Mae Cyngor Sir Ceredigion yn prosesu cais o dan adran 15(2) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i gofrestru maes pentref ar dir y Cyngor ar gae Erw goch, tir ger Hafan y Waun, Waunfawr, Aberyswtyth, SY23 3AY.
Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor sy'n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Awdurdod Cofrestru i ymchwilio i'r cais a phenderfynu arno. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae bargyfreithiwr wedi’i gyfarwyddo i weithredu fel asesydd annibynnol a rhoi cyngor diduedd ar y cais cyn gwneud argymhellion ynghylch ei benderfyniad.
Mae’r cais ynghyd â’r holl dystiolaeth ategol a gyflwynwyd i’r Cyngor fel Awdurdod Cofrestru ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor. Mae'r ddolen ganlynol yn mynd â chi i dudalen we Tir Comin a Maes Pentref; sgroliwch i waelod y dudalen a chliciwch ar “Lawntiau Trefi neu Bentrefi”, sgroliwch i lawr ymhellach i “Cae Erw Goch”, lle mae ffeil zip yn cynnwys yr holl ddogfennaeth berthnasol. Sylwch fod y dogfennau a dderbyniwyd fel rhan o'r cais a'r ymgynghoriadau yn niferus ac efallai y bydd yn cymryd ychydig funudau i'w lawrlwytho.
Os hoffai unrhyw un weld y dogfennau, ond nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiadur, fe'u gwahoddir i fynychu un o lyfrgelloedd Cyngor Sir Ceredigion lle mae mynediad i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim.
Yn dilyn asesiad cychwynnol o'r cais ag cyflwyniadau/gwrthwynebiadau mae'r bargyfreithiwr (aseswr annibynnol) wedi argymell bod y mater o anghydnawsedd statudol yn cael ei benderfynu'n gyntaf gan y bydd hyn yn llywio'r camau nesaf. Bydd y mater hyn yn cael ei wneud ar ffurf sylwadau ysgrifenedig gan y partïon â diddordeb; mae'r nodyn atodedig yn rhoi rhagor o fanylion. **Sylwch fod hon yn ddogfen gan ffynhonnell allanol, ac ar gael yn Saesneg yn unig.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud sylw ar y mater hwn gyflwyno'r rhain yn unol â'r cyfarwyddiadau yn y nodyn.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar ddydd Gwener 31 Mawrth 2023.