Defnyddiwch y canllaw yma i helpu wella’ch cysylltiad digidol.

Dilynwch y camau isod i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi.

1: Pa wasanaeth band eang allwch chi ei dderbyn?

Yn gyntaf, mae werth edrych os yw band eang ffeibr ar gael i chi ar wefan Ofcom. Efallai fod band eang fwy cyflym ar gael i chi - ond ni ddaw yn awtomatig. Os ydi band eang ffeibr yn opsiwn i chi, trafodwch gyda Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) i weld pa becynnau sydd ar gael i wella’ch cyflymder.

2: Asesu eich opsiynau

Os nad ydych yn medru derbyn band eang cyflym iawn drwy ffeibr, gall fod opsiynau eraill ar gael i dderbyn cyflymder uwch. Gall rhain gynnwys – cysylltiad di-wifr sefydlog, cysylltiad symudol/4G neu gysylltiad lloeren. Am ragor o wybodaeth am dechnolegau eraill fel hyn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

3: Darganfod pa gyflymder rydych yn ei dderbyn nawr

Gallwch redeg prawf cyflymder gan ddefnyddio profwr band eang a symudol swyddogol Ofcom, bydd hwn yn dweud wrthych pa gyflymder rydych yn ei gael yn awr. Gallwch lawr-lwytho ar ei ffon symudol (chwiliwch “Ofcom” yn yr Apple App Store neu ar Google Play) neu ar eich cyfrifiadur.

4: Cael y mwyaf allan o’ch band eang

Mae sawl peth allwch chi wneud adref hefyd i sicrhau fod eich band eang yn gweithio i’w llawn botensial. Gall hyn gynnwys uwchraddio eich llwybrydd, symud y llwybrydd oddiwrth ddyfeiriau electronig eraill, lleihau’r nifer o ddyfeisiau sydd wedi cysylltu, defnyddio gweiren ethernet i gysylltu yn syth i’r llwybrydd ac hefyd clirio stôr (cache) eich porwr gwe. Ceir rhagor o wybodaeth ar y camau allwch ei gymryd adref ar wefan Ofcom.

5: Defnyddio i’w llawn botensial

Boed chi’n edrych i fynd ar-lein a chreu “busnes fel arfer” newydd neu cynnal eich brand yn lleol yn barod i ddychwelyd i’r arfer, mae gan Cyflymu Busnes Cymru nifer o gyrsiau a webinarau ar gyfer busnesau o bob maint ac angen. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.

Os rydych yn weithiwr allweddol neu’n ymateb yn uniongyrchol i’r Coronafeirws yn eich gwaith a fod eich cysylltiad yn creu problemau gweithio o adref yn effeithiol yn y cyfnod yma, cysylltwch i weld os allwn helpu: digidol@ceredigion.gov.uk