Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 10/05/2023

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau ar y 29/06/2023.

Is-grŵp Hen Ysgol Sirol Tregaron

Atodiad 1 - Tregaron- Atebion llawn

Atodiad 2 - Crynodeb

Yn dilyn trafodaeth, nododd yr Aelodau yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus a'r argymhellion gan yr Is-grŵp, a PHENDERFYNWYD yn unfrydol:

  1. a) Bod swyddogion, ar ran yr Ymddiriedolwyr, yn pennu swyddogion priodol yn y gwasanaethau Porth Cymorth Cynnar ac Ysgolion a Diwylliant i drafod yr opsiynau ynghylch arian grant ar gyfer cyfleusterau chwaraeon; a
  2. b) Bod yr Is-grŵp, sy'n cynnwys y swyddogion a nodir yn yr argymhelliad uchod ac aelodau presennol yr is-grŵp, yn cwrdd i drafod yr opsiynau ariannu hynny ymhellach gan wneud argymhellion i'r Pwyllgor.

 

Ymgynghoriad gwreiddiol

Cyngor Sir Ceredigion yw’r ymddiriedolwr ar gyfer elusen ‘Cronfa Addysg Ganolraddol a Thechnegol Sir Aberteifi’. Roedd yr Hen Ysgol Sirol yn Nhregaron yn rhan o’r elusen hon ac ar 7 Chwefror 2019 cymeradwyodd y Comisiwn Elusennau gynllun newydd a oedd yn galluogi’r Cyngor, fel yr ymddiriedolwr, i werthu’r Hen Ysgol a defnyddio’r elw o’r gwerthiant tuag at ddiben yr elusen.

Diben yr elusen yw datblygu addysg ar gyfer plant oed cyn-ysgol a phlant oed ysgol yn Nhregaron.  

Ar hyn o bryd mae’r ymddiriedolaeth yn dal £100,645 o arian sy’n cynnwys yr elw net yn dilyn gwerthu’r Hen Ysgol a gwerthu’r hen ysgoldy yn y gorffennol, ynghyd â’r llog a gafwyd ar fuddsoddiadau.  

Ar 8 Gorffennaf 2021, penderfynodd Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau’r Cyngor y dylid creu is-grŵp i ystyried argymhellion ynghylch sut y dylid defnyddio’r arian sydd ym meddiant yr elusen er mwyn cyflawni diben yr elusen. Ar ôl gwerthu’r eiddo, yng nghyfarfod y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau ar 26 Medi 2022 penderfynwyd cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i gael barn y cyhoedd ynghylch sut y dylai’r arian gael ei wario i ddatblygu addysg plant oed cyn-ysgol a phlant oed ysgol yn Nhregaron. Byddai’r ymatebion yn bwydo i mewn i drafodaethau’r is-grŵp ac yn rhoi ffocws iddynt.  

Gellir defnyddio arian yr ymddiriedolaeth er budd pennaf yr ymddiriedolaeth yn unig, felly ni ellir ei ddefnyddio i ddatblygu unrhyw bolisi neu ddymuniad yr awdurdod addysg lleol neu i ddarparu unrhyw beth sydd eisoes yn ofyniad i’r awdurdod addysg lleol ei ddarparu.  

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 8 wythnos a bydd yn gorffen ar 10fed Mai 2023.

Pan fydd yr holl ymatebion wedi’u casglu ynghyd, bydd y canlyniadau’n mynd o flaen is-grŵp y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau er ystyriaeth.  

Bydd argymhellion yr is-grŵp yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau er ystyriaeth a phenderfyniad. 

Os hoffech ddarllen am waith arall y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau dilynwch y ddolen hon Cyngor Sir Ceredigion Manylion y Pwyllgor - Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

Sut i ymateb

Pan fyddwch chi wedi darllen y manylion uchod ynghylch yr ymgynghoriad, gallwch lenwi’r ffurflen ymateb electronig.

Fel arall, gallwch ofyn am gopi dros e-bost oddi wrth clic@ceredigion.gov.uk a dylid anfon yr ymateb at yr un cyfeiriad e-bost.

Os ydych chi angen i ni anfon copi papur atoch drwy’r post neu os ydych chi ei angen mewn fformat arall, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk neu 01545 570881.  

Os byddwch yn cael unrhyw drafferthion wrth ymateb, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn uchod i nodi hyn.

Edrychwn ymlaen at glywed eich safbwyntiau.