Rhoddir Hysbysiadau Gwelliant a Cau lle mai gofyniad i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre. Mae hyn yn cael ei wneud yn unol â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Llywodraethau lleol ayb.) (Cymru) 2020.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor trwy ddilyn y ddolen hon: Cefnogi Economi Ceredigion

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar y canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru: Cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Diogelu’r Cyhoedd ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.