Asesiad Effaith Integredig - Polisi Dronau drafft Cyngor Sir Ceredigion
Mae'n declyn Asesiad Effaith Integredig wedi'i gynllunio i helpu ein proses benderfynu a sicrhau bod y cynnig:
- yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
- yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol
- yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 (gofynion Safonau'r Gymraeg)
- yn cyfrannu at nodau Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cynnwys egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
- yn ystyried rheoli risg.
Mae'r teclyn Asesiad Effaith Integredig hwn wedi'i gategoreiddio yn y 7 Nod Llesiant Cenedlaethol i Gymru:
- Cymru lewyrchus - lle mae gan bawb swyddi a does dim tlodi.
- Cymru gydnerth - lle rydym yn barod am bethau fel llifogydd.
- Cymru iachach - lle mae pawb yn iachach ac yn gallu gweld y meddyg pan fo angen.
- Cymru sy’n fwy cyfartal - lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo'u cefndir.
- Cymru o gymunedau cydlynus - lle gall cymunedau fyw'n hapus gyda'i gilydd.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - lle mae gennym lawer o gyfleoedd i wneud gwahanol bethau a lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg os maen nhw eisiau.
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lle rydym yn gofalu am yr amgylchedd ac yn meddwl am bobl eraill ledled y byd.
Manylion y Cynnig
Teitl y Polisi / Cynnig / Menter
- Polisi drafft ar gyfer defnyddio Cerbydau Awyr Di-griw / Dronau.
Maes Gwasanaeth
- Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd
Enw'r swyddog sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig
- Tim Bray, Rheolwr Partneriaid
Swyddog Arweiniol Corfforaethol
- Alun Williams
Rhowch ddisgrifiad cryno o bwrpas y cynnig
Sicrhaodd Cyngor Sir Ceredigion gyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu drwy Gronfa ymateb Mannau Problemus o ran Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Swyddfa Gartref. Mae’r cyllid yn cefnogi strategaeth y Cyngor i wella gorfodi mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ddefnyddio technoleg fodern.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio mabwysiadu technoleg Cerbydau Awyr Di-griw er mwyn cefnogi ystod o swyddogaethau monitro ac arolygu swyddogol yr awdurdod lleol, gyda’r prif ffocws ar fynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Gyda phwyslais ar ymchwilio ac atal mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i'r canlynol:
- Cynnal patrolau awyr ar hap, yn agored a gyda gwelededd uchel dros fannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Cyflwyno arwyddion cyhoeddus amlwg er mwyn sicrhau tryloywder ac ymwybyddiaeth o weithrediadau monitro a gorfodi.
- Casglu tystiolaeth yn agored i gefnogi gweithredoedd ymchwilio a gorfodi.
Gellid defnyddio Cerbydau Awyr Di-griw yn agored gan yr Awdurdod er mwyn gwella effeithiolrwydd gweithredol wrth ymdrin â digwyddiadau yn ymwneud â llygredd, achosion o dipio anghyfreithlon, cŵn wedi’u gadael a diogelwch digwyddiadau.
Ar bwy fydd y cynnig hwn yn effeithio’n uniongyrchol?
Y cyhoedd ac aelodau o staff.
A yw’r rhai y bydd y cynnig yn effeithio arnynt wedi cael cyfle i wneud sylwadau arno?
Mae elfennau o'r polisi wedi'u llunio gyda chymorth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu a'r Tîm Diogelu Data. Cyflwynwyd y polisi drafft gerbron y pwyllgor craffu ar 11/11/2025.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos yn digwydd ym mis Rhagfyr 2025/Ionawr 2026.
Rheoli Fersiynau
| Rhif y Fersiwn | Awdur | Cam yn y broses benderfynu | Dyddiad yr Ystyriwyd | Disgrifiad o unrhyw newidiadau a wnaed |
| 1.0 | Tim Bray | Cyn cyfarfod y Cabinet | 13/11/2025 | Amherthnasol |
Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
Pa un o Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor y mae’r cynnig hwn yn mynd i’r afael ag ef a sut?
Strategaeth Corfforaethol Cyngor Ceredigion 20222-27
Hybu'r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
- Nid yw'n cyfrannu'n uniongyrchol ond bydd yn arwain at arbedion gan y bydd gennym dechnoleg yn fewnol i wneud arolygiadau mwy darbodus o adeiladau'r Cyngor ac adeiladau eraill sy’n cael eu datblygu.
