Cymorth i weithwyr gofal sy’n gorfod bod yn absennol o’r gwaith oherwydd eu bod yn dioddef o COVID-19 neu fod amheuaeth eu bod yn dioddef o’r haint neu oherwydd eu bod yn gorfod hunanynysu.

Mae’r cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn cynorthwyo gweithwyr gofal nad ydynt yn derbyn dim heblaw tâl salwch statudol pan fyddant yn absennol neu’r sawl nad ydynt yn gymwys ar gyfer Tâl Salwch Statudol.

Mae’n darparu arian er mwyn caniatáu i gyflogwyr dalu cyflog llawn i weithwyr cymwys os na fedrant weithio oherwydd COVID-19.

Mae hyn yn diddymu’r anfantais ariannol a ddaw i weithwyr gofal yn sgil bod yn absennol o’r gwaith.  Bydd yn gymorth i ddiogelu ein dinasyddion mwyaf bregus.   Diben y gronfa yw rheoli haint.

Mae’r cynllun yn weithredol rhwng 1 Tachwedd 2020 a 31 Awst 2022.

 

Pwy sy’n gymwys

Swydd

Er mwyn bod yn gymwys mae’n rhaid i’r unigolyn fod:

  • yn gyflogedig gan gartref gofal cofrestredig (gan gynnwys cartrefi plant)
  • yn gyflogedig gan wasanaeth gofal cartref
  • yn weithiwr gofal i asiantaeth neu’n nyrs i asiantaeth (gyda gwaith eisoes wedi ei drefnu mewn cartref gofal cofrestredig neu gyda gwasanaeth gofal cartref)
  • yn aelod o fanc neu gronfa o staff a threfniadau eisoes wedi eu gwneud iddo/iddi ymgymryd â chyfres o sifftiau
  • yn aelod staff dan gytundeb ac yn cynnig gwasanaethau dyddiol angenrheidiol, megis arlwyo rheolaidd mewn cartrefi gofal a chanddo/chanddi gyswllt sylweddol â phreswylwyr
  • yn gynorthwyydd personol a delir drwy daliadau uniongyrchol

Gall cyflogai sydd â dwy swydd, a’r ddwy yn gymwys ar gyfer y cynllun, hawlio taliadau o ran y ddau gyflog rhan amser. 

Natur y gyflogaeth

Er mwyn bod yn gymwys, gall yr unigolyn fod:

  • yn llawn amser neu’n rhan amser
  • yn ddibynnol ar gytundeb cyflogaeth dim oriau
  • yn ddibynnol ar gytundeb parhaol neu dros dro
  • yn gweithio o asiantaeth gofal
  • yn aelod o fanc neu gronfa o staff
  • yn hunangyflogedig

Rhesymau dros absenoldeb

Mae’n rhaid bod yr unigolyn yn absennol o’r gwaith am un o’r rhesymau canlynol:

  • mae’n dioddef o symptomau COVID-19
  • mae wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19
  • mae’n hunanynysu gan ei fod wedi ei adnabod fel cyswllt gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru
  • mae’n hunanynysu oherwydd bod aelod o’r aelwyd yn dioddef o symptomau COVID-19 neu wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyd y cyfnod y mae gweithwyr i hunanynysu:
Hunanynysu: canllawiau aros gartref i aelwydydd â choronafeirws posibl

 

Sut ydw i’n derbyn ychwanegiad?

Dylid talu’r ychwanegiad i weithwyr gofal cymwys drwy eu cyflogres reolaidd arferol.  Gall cyflogwyr yn eu tro wneud cais i’w Hawdurdod Lleol gan hawlio ad-daliad am y costau a ddaeth i’w rhan wrth dalu’r ychwanegiad i’w cyflogeion. 

Os credwch eich bod yn gymwys ar gyfer yr ychwanegiad, dylech siarad â’ch cyflogwr yn y lle cyntaf.  Gallwch hefyd edrych ar y canllaw llawn ynglŷn â’r cynllun sydd i’w weld ar Wefan Llywodraeth Cymru: Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19.

 

Ymholiadau pellach:

Os hoffech wneud ymholiadau pellach ynglŷn â’r cynllun hwn, gallwch gysylltu â’r Cyngor drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol: YchwanegiadDSS@ceredigion.gov.uk.