Skip to main content

Ceredigion County Council website

Asesiad Effaith Integredig - Safleoedd Gwastraff Cartref

Mae'n declyn Asesiad Effaith Integredig wedi'i gynllunio i helpu ein proses benderfynu a sicrhau bod y cynnig:

  • yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
  • yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol
  • yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 (gofynion Safonau'r Gymraeg)
  • yn cyfrannu at nodau Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cynnwys egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
  • yn ystyried rheoli risg.

Mae'r teclyn Asesiad Effaith Integredig hwn wedi'i gategoreiddio yn y 7 Nod Llesiant Cenedlaethol i Gymru:

  1. Cymru lewyrchus - lle mae gan bawb swyddi a does dim tlodi.
  2. Cymru gydnerth - lle rydym yn barod am bethau fel llifogydd.
  3. Cymru iachach - lle mae pawb yn iachach ac yn gallu gweld y meddyg pan fo angen.
  4. Cymru sy’n fwy cyfartal - lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo'u cefndir.
  5. Cymru o gymunedau cydlynus - lle gall cymunedau fyw'n hapus gyda'i gilydd.
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - lle mae gennym lawer o gyfleoedd i wneud gwahanol bethau a lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg os maen nhw eisiau.
  7. Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lle rydym yn gofalu am yr amgylchedd ac yn meddwl am bobl eraill ledled y byd.

 

Manylion y Cynnig

Teitl y Polisi / Cynnig / Menter

  • Atal gweithrediad y Safle Gwastraff Cartref yn Rhydeinon.

Maes Gwasanaeth

  • Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol

Enw'r swyddog sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig

  • Beverley Hodgett, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Amgylcheddol Lleol

Swyddog Arweiniol Corfforaethol

  • Rhodri Llwyd

Cyfarwyddwr Strategol

  • Barry Rees

Rhowch ddisgrifiad cryno o bwrpas y cynnig

Fel rhan o broses pennu cyllideb 2024/25, cytunwyd i adolygu’r oriau agor ar draws pob Safle Gwastraff Cartref, gan gynnwys cau un safle.

Y cynnig presennol yw atal gweithrediad y Safleoedd Gwastraff Cartref yn Rhydeinon, hyd nes y gellir cynnal adolygiad ehangach o seilwaith gwastraff, gan gynnwys Safleoedd Gwastraff Cartref. Nid oes bwriad i leihau’r oriau agor ar y safleoedd eraill ar hyn o bryd, ond dylid adolygu hyn unwaith y bydd effaith yr ataliad yn cael ei ddeall yn well.

Ar bwy fydd y cynnig hwn yn effeithio’n uniongyrchol?

Mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar y cyhoedd yn gyffredinol, ac yn enwedig trigolion Ceredigion ger Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon.

A yw’r rhai y bydd y cynnig yn effeithio arnynt wedi cael cyfle i wneud sylwadau arno?

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal a bydd y canlyniadau hynny yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu perthnasol a'r Cabinet.

 

Rheoli Fersiynau

Rhif y Fersiwn Awdur Cam yn y broses benderfynu Dyddiad yr Ystyriwyd Disgrifiad o unrhyw newidiadau a wnaed
1.0 Rhodri Llwyd Cyngor 29/02/2024 Amherthnasol
2.0 Beverley Hodgett Cyn-ymgynghori 15/04/2025 Diweddariad ar ôl adolygu'r data ac ystyried opsiynau

 

Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor

Pa un o Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor y mae’r cynnig hwn yn mynd i’r afael ag ef a sut?

Strategaeth Corfforaethol Cyngor Ceredigion 20222-27

Hybu'r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth

  • Nid yw'r cynnig yn cyfrannu'n uniongyrchol at yr Amcan hwn. Fodd bynnag, byddai'n ceisio darparu model cynaliadwy a fforddiadwy o leoliadau ailgylchu/gwaredu gwastraff yn y Sir.

Creu cymunedau gofalgar ac iach

  • Amherthnasol.

Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi i bobl o bob oed ddysgu

  • Amherthnasol.

Creu cymunedau cynaliadwy sy’n fwy gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd

  • Cyfrannu at 'adeiladu ar berfformiad rhagorol Ceredigion ym maes rheoli ac ailgylchu gwastraff.' Mae'r cynnig yn ceisio cyfyngu'r effaith negyddol ar y cyhoedd cyn belled â phosibl, wrth gyflawni'r arbediad costau a nodwyd, a chynnal lefel resymol o fynediad at wasanaethau safleoedd gwastraff cartref.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel lle mae gan bawb gwaith addas a lle nad oes tlodi.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

 

Cadarnhaol

Byddai'r cynnig yn ceisio darparu model cynaliadwy a fforddiadwy o leoliadau ailgylchu/gwaredu gwastraff yn y Sir, wrth gynnal lefel resymol o fynediad at wasanaethau safle gwastraff cartref.

