Asesiad Effaith Integredig - Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi
Mae'n declyn Asesiad Effaith Integredig wedi'i gynllunio i helpu ein proses benderfynu a sicrhau bod y cynnig:
- yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
- yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol
- yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 (gofynion Safonau'r Gymraeg)
- yn cyfrannu at nodau Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cynnwys egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
- yn ystyried rheoli risg.
Mae'r teclyn Asesiad Effaith Integredig hwn wedi'i gategoreiddio yn y 7 Nod Llesiant Cenedlaethol i Gymru:
- Cymru lewyrchus - lle mae gan bawb swyddi a does dim tlodi.
- Cymru gydnerth - lle rydym yn barod am bethau fel llifogydd.
- Cymru iachach - lle mae pawb yn iachach ac yn gallu gweld y meddyg pan fo angen.
- Cymru sy’n fwy cyfartal - lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo'u cefndir.
- Cymru o gymunedau cydlynus - lle gall cymunedau fyw'n hapus gyda'i gilydd.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - lle mae gennym lawer o gyfleoedd i wneud gwahanol bethau a lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg os maen nhw eisiau.
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lle rydym yn gofalu am yr amgylchedd ac yn meddwl am bobl eraill ledled y byd.
Manylion y Cynnig
Teitl y Polisi / Cynnig / Menter
- Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi.
Maes Gwasanaeth
- Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd
Enw'r swyddog sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig
- Cathryn Morgan, Rheolydd Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Swyddog Arweiniol Corfforaethol
- Alun Williams
Rhowch ddisgrifiad cryno o bwrpas y cynnig
Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi diwygiedig (drafft). Cafodd ei polisi presennol ei gymeradwyo yn 2022. Mae’r cynllun gweithredu ategol yn gyflawn bellach. Nod y polisi diwygiedig yw:
- Cynyddu Eglurder ac Adborth
- Gwella Cyfathrebu a Hyrwyddo
- Gwella Hygyrchedd a Chynhwysiant
- Symleiddio Deunyddiau Ymgysylltu
- Cynorthwyo Cynghorwyr i Ymgysylltu
Ar bwy fydd y cynnig hwn yn effeithio’n uniongyrchol?
Aelodau’r cyhoedd yng Ngheredigion, yn enwedig y rhai sydd am ymgysylltu â ni a chymryd rhan ym mhrosesau penderfynu’r Cyngor.
Staff y Cyngor sy’n gyfrifol am weithgareddau ymgysylltu a chyfranogi’r Cyngor
A yw’r rhai y bydd y cynnig yn effeithio arnynt wedi cael cyfle i wneud sylwadau arno?
Cynhaliwyd ymgyrch ymgysylltu â’r cyhoedd yn Haf 2025. Cynhaliodd y Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant a Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd asesiad sylfaenol yn Haf 2025. Mae’r gweithgareddau hyn wedi ein helpu ni i ddatblygu’r polisi drafft.
Bydd y polisi drafft yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod Gaeaf 2025, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.
Rheoli Fersiynau
| Rhif y Fersiwn | Awdur | Cam yn y broses benderfynu | Dyddiad yr Ystyriwyd | Disgrifiad o unrhyw newidiadau a wnaed |
| 1.0 | Cathryn Morgan | Cyn Craffu | 21/10/2025 | Amherthnasol |
| 2.0 | Cathryn Morgan | Cyn ymgynghoriad cyhoeddus | 03/12/2025 | Newid yr effaith ar bobl anabl o Ddim/Fawr Ddim i Gadarnhaol. |
Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
Pa un o Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor y mae’r cynnig hwn yn mynd i’r afael ag ef a sut?
Strategaeth Corfforaethol Cyngor Ceredigion 20222-27
Hybu'r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
- Nid yw’n cyfrannu’n uniongyrchol ond mi fydd yn helpu i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau i gyflawni’r amcan hwn yn seiliedig ar weithgaredd ymgysylltu a chyfranogi effeithiol.
Creu cymunedau gofalgar ac iach
- Fel uchod ac mae hefyd yn cyfrannu at ein blaenoriaeth ‘Parhau i ddatblygu digwyddiadau cyfranogi i sicrhau bod gan gymunedau lais’.
Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi i bobl o bob oed ddysgu
- Fel uchod ac mae hefyd yn cyfrannu at ein blaenoriaeth ‘Cefnogi Cyngor Ieuenctid Ceredigion fel fforwm ar gyfer plant a phobl ifanc’ a ‘Datblygu sgiliau arweinyddiaeth ymhlith ein plant a phobl ifanc ar y cyfle cyntaf’.
Creu cymunedau cynaliadwy sy’n fwy gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd
- Nid yw’n cyfrannu’n uniongyrchol ond mi fydd yn helpu i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau i gyflawni’r amcanion hyn yn seiliedig ar weithgareddau ymgysylltu a chyfranogi effeithiol.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel lle mae gan bawb gwaith addas a lle nad oes tlodi.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Nid yw’n cyfrannu’n uniongyrchol ond mi fydd yn helpu i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau i gyflawni’r Nod hwn yn seiliedig ar weithgareddau ymgysylltu a chyfranogi effeithiol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Anmherthnasol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Gydnerth
Cymdeithas lle mae bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a'i gwella a lle mae ecosystemau yn iach ac yn gweithredu.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Nid yw’n cyfrannu’n uniongyrchol ond mi fydd yn helpu i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau i gyflawni’r Nod hwn yn seiliedig ar weithgareddau ymgysylltu a chyfranogi effeithiol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Amherthnasol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Iachach
Cymdeithas lle mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ac yn mwynhau iechyd corfforol a meddyliol da.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Nid yw’n cyfrannu’n uniongyrchol ond mi fydd yn helpu i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau i gyflawni’r Nod hwn yn seiliedig ar weithgareddau ymgysylltu a chyfranogi effeithiol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Amherthnasol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n Fwy Cyfartal
Cymdeithas lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.
Mae'r adran hon yn hirach oherwydd gofynnir i chi asesu effaith eich cynnig ar bob grŵp sydd wedi'i ddiogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Os nad ydych wedi nodi mwy o effaith ar y grwpiau a restrir nag ar y boblogaeth gyffredinol, dylech ddewis 'Dim/Fawr Ddim'.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hoedran?
Plant a Phobl Ifanc hyd at 18 oed
- Cadarnhaol
Pobl 18-50
- Cadarnhaol
Pobl hŷn 50+
- Cadarnhaol
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Mae’n debygol o gael effaith gadarnhaol ar bobl o bob oed. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn?
Mae’r cynllun gweithredu drafft yn cynnwys camau i ddatblygu ffyrdd gwell o ymgysylltu â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl ifanc. Gofynnodd y bobl a ymatebodd i’r ymgyrch ymgysylltu cyhoeddus am amseru digwyddiadau ymgysylltu fel nad yw pobl oedran gwaith yn cael eu heithrio (mae hyn wedi’i gynnwys yn y cynllun gweithredu). Dywedodd pobl hefyd y byddai’n well gan y rhai sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a phobl hŷn gael digwyddiadau ymgysylltu yn lleol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hanabledd?
Amhariad ar y clyw
- Dim/Fawr Ddim
Amhariad corfforol
- Dim/Fawr Ddim
Amhariad ar y golwg
- Cadarnhaol
Anabledd Dysgu
- Cadarnhaol
Salwch hirdymor
- Dim/Fawr Ddim
Iechyd Meddwl
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Mae’n debygol o gael effaith gadarnhaol ar bobl oherwydd eu hanabledd. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae’r cynllun gweithredu drafft yn cynnwys camau i gynnig ymgynghoriadau ar fformatau lluosog ac i sicrhau bod offer digidol yn hygyrch i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n drawsryweddol?
Menywod Traws
- Dim/Fawr Ddim
Dynion Traws
- Dim/Fawr Ddim
Pobl Anneuaidd
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Dim wedi’u nodi.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae’r polisi yn amlinellu sut y byddwn ni’n annog ac yn galluogi pobl leol i gymryd rhan yn ein prosesau penderfynu. Nid yw’r cynllun gweithredu yn cynnwys unrhyw gamau sy’n canolbwyntio’n benodol ar bobl drawsrywiol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol gyfeiriadedd rhywiol?
