Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Pont Plascrug

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 25 Chwefror 2026.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynllunio gwelliannau i'r bont sy'n croesi'r rheilffordd ym Mhlascrug, Aberystwyth.

Mae'r bont yn gyswllt pwysig ag ysgolion a chyfleusterau hamdden lleol, gan helpu pobl i osgoi taith llawer hirach trwy ganol y dref neu drwy Lanbadarn. Adeiladwyd y bont gyntaf 20 mlynedd yn ôl, ac mae bellach mor brysur ag erioed.

Bydd angen i bont newydd fodloni safonau dylunio modern. Mae angen iddi hefyd fod yn lletach i ymdopi â’r nifer cyfredol o bobl sy’n ei defnyddio a'r cynnydd disgwyliedig yn y dyfodol wrth i fwy o bobl ddewis cerdded, olwyno neu feicio.

Mae yna rai heriau oherwydd y datblygiad cyfagos, ac rydym wedi dylunio sawl opsiwn. Mae gan bob un ei fanteision a'i anfanteision ei hun, ac rydym am glywed eich barn arnynt.

 

Mwy or wybodaeth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy a ‘Rural Office’ i ddatblygu'r opsiynau dylunio ar gyfer y bont newydd.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld modelau 3D o'r opsiynau.
Mae'r modelau hyn yn ddangosol ac nid ydynt yn cynrychioli dyluniad wedi'i ddatrys yn llawn.

Opsiwn A

Opsiwn B

Opsiwn C

Lawrlwythwch y ddogfen hon sy'n esbonio ac yn cymharu'r opsiynau arfaethedig - Dogfen Ymgysylltu: Adolygiad o Opsiynau Pont Arfaethedig.

Mae'r cynlluniau hefyd i'w gweld yn Llyfrgell Aberystwyth a Chanolfan Hamdden Plascrug.

 

Sut i rannu eich barn

Cwblhewch arolwg ar-lein - arolwg ar-lein.

Lawrlwythwch gopi papur - copi papur.

Gallwch gasglu copi papur o'r arolwg o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol, drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom yn clic@ceredigion.gov.uk.

Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch ag Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy ar ygc@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679426.

 

Darllenwch sut mae Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiadau preifatrwydd a chwcis | YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori hwn, byddwn yn dadansoddi'r canlyniadau. Yna byddwn yn dechrau gweithio ar ddyluniad manwl o opsiwn a ffafrir i wneud yn siŵr ei fod yn hyfyw i'w adeiladu.

Bydd angen ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid allweddol maes o law, yn enwedig gan fod y bont yn croesi 'Network Railway'.

Bydd rhai opsiynau yn gofyn am Gais Cynllunio. Efallai y bydd yn cymryd blwyddyn neu ddwy arall o ddatblygiad cyn bod dyluniad terfynol yn barod i'w adeiladu.