Negyddol

Gallai’r cynnig gynyddu amseroedd teithio, ac felly allyriadau carbon, i’r rhai sydd agosaf at y safle.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae darpariaeth bresennol Ceredigion yn anghynaladwy ac yn anfforddiadwy wrth symud ymlaen ac fe ddengys tystiolaeth gan astudiaethau cenedlaethol bod gan Geredigion un o'r gyfran uchaf o safleoedd gwastraff cartrefi fesul 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

Disgwylir i atal y safle yn Rhydeinon a chadw oriau agor yn y safleoedd eraill gael yr effaith leiaf ar drigolion, o'i gymharu ag opsiynau eraill.

Byddai casgliadau gwastraff a chyfleoedd i ailgylchu yn dal i gael eu cynnal trwy wasanaeth casglu gwastraff cartref y Cyngor.


 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Gydnerth

Cymdeithas lle mae bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a'i gwella a lle mae ecosystemau yn iach ac yn gweithredu.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Gallai’r cynnig gynyddu amseroedd teithio, ac felly cael effaith gwael ar ansawdd yr aer i’r rhai sydd agosaf at y safle o ganlyniad i gynnydd mewn defnydd o geir.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Map yn dangos pellter o safle Rhydeinon i safleoedd gwastraff cartref amgen yng Ngheredigion.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

Ymgysylltu â’r cyhoedd, ynghyd â chynllun cyfathrebu a marchnata i esbonio rhesymeg a gofyn am gefnogaeth y cyhoedd. 

Bydd casgliadau gwastraff a chyfleoedd i ailgylchu yn dal i gael eu cynnal trwy wasanaeth casglu gwastraff cartref y Cyngor.


 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Iachach

Cymdeithas lle mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ac yn mwynhau iechyd corfforol a meddyliol da.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Ddim yn gadarnhaol nac yn negyddol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Amherthnasol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

Amherthnasol.


 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n Fwy Cyfartal

Cymdeithas lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Mae'r adran hon yn hirach oherwydd gofynnir i chi asesu effaith eich cynnig ar bob grŵp sydd wedi'i ddiogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad ydych wedi nodi mwy o effaith ar y grwpiau a restrir nag ar y boblogaeth gyffredinol, dylech ddewis 'Dim/Fawr Ddim'.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hoedran?

 

Plant a Phobl Ifanc hyd at 18 oed

  • Dim/Fawr Ddim

Pobl 18-50

  • Dim/Fawr Ddim

Pobl hŷn 50+

  • Dim/Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Ni fyddai’r cynnig yn effeithio’n anghymesur ar un grŵp oedran dros un arall.

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai’r grŵp hwn yn cael ei effeithio’n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Byddai ymgysylltu â’r cyhoedd, ynghyd â chynllun cyfathrebu a marchnata i esbonio’r rhesymeg a gofyn am gefnogaeth y cyhoedd, yn cael ei wneud all-lein, yn ogystal ag ar-lein – gwyddom fod pobl hŷn yn llai tebygol o weld cyfathrebu ar-lein.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hanabledd?

 

Amhariad ar y clyw

  • Dim/Fawr Ddim

Amhariad corfforol

  • Dim/Fawr Ddim

Amhariad ar y golwg

  • Dim/Fawr Ddim

Anabledd Dysgu

  • Dim/Fawr Ddim

Salwch hirdymor

  • Dim/Fawr Ddim

Iechyd Meddwl

  • Dim/Fawr Ddim

Arall

  • Dim/Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl sy'n anabl.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth? 

Bydd ymgysylltiad â'r cyhoedd, ynghyd â chynllun cyfathrebu a marchnata i esbonio'r rhesymeg a gofyn am gefnogaeth y cyhoedd, yn cael ei rannu gyda grwpiau sy'n cefnogi pobl anabl drwy Fforwm Anabledd Ceredigion.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n drawsryweddol?

 

Menywod Traws

  • Dim/Fawr Ddim

Dynion Traws

  • Dim/Fawr Ddim

Pobl Anneuaidd

  • Dim/Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl sy'n drawsryweddol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Amherthnasol.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol gyfeiriadedd rhywiol?

