Skip to main content

Ceredigion County Council website

Digwyddiad Ymgynghori cyn Cyflwyno Cais Cynllunio

Mae'r ymgynghoriad yma bellach ar gau

Digwyddiad ar y safle oedd hwn i gasglu barn y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i gyd-fynd â chais cynllunio llawn ar gyfer estyniad arfaethedig i'r ysgol/ystafell ddosbarth yn Ysgol Gymraeg, Aberystwyth. 

Trafodwyd y cais gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 10/05/2023.

 

PENDERFYNIAD

GOHIRIO’R penderfyniad er mwyn cael ymateb boddhaol gan ymgynghorai, sef NRW, ynghylch llifogydd, halogi tir ac arolwg ystlumod, a hefyd, ceisio eglurhad gan gynrychiolaeth o swyddogion i gymeradwyo/gwrthod y cais gan bod y Swyddog Corfforaethol Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio wedi datgan budd yn y cais.  Cyflwynir y cais gerbron y Pwyllgor eto ar ôl cael y wybodaeth gan yr ymgynghorwyr.

 

Gellir gweld yr Adroddiad Ymgynghori Cyn-ymgeisio (PAC), a chynnydd y cais cynllunio ar Borth Cynllunio'r Cyngor Ceredigion | Council Direct | Application | 61177 (tascomi.com) (mae’r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig)

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal ar dydd Mawrth 31ain o Ionawr unrhyw bryd rhwng 4yp ac 8yp yn ysgol Gymraeg Aberystwyth, Rhodfa Plascrug, Aberystwyth, SY23 1HL.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth Digwyddiad Ymgynghori cyn Cyflwyno Cais Cynllunio