Hawliau tramwy cyhoeddus yw un o'r prif ffyrdd y gall pobl gael mynediad at gefn gwlad a'i fwynhau.

Hefyd, mae rhwydwaith yr hawliau tramwy cyhoeddus yn rhan o'r seilwaith teithio lleol, gan ddarparu llwybrau rhwng cartrefi pobl a chyfleusterau lleol a lleoliadau gwaith.

Mae sicrhau mynediad at yr arfordir a chefn gwlad yn rhan hanfodol o dwristiaeth wledig Ceredigion ac mae rhwydwaith y llwybrau yn ased economaidd allweddol. Yn ychwanegol at hynny, mae mynediad at gefn gwlad yn chwarae rôl bwysig ym maes iechyd a lles. Gall cerdded, beicio a marchogaeth ceffylau yn rheolaidd wella iechyd pobl Cymru.

​​Mae'r Cyngor Sir yn gwella cyflwr hawliau tramwy yng Ngheredigion. Caiff hawliau tramwy yn y Sir eu rheoli fesul ardal ac mae Ceidwad yn gysylltiedig â phob ardal.

Cysylltiadau:

  • Gareth Owen - Parcmon Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad (Ardal 1)
  • Haydn Lewis - Parcmon Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad (Ardal 2)
  • Osian Jones - Parcmon Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad (Ardal 3)

Ceir rhagor o fanylion yn yr adran gysylltiadau.

Ardaloedd Parcmon

Os hoffwch adrodd problem gyda llwybr tramwy, cliciwch ar y linc isod:

Adrodd Problem

Dylid nodi y caiff 'troedffyrdd', sydd yn aml yn llwybrau tarmac ynghanol trefi a phentrefi, eu cynnal a'u cadw gan yr Adran Priffyrdd, yn hytrach nag Adain yr Arfordir a Chefn Gwlad.

Mae llwybrau troed, llwybrau ceffylau, cilffyrdd cyfyngedig a chilffyrdd yn briffyrdd cyhoeddus, ac mae gan berchnogion tir a ffermwyr rai cyfrifoldebau mewn perthynas â'r hawliau tramwy hynny:

  • Dylai perchennog y tir sicrhau y cedwir camfâu, clwydi a chroesfannau ar yr hawliau tramwy hyn mewn cyflwr da. Mae'n rhaid cael caniatâd Cyngor Sir Ceredigion cyn codi unrhyw glwydi neu gamfâu newydd
  • Dylid sicrhau nad oes dim rhwystrau ar hawliau tramwy, a dylai perchennog y tir dorri unrhyw lystyfiant sy'n hongian dros y llwybr
  • Ni ddylid gadael unrhyw darw gwartheg godro hŷn na 10 mis oed mewn cael lle mae hawl tramwy cyhoeddus yn mynd drwyddo. Y bridiau godro cydnabyddedig yw Swydd Aeron (Ayrshire), Gwartheg Llaeth Byrgorn, Gwartheg Ffrisia Prydeinig, Guernsey, Jersi, Ceri a Holstein Prydeinig. Bydd yn rhaid i deirw hŷn na deg mis oed o unrhyw frîd arall gael gwartheg neu aneirod yn y cae gyda hwy

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd statudol i ddiogelu hawliau'r cyhoedd i gael mynediad at Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ac mae ganddo'r grym i gyflawni unrhyw waith ei hunan a chael perchennog y tir i ad-dalu'r costau. I gael rhagor o gyngor, cysylltwch ag Adain yr Arfordir a Chefn Gwlad.