Pobl Ddeurywiol
- Dim / Fawr Ddim
Dynion Hoyw
- Dim / Fawr Ddim
Menywod hoyw / lesbiaid
- Dim / Fawr Ddim
Pobl Heterorywiol
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Dim wedi’u nodi.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Nid yw’r polisi na’r cynllun gweithredu yn cynnwys unrhyw gamau sy’n canolbwyntio’n benodol ar bobl o gyfeiriadedd rhywiol gwahanol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil?
Pobl sy'n briod
- Dim / Fawr Ddim
Pobl mewn partneriaeth sifil
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Dim wedi’u nodi.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Nid yw’r polisi drafft yn cynnwys unrhyw gamau a fydd yn cael effaith anghymesur ar bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
A ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth?
Beichiogrwydd
- Dim / Fawr Ddim
Mamolaeth
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Dim wedi’u nodi.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Ni fydd y polisi drafft hwn yn cynnwys unrhyw gamau a fydd yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
A ydych yn meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig?
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig
- Cadarnhaol
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig
- Cadarnhaol
Grwpiau Ethnig Cymysg/ Aml-ethnig
- Cadarnhaol
Gwyn
- Dim / Fawr Ddim
Grwpiau ethnig eraill
- Cadarnhaol
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae’n debygol o gael effaith bositif ar bobl mwyafrif byd-eang/ethnig leiafrifol. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Ar hyn o bryd mae pobl mwyafrif byd-eang/ethnig leiafrifol heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein hymgyrchoedd ymgysylltu ac ymgynghori. Mae’r cynllun gweithredu drafft yn cynnwys camau i ddatblygu ffyrdd gwell o ymgysylltu â phobl heb gynrychiolaeth ddigonol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol grefyddau, credoau neu ddim cred?
Bwdhaidd
- Cadarnhaol
Cristion
- Cadarnhaol
Hindŵaidd
- Cadarnhaol
Dyneiddiwr
- Cadarnhaol
Iddewig
- Cadarnhaol
Mwslim
- Cadarnhaol
Sikh
- Cadarnhaol
Pobl heb gred
- Dim / Fawr Ddim
Eraill
- Cadarnhaol
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae’n debygol o gael effaith bositif ar bobl sydd â chrefyddau a chredoau gwahanol. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Ar hyn o bryd mae pobl o grefyddau gwahanol heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein hymgyrchoedd ymgysylltu ac ymgynghori. Mae pobl heb grefydd yn cael ychydig yn ormod o gynrychiolaeth. Mae’r cynllun gweithredu drafft hwn yn cynnwys camau i ddatblygu ffyrdd gwell o ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ddynion neu fenywod?
Dynion
- Cadarnhaol
Menywod
- Cadarnhaol
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae’n debygol o gael effaith gadarnhaol ar ddynion a menywod. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae dynion yn cael eu cynrychioli’n dda ym mhrosesau penderfynu’r Cyngor, a menywod ddim mor dda. Beth bynnag, ar hyn o bryd nid yw dynion yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn ein hymgyrchoedd ymgysylltu ac ymgynghori. Mae’r cynllun gweithredu drafft yn cynnwys camau i ddatblygu ffyrdd o ymgysylltu’n well â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nododd yr ymgyrch ymgysylltu yr angen i amseru gweithgareddau ymgysylltu i siwtio argaeledd amrywiol, er enghraifft cyfrifoldebau gofalu (a ymgymerir yn aml, ond nid bob amser, gan fenywod). Mae’r cynllun gweithredu’n cynnwys camau i fynd i’r afael â hyn.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
A ydych yn credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl o Gymuned y Lluoedd Arfog?
Aelodau o'r Lluoedd Arfog
- Dim / Fawr Ddim
Cyn-filwyr
- Dim / Fawr Ddim
Gwŷr/gwragedd
- Dim / Fawr Ddim
Plant
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Dim wedi’u nodi.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Nid yw’r polisi drafft yn cynnwys unrhyw gamau a fydd yn cael effaith anghymesur ar bobl o gymuned y Lluoedd Arfog. Mae Fforwm Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog eisoes wedi’i restru fel grŵp rhanddeiliaid yn ein pecyn offer ymgysylltu ac ymgynghori.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Dyletswydd economaidd-gymdeithasol
Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn golygu byw ar incwm isel o'i gymharu ag eraill yng Nghymru, gydag ychydig neu ddim cyfoeth cronedig, sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.