Creu cymunedau gofalgar ac iach
- Nid yw'n cyfrannu'n uniongyrchol ond bydd yn helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a monitro diogelwch mewn digwyddiadau.
Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi i bobl o bob oed ddysgu
- Nid yw'n cyfrannu.
Creu cymunedau cynaliadwy sy’n fwy gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd
- Bydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at wella prosesau a ddefnyddir i fonitro’r amgylchedd.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel lle mae gan bawb gwaith addas a lle nad oes tlodi.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Cadarnhaol: Mae defnyddio technoleg yn cyfrannu at brosesau arloesol o ran gwella perfformiad economaidd. Mae gwelliannau yng ngallu’r swyddogion i gasglu tystiolaeth yn sicrhau bod deddfwriaeth sy'n cefnogi'r economi yn cael ei gorfodi'n fwy effeithiol. Mae dronau yn arbennig o werthfawr mewn senarios lle mae risgiau yn bodoli o ran diogelwch y staff, gan gyfrannu at egwyddorion Gwaith Teg.
Negyddol: Gall defnyddio technoleg arwain at ddiswyddiadau ond bach iawn fyddai’r effaith yn yr achos hwn. Defnyddir y dronau i gynyddu effeithiolrwydd gweithredol. Nid oes bwriad i ddiswyddo neb o ganlyniad i'r polisi
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae datblygiadau technolegol yn gwella cynhyrchiant trwy awtomeiddio tasgau, optimeiddio prosesau, a lleihau gwastraff. Gall systemau modern symleiddio’r broses o ddelio â thystiolaeth, lleihau aneffeithlonrwydd, a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â safonau cyfreithiol. Mae hyn yn atal unrhyw camdrafod ac mae’n cyflymu ymchwiliadau, sy'n hanfodol ar gyfer gorfodi deddfau sy'n sail i sefydlogrwydd economaidd.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Gall yr ymgynghoriad ddarparu gwybodaeth am feysydd eraill lle gallai defnyddio llwyfannau yn yr awyr sbarduno arloesedd.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Gydnerth
Cymdeithas lle mae bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a'i gwella a lle mae ecosystemau yn iach ac yn gweithredu.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Bydd y defnydd o ddronau yn gwella effeithlonrwydd a gallu’r Cyngor mewn nifer o feysydd, er enghraifft, bydd modd monitro mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynorthwyo â gwaith arall y gwasanaethau amgylcheddol / safonau masnach. Hefyd, bydd y dronau yn medru cynorthwyo â gwaith sy’n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon, digwyddiadau sy’n ymwneud â llygredd a chanfod achosion o waredu carcasau anifeiliaid yn anghyfreithlon.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Rydym wedi gwneud llawer o waith ymchwil ac rydym wedi gweld sawl awdurdod lleol a sefydliad cyhoeddus arall yn gwneud defnydd arloesol a llwyddiannus o dechnoleg dronau.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Gallwn gyfathrebu’n effeithiol â'r cyhoedd ynghylch materion yn ymwneud â rheolaethau preifatrwydd a thrin data. Dim ond mewn amgylchiadau priodol y bydd y dechnoleg yn cael ei defnyddio a byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r canllawiau. Yn unol â’r polisi, bydd y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol yn awdurdodi unrhyw ddefnydd mewnol a bydd y sawl sy’n gweithredu’r dronau yn cael eu hyfforddi’n briodol gan gydymffurfio â’r Deddfau Hedfan Sifil.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Iachach
Cymdeithas lle mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ac yn mwynhau iechyd corfforol a meddyliol da.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Amherthnasol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Efallai y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn darparu mwy o wybodaeth am effaith y nod hwn.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n Fwy Cyfartal
Cymdeithas lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.
Mae'r adran hon yn hirach oherwydd gofynnir i chi asesu effaith eich cynnig ar bob grŵp sydd wedi'i ddiogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Os nad ydych wedi nodi mwy o effaith ar y grwpiau a restrir nag ar y boblogaeth gyffredinol, dylech ddewis 'Dim/Fawr Ddim'.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hoedran?
Plant a Phobl Ifanc hyd at 18 oed
- Dim/Fawr Ddim
Pobl 18-50
- Dim/Fawr Ddim
Pobl hŷn 50+
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Mae'n annhebygol y bydd defnyddio dronau yn cael effaith benodol ar bobl oherwydd eu hoedran. Mae’n bosibl bod pobl ifanc yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol nag oedolion ac efallai y bydd pobl hŷn yn teimlo'n fwy diogel mewn mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, nodwyd mai bach iawn fydd yr effaith.
