Mae'r holl wybodaeth, cymorth a chanllawiau diweddaraf i blant a phobl ifanc ar gael isod, ynghyd ag adnoddau addysg.

Gorchudd Wyneb

  • Bydd disgwyl i ddisgyblion (cynradd ac uwchradd) wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth ysgol.
  • Dylai holl staff a dysgwyr yn ein hysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion nawr wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cynnal pellter corfforol.

Prydau Ysgol am Ddim

  • Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys, llawn-amser sy'n mynychu ysgolion a reolir gan Awdurdod Addysg Ceredigion. I gael rhagor o wybodaeth (gan gynnwys beth yw'r trefniadau pan fo disgyblion adref), ac i wneud cais am y cynllun, ewch i'r dudalen hon: Prydau Ysgol am Ddim

Mae 86 o fannau chwarae cymunedol yng Ngheredigion. Mae 85 ohonynt naill ai yn eiddo i Gynghorau Tref a Chymuned neu Grwpiau Cymunedol neu yn cael eu rheoli ganddynt, felly mae'r penderfyniad i'w hailagor yn perthyn iddynt hwy. Mae un yn eiddo i Gyngor Sir Ceredigion, sef Netpool yn Aberteifi sydd ar agor.

Canllawiau a Gwybodaeth

Llywodraeth Cymru: Addysg a Gofal Plant

Cyngor Sir Ceredigion: Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc