Er bod cyfyngiadau wedi cael eu codi, dylech wneud popeth o fewn eich gallu i gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel.

Nid yw COVID-19 wedi diflannu ac mae'n debygol o aros gyda ni yn fyd-eang. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori’n gryf bod pawb yn hunanynysu os oes ganddyn nhw symptomau COVID neu os ydyn nhw’n profi’n bositif.

Nid yw gorchuddion wyneb bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu nac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus.

Nid oes bellach ofyniad cyfreithiol i unigolion brofi eu statws brechu,darparu prawf o brawf negyddol diweddar neu eithriad meddygol i gael mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau yng Nghymru. Fodd bynnag, gall busnesau a lleoliadau ystyried ei gwneud yn ofynnol o hyd i ddefnyddio’r tocyn COVID neu brawf negyddol fel rhan o’r mesurau rhesymol i leihau’r risg o coronafeirws.

Cadw Cymru'n Ddiogel yn y Gwaith

I fusnesau, wrth ystyried beth sydd angen ei wneud i gadw’r gweithlu’n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru i gael canllawiau, enghreifftiau ac adnoddau.

“Addo. Gwnewch addewid dros Gymru.”

Mae Ceredigion yn cefnogi ymgyrch Addo Croeso Cymru i annog pawb sy’n teithio o amgylch Cymru i addo i wneud y pethau bychain fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid ar wefan Croeso Cymru www.visitwales.com/promise

Dolenni defnyddiol