Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben  ar 31/12/2023

Rydym yn adolygu ymatebion ar hyn o bryd.

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am drigolion i rannu'r hyn yr hoffent ei weld fel rhan o ddatblygiad posibl Canolfan Lles yn Aberteifi sy'n gwasanaethu de'r sir.

Mae'r Cyngor wedi penodi Alliance Leisure Ltd i helpu ei waith cynllunio ac i ddeall beth hoffai trigolion ei weld fel rhan o ddatblygiad posibl y Ganolfan Lles.

Rydym yn chwilio am bobl sy'n egnïol ac am bobl nad ydynt yn egnïol ar hyn o bryd i rannu eu barn ynglŷn â pha ddarpariaeth y credant fyddai'n ychwanegiad da i'r Ganolfan Lles ac yn helpu i wella eu Hiechyd a'u Lles.

Bydd yr arolwg yn cymryd rhwng 5 a 10 munud i'w gwblhau ac mae ar agor tan ddydd Sul 31ain Rhagfyr 2023.

Yn ogystal â'r arolwg, yn gynnar yn 2024 bydd y Cyngor ac Alliance Leisure yn cynnal grwpiau ffocws ar gyfer trigolion a rhanddeiliaid. Bydd y grwpiau hyn yn rhoi cyfle i drigolion a rhanddeiliaid drafod y cynlluniau gyda'r Cyngor.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb hon yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy Raglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru.