i osod meinciau mewn llefydd poblogaidd ar hyd y llwybr, mae llif cyson y ceisiadau yn golygu i ni orfod gwrthod rhai yn y gorffennol. Er mwyn osgoi siom, awgrymwn fod y sawl sydd am gofio am anwyliaid yn ystyried ein cynllun ‘rhoi gât’ fel dewis arall posibl yn hytrach na rhoi meinciau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Am fwy o wybodaeth am y cynllun ‘Rhoi Gât’ cysylltwch â’r Tîm Arfordir a Chefn Gwlad drwy ffonio 01545 570 881 neu e-bostiwch Clic@ceredigion.gov.uk