Mae Tîm Rheoli Achosion Ceredigion wedi cael ei sefydlu i ymateb i glystyrau o achosion o Covid-19 yn y sir. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Phrifysgol Aberystwyth i atal y feirws rhag lledaenu. Ond mae arnom angen help pawb.

Cofiwch wneud y pethau sylfaenol i gadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel:

  • Cael y ddau frechlyn a'r pigiad atgyfnerthu.
  • Mae'n fwy diogel tu allan na dan do.
  • Gwneud prawf llif unffordd cyn gweld eraill.
  • Hunanynysu a chael prawf os oes gennych symptomau.
  • Golchi eich dwylo yn rheolaidd.
  • Gwisgo masg lle bo angen.

Gellir darllen y canllawiau'n llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae prif symptomau’r coronafeirws yn cynnwys:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu'ch cefn yn teimlo'n boeth i'w gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd).
  • peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau peswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer).
  • methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer

Dylai pobl fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel cur pen, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, dylech hunanynysu a chymryd prawf llif unffordd (LFT) 

Gallwch archebu profion llif unffordd ar-lein neu drwy ffonio 119 rhwng 7am a 11pm (mae galwadau am ddim)

Daliwch ati i hunanynysu tan y cewch ganlyniad eich prawf llif unffordd.

Darllenwch y canllawiau yn llawn ar hunanynysu ar wefan Llywodraeth Cymru: Hunanynysu 

Prifysgol Aberystwyth

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer myfyrwyr ar gael ar wefan Prifysgol Aberystwyth. Mae hyn yn cynnwys y mesurau rheoli sy’n cael eu rhoi ar waith ledled y campws.

Gellir hefyd gweld nifer yr achosion sydd wedi'u cadarnhau o'r coronafeirws ym Mhrifysgol Aberystwyth ar wefan y brifysgol: Nifer yr achosion o Covid-19

PCYDDS: Campws Llanbedr Pont Steffan

Mae'r holl wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr ar gael yma: Newyddion Coronafeirws

Gwybodaeth gyffredinol i fyfyrwyr

Canllawiau Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr yng Nghymru: Rheolau’r coronafeirws a myfyrwyr: canllawiau.

Os byddwch yn datblygu symptomau COVID-19, bydd angen i chi hunanynysu yn syth ac archebu prawf.

Gallwch wneud hyn ar wefan Llywodraeth Cymru: Archebu Prawf Coronafeirws neu drwy ffonio 119.

Mae cyfleuster gyrru trwodd a cherdded i mewn COVID-19 wedi'i leoli yng Nghanolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE. Bydd angen i chi archebu prawf cyn mynd yno.

Pan fyddwch yn archebu eich prawf, sicrhewch eich bod yn dewis yr opsiwn y mae arnoch ei angen (er enghraifft, dewiswch y cyfleuster cerdded i mewn yn unig os nad ydych yn gallu teithio yn eich cerbyd eich hun i’r cyfleuster gyrru trwodd). 

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr prifysgol sydd â symptomau Covid-19, wrth archebu prawf, ddarparu'r cyfeiriad lleol dros dro y maent yn byw ynddo tra eu bod yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac nid eu cyfeiriad cartref arferol.

Peidiwch â mynd i'r cyfleuster heb drefnu prawf yn gyntaf gan na fydd yn bosibl eich gweld heb apwyntiad. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau profi ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda