Cynllunio'r Ddarpariaeth Addysg
Diweddariad Bellach
Yn dilyn penderfyniad y Cabinet a amlinellir isod, cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu.
Mae'r adroddiad a'r ohebiaeth ar gael ar ein tudalen we - Cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025.
Penderfyniad:
Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, cytunwyd i nodi'r adroddiad a'r atodiadau er gwybodaeth, a hynny yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 3 Rhagfyr i ddiwygio'r ymgynghoriadau statudol i fod yn rhai anffurfiol; byddai hyn yn awr yn dod â statws yr ymgynghoriadau anffurfiol ynghylch Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys i ben.
Diweddariad
Cafodd y mater hwn ei ystyried gan Gynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 03/12/2024.
Adroddiad Cabinet ynghylch Ad-drefnu Ysgolion 03.12.2024
Penderfyniad:
- Nodi na ellir gweithredu penderfyniad y Cabinet ar 3/9/24.
- Cymeradwyo bod penderfyniad y Cabinet ar 3/9/24 sef penderfyniadau C50, C51, C52 a C53 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:
“bod y broses ymgynghori statudol i beidio â chynnal y ddarpariaeth yn Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys o 31 Awst 2025”, yn cael ei thrin fel ymgynghoriad anffurfiol ar ad-drefnu a dyfodol yr ysgolion.
Y rheswm dros y penderfyniad:
Nid yw peidio â chynnal yr ysgolion o 31 Awst 2025 yn opsiwn oherwydd nid yw'r amserlen yn gyraeddadwy.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar y cynnig i:
- Cau Ysgol Craig yr Wylfa o 31 Awst 2025, gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Talybont.
- Cau Ysgol Llangwyryfon o 31 Awst 2025, gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Llanilar.
- Cau Ysgol Syr John Rhys o 31 Awst 2025, gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Mynach.
- Cau Ysgol Llanfihangel y Creuddyn o 31 Awst 2025, gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Llanilar.
Mae manylion y cynnig a'r holl ddogfennau ymgynghori ar gael i'w darllen ar dudalen we Ysgolion ac Addysg Cyngor Sir Ceredigion.