Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Diwylliant: Barn, Profiad a Hunaniaeth

Bydd yr ymgyrch ymgysylltu hwn yn cau ar 12fed Ionawr 2026.

Rydym eisiau deall sut mae pobl yn diffinio ac yn profi diwylliant yn eu bywydau pob dydd.

Rydym yn casglu barn trigolion Ceredigion am ystyr diwylliant, eich cysylltiad ag ef, a’r digwyddiadau diwylliannol rydych chi'n mynychu.


Gyda’ch mewnbwn, gallwn wella ein dealltwriaeth o agweddau pobl tuag at ddiwylliant, ac yna llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau a nodir, lle bo hynny’n bosibl. 

 

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch ein arolwg ar-lein - Diwylliant: Barn, Profiad a Hunaniaeth

Lawrlwythwch gopi papur - Holiadur Diwylliant: Barn, Profiad a Hunaniaeth (fersiwn MSWord)

 

Os ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Celfyddydau Diwylliant a'r Iaith Gymraeg, Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.

Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.

Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig hwn, mae croeso i chi gysylltu ag Elin Williams at elin.williams2@ceredigion.gov.uk