Mae cefndir teuluol neu lle mae person yn cael ei eni yn dal i effeithio ar ei fywyd. Er enghraifft, mae plentyn o deulu cyfoethog yn aml yn gwneud yn well yn yr ysgol na phlentyn o deulu tlawd, hyd yn oed os yw'r plentyn tlotach yn fwy naturiol academaidd. Gelwir hyn weithiau yn anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.
Ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol?
- Cadarnhaol
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae’r polisi’n amlinellu sut y byddwn ni’n annog ac yn galluogi pobl leol i gymryd rhan yn ein prosesau penderfynu. Os caiff y polisi ei weithredu’n dda, mi fydd yn cael mwy o effaith bositif ar bobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol na phobl eraill.
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r farn hon?
Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn gysylltiedig â deilliannau addysgol is a gwaith â thâl is. Gall hyn arwain at yr angen i weithio mwy o oriau, gan leihau’r amser sydd ar gael i ymgysylltu, a chymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Gall hefyd arwain at ostwng lefelau hyder, neu hyd yn oed wahaniaethu, a gall hyn leihau’r ewyllys i ymgysylltu, a chymryd rhan ym mhrosesau penderfynu’r Cyngor.
Mae ein cynllun gweithredu 5 pwynt yn cynnwys camau i’w gwneud hi’n haws i bobl ymgysylltu â ni, er enghraifft ‘Cyfathrebu a Hyrwyddo Gwell’, ‘Gwella Hygyrchedd a Chynhwysiant’ a ‘Symleiddio Deunyddiau Ymgysylltu’.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymdeithas gyda chymunedau deniadol, hyfyw, diogel, sydd â chysylltiadau da.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Bydd y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi drafft yn cyfrannu at y nod hwn drwy wneud mwy i gynyddu gwybodaeth pobl am swyddogaethau’r Cyngor. Mae hefyd yn anelu at helpu pobl i deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol a bod modd iddyn nhw wneud gwahaniaeth. Un o amcanion allweddol y polisi yw galluogi pobl i chwarae rhan yn dylanwadu ar benderfyniadau lleol, sy’n elfen allweddol o’r Nod Llesiant hwn.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Papur Ymchwil Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar gyfweliadau Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2021-22. Canfu’r ymchwil bod y ffactorau allweddol a oedd yn gysylltiedig â phobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau a oedd yn effeithio ar eu hardaloedd lleol yn cynnwys:
- teimlo bod ganddynt ddealltwriaeth dda o’r hyn mae eu cynghorydd lleol yn ei wneud dros eu cymuned
- cytuno bod y cynghorydd lleol yn gweithio’n agos â’r gymuned leol, a
- teimlo’n fodlon gydag argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau lleol.
Adroddiad Llywodraeth Cymru: Dylanwadu ar benderfyniadau mewn ardal leol (Arolwg Cenedlaethol Cymru).
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Nid yw’n cyfrannu’n uniongyrchol ond mi fydd yn helpu i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau sy’n cyfrannu at y Nod hwn yn seiliedig ar weithgaredd ymgysylltu a chyfranogi effeithiol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Amherthnasol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Gan gyfeirio at y canlynol, a ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y Gymraeg?
Cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
- Dim / Fawr Ddim
Trin y Gymraeg, dim llai ffafriol na'r Saesneg
- Dim / Fawr Ddim
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r safbwynt hwn?
Bydd y polisi’n cael ei ddatblygu, yn destun ymgynghoriad, ac yn cael ei weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Fodd bynnag, nid yw’r polisi’n cynnwys unrhyw gamau penodol a fyddai’n cynyddu proffil y Gymraeg yng Ngheredigion.
Pa gamau y gallwch eu cymryd i gynyddu'r effaith gadarnhaol neu liniaru unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cymdeithas sy'n ystyried sut y gallai ein gweithredoedd effeithio ar wledydd a phobl eraill ledled y byd.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Nid yw’n cyfrannu’n uniongyrchol ond mi fydd yn helpu i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau sy’n cyfrannu at y Nod hwn yn seiliedig ar weithgaredd ymgysylltu a chyfranogi effeithiol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Amherthnasol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?