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn?
Mae tystiolaeth yn dangos bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwy cyffredin ymhlith pobl ifanc o gymharu ag oedolion. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, wrth i bobl fynd yn hŷn, maent yn llai tebygol o achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bach iawn yw’r troseddwyr parhaus. Yn aml, mae canfyddiad y cyhoedd yn gorbwysleisio’r cysylltiad rhwng pobl ifanc ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o deimlo'n anniogel yn eu cymuned leol, yn bennaf oherwydd eu bod yn fregus a bod ganddynt ganfyddiad o anhrefn yn eu cymuned yn hytrach na’r hyn sy’n digwydd go iawn o ran troseddu.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gellir paratoi ymgyrch gyfathrebu effeithiol a rhannu arwyddion i dynnu sylw at ein polisi ar ddefnyddio dronau.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hanabledd?
Amhariad ar y clyw
- Dim/Fawr Ddim
Amhariad corfforol
- Dim/Fawr Ddim
Amhariad ar y golwg
- Dim/Fawr Ddim
Anabledd Dysgu
- Dim/Fawr Ddim
Salwch hirdymor
- Dim/Fawr Ddim
Iechyd Meddwl
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Mae'n annhebygol y bydd defnyddio dronau yn cael effaith ar bobl anabl yn benodol. Mae’n bosibl y bydd pobl anabl yn teimlo'n fwy diogel mewn mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, nodwyd mai bach iawn fydd yr effaith.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 21.9% o bobl yng Ngheredigion yn ystyried eu hunain yn anabl.
Mae ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a Living Streets yn nodi bod pobl anabl yn dweud eu bod yn teimlo'n llai diogel ym mhob lleoliad wrth gerdded neu fynd yn eu cadeiriau olwynion ar eu pennau eu hunain o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn cynnwys strydoedd lleol a mannau cyhoeddus, yn enwedig ar ôl iddi dywyllu.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Archwilio'r posibilrwydd o ddarparu arwyddion hygyrch sy’n darparu gwybodaeth gyhoeddus mewn mannau lle ceir llawer o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i roi gwybodaeth a sicrwydd i'r cyhoedd am y defnydd o dechnoleg i frwydro yn erbyn achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol e.e. codau QR sy’n cyfeirio pobl at Iaith Arwyddion Prydain, neu fersiynau darllen yn uchel o'r wybodaeth.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n drawsryweddol?
Menywod Traws
- Dim/Fawr Ddim
Dynion Traws
- Dim/Fawr Ddim
Pobl Anneuaidd
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae'n annhebygol y bydd defnyddio dronau yn cael effaith ar bobl drawsryweddol yn benodol. Gallai arwain at iddynt deimlo'n fwy diogel mewn mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, nodwyd mai bach iawn fydd yr effaith.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae gan 84 o bobl yng Ngheredigion hunaniaeth rhywedd sy’n wahanol i'r rhyw a bennwyd iddynt adeg eu geni, ond ni roddwyd manylion am unrhyw hunaniaeth benodol. Nodwyd bod 73 o fenywod trawsryweddol a 62 o ddynion trawsryweddol. Mae 143 o bobl yn anneuaidd ac mae 66 o bobl wedi darparu hunaniaethau eraill o ran eu rhywedd.
Canfu arolwg YouGov (2025) a gomisiynwyd gan y Good Law Project fod 84% o bobl drawsrywweddol yn y Deyrnas Unedig yn credu bod Prydain yn "eithaf anniogel" neu'n "anniogel iawn" iddyn nhw. Dywedodd bron i ddwy ran o dair (65%) eu bod wedi profi cam-drin geiriol mewn mannau cyhoeddus, ac roedd bron i un o bob pedwar (24%) wedi dioddef trais corfforol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gallai'r ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu rhagor o effeithiau nad ydym yn ymwybodol ohonynt.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol gyfeiriadedd rhywiol?
Pobl Ddeurywiol
- Dim / Fawr Ddim
Dynion Hoyw
- Dim / Fawr Ddim
Menywod hoyw / lesbiaid
- Dim / Fawr Ddim
Pobl Heterorywiol
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae'n annhebygol y bydd defnyddio dronau yn cael effaith benodol ar bobl sydd â gwahanol gyfeiriadedd rhywiol. Gallai arwain at iddynt deimlo'n fwy diogel mewn mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, nodwyd mai bach iawn fydd yr effaith.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 1,617 o bobl (2.6%) o boblogaeth Ceredigion yn ddeurywiol ac mae 941 (1.5%) o bobl Ceredigion yn hoyw neu'n lesbiaidd.