 

Pobl Ddeurywiol

  • Dim / Fawr Ddim

Dynion Hoyw

  • Dim / Fawr Ddim

Menywod hoyw / lesbiaid

  • Dim / Fawr Ddim

Pobl Heterorywiol

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl â chyfeiriadedd rhywiol gwahaniaethol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth? 

Amherthnasol.

Ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil?

 

Pobl sy'n briod

  • Dim / Fawr Ddim

Pobl mewn partneriaeth sifil

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Amherthnasol.

A ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth?

 

Beichiogrwydd

  • Dim / Fawr Ddim

Mamolaeth

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl sy'n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?

Amherthnasol.

A ydych yn meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig?

 

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

  • Dim / Fawr Ddim

Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig

  • Dim / Fawr Ddim

Grwpiau Ethnig Cymysg/ Aml-ethnig

  • Dim / Fawr Ddim

Gwyn

  • Dim / Fawr Ddim

Grwpiau ethnig eraill

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Amherthnasol.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol grefyddau, credoau neu ddim cred?

 

Bwdhaidd

  • Dim / Fawr Ddim

Cristion

  • Dim / Fawr Ddim

Hindŵaidd

  • Dim / Fawr Ddim

Dyneiddiwr

  • Dim / Fawr Ddim

Iddewig

  • Dim / Fawr Ddim

Mwslim

  • Dim / Fawr Ddim

Sikh

  • Dim / Fawr Ddim

Pobl heb gred

  • Dim / Fawr Ddim

Eraill

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl â gwahanol grefyddau, credinwyr, neu anghredinwyr.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Amherthnasol.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ddynion neu fenywod?

 

Dynion

  • Dim / Fawr Ddim

Menywod

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar ddynion na menywod.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Amherthnasol.

A ydych yn credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl o Gymuned y Lluoedd Arfog?

 

Aelodau o'r Lluoedd Arfog

  • Dim / Fawr Ddim

Cyn-filwyr

  • Dim / Fawr Ddim

Gwŷr/gwragedd

  • Dim / Fawr Ddim

Plant

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio'n anghymesur ar bobl o Gymuned y Lluoedd Arfog.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Amherthnasol.


 

Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn golygu byw ar incwm isel o'i gymharu ag eraill yng Nghymru, gydag ychydig neu ddim cyfoeth cronedig, sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.

Mae cefndir teuluol neu lle mae person yn cael ei eni yn dal i effeithio ar ei fywyd. Er enghraifft, mae plentyn o deulu cyfoethog yn aml yn gwneud yn well yn yr ysgol na phlentyn o deulu tlawd, hyd yn oed os yw'r plentyn tlotach yn fwy naturiol academaidd. Gelwir hyn weithiau yn anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. 

Ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol?

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Efallai y bydd cynnydd bach yn y pellteroedd a deithiwyd i gael mynediad at gyfleuster ar gyfer nifer fach o breswylwyr, byddai hyn yn rhoi costau ychwanegol arnynt.

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r farn hon?

Map yn dangos pellter o safle Rhydeinon i Safleoedd Gwastraff Cartref amgen yng Ngheredigion.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Amherthnasol.


 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru o Gymunedau Cydlynus

Cymdeithas gyda chymunedau deniadol, hyfyw, diogel, sydd â chysylltiadau da.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Cadarnhaol

Byddai'r cynnig yn ceisio darparu model cynaliadwy a fforddiadwy o leoliadau ailgylchu/gwaredu gwastraff yn y Sir, wrth gynnal lefel resymol o fynediad at wasanaethau safle gwastraff cartref.

Negyddol

Mae'r cynnig yn debygol o wneud i bobl deimlo bod ganddynt lai o fynediad at wasanaethau a chyfleusterau da, er bod Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dosbarthu 'gwasanaethau' fel canolfannau cymunedol, ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd, clybiau, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, siopau a thafarndai, swyddfa'r post, peiriannau arian parod a gwasanaethau iechyd.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn  hon?

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?

Ymgysylltu â'r cyhoedd, ynghyd â chynllun cyfathrebu a marchnata i esbonio'r rhesymeg a gofyn am gefnogaeth y cyhoedd.

Bydd casgliadau gwastraff a chyfleoedd i'w ailgylchu yn dal i gael eu cynnal trwy wasanaeth casglu gwastraff cartref y Cyngor.


 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Nid yw'r cynnig hwn yn cyfrannu at y nod hwn.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Amherthnasol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?