Gall camau pellach gael eu nodi yn sgil yr ymgyrch ymgynghori cyhoeddus.
Cryfhau’r Cynnig
Os ydych wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol yn yr adrannau uchod, rhowch fanylion am unrhyw newidiadau a chamau gweithredu ymarferol a allai helpu i ddileu neu leihau'r effeithiau negyddol.
| Beth fyddwch chi'n ei wneud? | Pryd? | Pwy sy'n gyfrifol? | Cynnydd |
Os na chymerir camau i ddileu neu liniaru effeithiau negyddol, a fyddech cystal â chyfiawnhau pam. (Os ydych wedi nodi unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yna mae’n rhaid newid neu ddiwygio’r cynnig.)
Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
Sut fyddwch chi'n monitro effaith ac effeithiolrwydd y cynnig?
Bydd y cynllun gweithredu’n cael ei arwain gan y Tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro’n flynyddol a’i adrodd i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet. Bydd adborth pellach gan drigolion yn cael ei ddefnyddio i fireinio a gwella arferion ymgysylltu.
Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: 5 Ffordd o Weithio
Disgrifiwch isod sut rydych wedi gweithredu'r pum ffordd o weithio yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Hirdymor - sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr ac anghenion tymor hir a’r angen i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Mae’r polisi hwn yn floc adeiladu tuag at wella ymgysylltiad a chyfranogiad y cyhoedd yn swyddogaethau Cyngor Sir Ceredigion. Mae’n cynnwys camau a fydd yn sicrhau buddiannau hirdymor.
Cydweithio - cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni canlyniadau.
- I gael ei weithredu’n dda mae’r polisi yn dibynnu ar gymorth ein grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned, a grwpiau o ddiddordeb cymunedol eraill amrywiol.
Cynnwys - cynnwys pobl sydd â buddiant a gofyn am eu barn.
- Mae’r polisi drafft yn dibynnu’n helaeth ar safbwyntiau a gasglwyd gan y cyhoedd a grwpiau rhanddeiliaid yn ystod ein hymgyrch ymgysylltu yn Haf 2025.
Atal - darparu adnoddau i atal problemau rhag codi neu waethygu.
- Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2025 yn dangos mai 19% yn unig o oedolion yng Nghymru sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardaloedd lleol. Mae’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi drafft yn anelu at fynd i’r afael â hyn.
Integreiddio - ystyried effaith eich cynnig ar bedwar piler llesiant (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a'r amgylchedd), amcanion cyrff cyhoeddus eraill ac ar draws meysydd gwasanaeth yn y Cyngor.
-
Mae’r polisi drafft yn effeithio ar lesiant cymdeithasol drwy gynyddu ymdeimlad o berthyn a chymryd rhan mewn bywyd lleol.
Ni nodir unrhyw effaith ar lesiant economaidd, diwylliannol nac amgylcheddol, er y bydd yn helpu i sicrhau bod ein cynlluniau a’n strategaethau’n cyfrannu at y pedwar piler llesiant.
Bydd gweithredu’r polisi hwn yn cael effaith ar lwyth gwaith pob maes gwasanaeth ond yn fwyaf arbennig ar Gwasanaethau Democrataidd ac ar Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd.
Risg
Crynhowch y risg sy'n gysylltiedig â'r cynnig.
| 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | |
|
Meini prawf asesu effaith |
Isel iawn | Isel | Canolig | Uchel | Uchel iawn |
|
Meini prawf asesu tebygolrwydd |
Annhebygol o ddigwydd | Llai tebygol o ddigwydd | Yr un mor debygol o ddigwydd ag o beidio digwydd | Mwy tebygol o ddigwydd | Tebygol o ddigwydd |
| Disgrifiad o'r Risg | Effaith | Tebygolrwydd | Sgôr (Effaith x Tebygolrwydd) |
| Y polisi’n cael ei weithredu’n wael gan arwain at niwed i enw da a her gyfreithiol. | 3 | 2 | 6 |