Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid 2027-2032

Bydd yr ymgyrch hwn yn cau ym mis Mawrth 2026.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion eisiau eich help chi i lunio dyfodol gwaith ieuenctid yn y sir.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol greu cynllun gwaith ieuenctid pum mlynedd (2027–2032). Bydd strategaeth newydd Ceredigion yn amlinellu'r weledigaeth a'r blaenoriaethau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Ngheredigion.

Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan pwysig ar gyfer lles, addysg a chyfleoedd bywyd pobl ifanc. Rydym am i bobl ifanc a phartneriaid ddweud wrthym beth sy'n bwysig i chi fel bod ein strategaeth yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau go iawn.

Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod gwasanaethau ieuenctid Ceredigion yn parhau’n gryf ac yn canolbwyntio ar helpu pob person ifanc i gyrraedd eu potensial.

 

Sut i gymryd rhan

Pobl ifanc - cwblhewch yr arolwg ar-lein - Arolwg Pobl Ifanc.

Oedolion sydd â diddordeb - cwblhewch yr arolwg ar-lein - Arolwg Gwasanaeth Ieuenctid.

Byddwn hefyd yn cynnal grwpiau ffocws mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid. Edrychwch am ragor o wybodaeth am y rhain, neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Ieuenctid am fwy o fanylion.
 

Os hoffech dderbyn y wybodaeth a'r arolwg mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch ieuenctid@ceredigion.gov.uk.

Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom i: clic@ceredigion.gov.uk.

 

Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

 

Diogelu Data

Darllenwch sut mae'r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

 
Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2026. Bydd y cynllun terfynol yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid ym mis Mehefin 2026.

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynnig hwn, cysylltwch â ni:
E-bost: ieuenctid@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 570881