Amherthnasol.

Gan gyfeirio at y canlynol, a ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y Gymraeg?

Cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg

  • Dim / Fawr Ddim

Trin y Gymraeg, dim llai ffafriol na'r Saesneg

  • Dim / Fawr Ddim

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r safbwynt hwn?

Does dim gwahaniaeth rhwng yr ieithoedd o fewn y cynnig hwn ac nid yw'n cael effaith ar y defnydd o'r Gymraeg.

Pa gamau y gallwch eu cymryd i gynyddu'r effaith gadarnhaol neu liniaru unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg?

Mae cwestiwn am effaith ar y Gymraeg wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad. Gall hyn ddatgelu tystiolaeth bellach o gamau y gallwn eu cymryd.


 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymdeithas sy'n ystyried sut y gallai ein gweithredoedd effeithio ar wledydd a phobl eraill ledled y byd.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Ddim yn gadarnhaol nac yn negyddol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Amherthnasol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?

Amherthnasol.


 

Cryfhau’r Cynnig

Os ydych wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol yn yr adrannau uchod, rhowch fanylion am unrhyw newidiadau a chamau gweithredu ymarferol a allai helpu i ddileu neu leihau'r effeithiau negyddol.

Beth fyddwch chi'n ei wneud? Pryd? Pwy sy'n gyfrifol? Cynnydd
Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus Mai-Gorffennaf 2025 Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol  
Ymgymryd ag ymarfer â’r cyhoedd os yw’r cynnig hwn yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet      

Os na chymerir camau i ddileu neu liniaru effeithiau negyddol, a fyddech cystal â chyfiawnhau pam. (Os ydych wedi nodi unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yna mae’n rhaid newid neu ddiwygio’r cynnig.)

Amherthnasol.

Sut fyddwch chi'n monitro effaith ac effeithiolrwydd y cynnig?

Parhau i fonitro data sy’n ymwneud â rheoli gwastraff yn y Safleoedd Gwastraff Cartref eraill, a’r gwasanaeth casglu wrth ymyl y palmant.


 

Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: 5 Ffordd o Weithio

Disgrifiwch isod sut rydych wedi gweithredu'r pum ffordd o weithio yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Hirdymor
Sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr ac anghenion tymor hir a’r angen i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

  • Nod y cynnig yw atal gweithrediad Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon tra bod adolygiad tymor hwy o'r seilwaith gwastraff yn cael ei gynnal. Yn y cyfamser, mae'r Cyngor wedi gorfod ymateb i'r heriau ariannol sylweddol parhaus. Nod y cynnig yw cyfyngu cymaint â phosibl ar yr effaith ar drigolion.

Cydweithio
Cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni canlyniadau.

  • Ar hyn o bryd nid oes unrhyw opsiwn o gydweithio ag eraill mewn perthynas â safleoedd gwastraff cartref.

Cynnwys
Cynnwys pobl sydd â buddiant a gofyn am eu barn.

  • Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal.

Atal
Darparu adnoddau i atal problemau rhag codi neu waethygu.

  • Nod y cynnig yw atal gweithrediad Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon tra bod adolygiad tymor hwy o seilwaith gwastraff yn cael ei gynnal. Yn y cyfamser, mae'r Cyngor wedi gorfod ymateb i'r heriau ariannol sylweddol parhaus.  Nod y cynnig yw cyfyngu cyn belled â phosibl, yr effaith ar drigolion.

Integreiddio
Ystyried effaith eich cynnig ar bedwar piler llesiant (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a'r amgylchedd), amcanion cyrff cyhoeddus eraill ac ar draws meysydd gwasanaeth yn y Cyngor.

  • Rydym wedi nodi unrhyw effaith neu effaith ddibwys ar y pedwar piler llesiant ac ar amcan cyrff cyhoeddus eraill a meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor.

 

Risg

Crynhowch y risg sy'n gysylltiedig â'r cynnig.

  1 2 3 4 5

Meini prawf asesu effaith

Isel iawn Isel Canolig Uchel Uchel iawn

Meini prawf asesu tebygolrwydd

Annhebygol o ddigwydd Llai tebygol o ddigwydd Yr un mor debygol o ddigwydd ag o beidio digwydd Mwy tebygol o ddigwydd Tebygol o ddigwydd

 

Disgrifiad o'r Risg Effaith Tebygolrwydd Sgôr (Effaith x Tebygolrwydd)
Cynnydd posibl mewn tipio anghyfreithlon o ganlyniad i'w gyflwyno. 2 2 4