Polisi Gorfodi Corfforaethol
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 20 Ionawr 2026.
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswyddau cyfreithiol i gynnal gwahanol wiriadau a gweithgareddau gorfodi sy'n helpu i ddiogelu'r amgylchedd, y cyhoedd a busnesau.
Dyma rai o'r pethau y mae gan y cyngor ddyletswydd i'w hamddiffyn a'u gorfodi os oes angen:
- Iechyd a lles y cyhoedd – sicrhau bod bwyd a diod yn ddiogel i'w bwyta ac yfed.
- Economi – rydym yn amddiffyn busnesau lleol rhag cael eu niweidio gan gystadleuaeth annheg ac anghyfreithlon.
- Tai - rydym yn sicrhau safonau tai gofynnol, yn enwedig yn y sector rhentu preifat.
- Dysgu – gallwn weithredu i sicrhau bod pobl ifanc yn mynychu'r ysgol.
- Cynllunio - rydym yn sicrhau bod datblygiad yn cael ei reoli o fewn deddfwriaeth gynllunio a chynlluniau'r cyngor.
- Diogelu'r cymuned, ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans - rydym yn gweithio'n helaeth gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys yr Heddlu.
- Lles Anifeiliaid - rydym yn cymryd camau i gynnal safonau rheoleiddio.
- Yr amgylchedd – sicrhau bod bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn cael eu gwarchod.
- Mynediad – gallwn gymryd camau i gadw hawliau tramwy ar agor.
Er mwyn symleiddio pethau, rydym wedi diweddaru ein Polisi Gorfodi Corfforaethol. Mae hyn yn dod â'r rhan fwyaf o'n gweithgareddau gorfodi perthnasol mewn un ddogfen. Rhaid i rai gweithgareddau, er enghraifft troseddau parcio, fod cael gweithdrefnau annibynnol.
Credwn fod ein Polisi Gorfodi Corfforaethol drafft yn cael ei ddylanwadu gan arfer da, deddfwriaeth gyfredol, canllawiau a chodau ymarfer statudol. Hoffem wybod beth ydych chi'n ei feddwl.
Rhagor o Wybodaeth
Lawrlwythwch y Polisi Gorfodi Corfforaethol drafft - Polisi Gorfodi Corfforaethol Drafft 2025
Lawrlwythwch crynodeb o'r Polisi - Crynodeb Cymraeg plaen Polisi Gorfodi Corfforaethol
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein harolwg ar-lein - Arolwg ar-lein
Lawrlwythwch gopi papur - Arolwg ar bapur Polisi Gorfodi Corfforaethol
Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom - clic@ceredigion.gov.uk.
Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch partneriaethau@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.
Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn yn dadansoddi'r adborth rydych chi'n ei roi i ni ac yn cyflwyno'r adroddiad, asesiad effaith integredig wedi'i ddiweddaru a'r Polisi Gorfodi Corfforaethol terfynol i Gabinet Cyngor Ceredigion ar 3 Mawrth 2026.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd Cabinet Cyngor Ceredigion, dilynwch y ddolen hon Cyngor Sir Ceredigion.
Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynnig hwn, cysylltwch â ni drwy'r manylion cyswllt uchod.