Canfu arolwg YouGov fod pobl ym Mhrydain sy’n perthyn i’r gymuned LHDTC+ (gan gynnwys unigolion LHD) yn llawer llai tebygol o deimlo'n ddiogel yn gyhoeddus o'i gymharu â phobl heterorywiol. Mae llawer yn osgoi dangos cariad at ei gilydd yn gyhoeddus am eu bod yn ofni y bydd rhywun yn aflonyddu arnynt:
- Mae 71% o ddynion hoyw a 66% o fenywod lesbiaidd yn dewis peidio â dangos cariad at ei gilydd yn cyhoeddus oherwydd pryderon am ddiogelwch.
- Dim ond 36% o fenywod lesbiaidd sy'n dweud nad ydyn nhw byth yn teimlo'n anniogel wrth gerdded gyda'u partner yn ystod y dydd. Mae’r ffigwr hwn yn disgyn i 10% yn ystod y nos.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gallai'r ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu rhagor o effeithiau nad ydym yn ymwybodol ohonynt.
Ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil?
Pobl sy'n briod
- Dim / Fawr Ddim
Pobl mewn partneriaeth sifil
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Ni nodwyd unrhyw effaith negyddol na chadarnhaol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gallai'r ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu effeithiau nad ydym yn ymwybodol ohonynt.
A ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth?
Beichiogrwydd
- Dim / Fawr Ddim
Mamolaeth
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Ni nodwyd unrhyw effaith negyddol na chadarnhaol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?
Gallai'r ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu effeithiau nad ydym yn ymwybodol ohonynt.
A ydych yn meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig?
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig
- Dim / Fawr Ddim
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig
- Dim / Fawr Ddim
Grwpiau Ethnig Cymysg/ Aml-ethnig
- Dim / Fawr Ddim
Gwyn
- Dim / Fawr Ddim
Grwpiau ethnig eraill
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae'n annhebygol y bydd defnyddio dronau yn cael effaith benodol ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig. Gallai arwain at iddynt deimlo'n fwy diogel mewn mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, nodwyd mai bach iawn fydd yr effaith ddibwys.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Yn ôl Cyfrifiad 2021:
- Mae 1.5% o drigolion Ceredigion yn Asiaidd, yn Asiaidd Prydeinig neu’n Asiaidd Cymreig.
- Mae 1.2% o grwpiau ethnig cymysg / aml-ethnig.
- Mae 0.5 % yn Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd.
- Mae 0.5% o grŵp ethnig arall.
Canfu'r Evidence for Equality National Survey (EVENS) fod mwy na thraean o’r ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig wedi profi ymosodiadau hiliol, a dywedodd mwy na chwarter eu bod wedi cael eu cam-drin yn eiriol. Digwyddodd y profiadau hyn mewn mannau cyfarwydd, gan gynnwys tai, addysg a mannau cyhoeddus.
Mae ystadegau troseddau casineb yn dangos bod gelyniaeth hiliol yn parhau; troseddau casineb sy'n gysylltiedig â hil yw'r categori mwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gallai'r ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu rhagor o effeithiau nad ydym yn ymwybodol ohonynt.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol grefyddau, credoau neu ddim cred?
Bwdhaidd
- Dim / Fawr Ddim
Cristion
- Dim / Fawr Ddim
Hindŵaidd
- Dim / Fawr Ddim
Dyneiddiwr
- Dim / Fawr Ddim
Iddewig
- Dim / Fawr Ddim
Mwslim
- Dim / Fawr Ddim
Sikh
- Dim / Fawr Ddim
Pobl heb gred
- Dim / Fawr Ddim
Eraill
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae'n annhebygol y bydd defnyddio dronau yn cael effaith benodol ar bobl oherwydd eu crefydd. Gallai arwain at iddynt deimlo'n fwy diogel mewn mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, nodwyd mai bach iawn fydd yr effaith.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Yn ôl Cyfrifiad 2021:
- Mae 47% o drigolion Ceredigion yn Gristnogion (33,409 o bobl)
- Nid oes gan 43% grefydd (30,749 o bobl)
- Mae gan 0.9% grefydd ‘arall’ (677 o bobl)
- Mae 0.7% yn Fwslimiaid (515 o bobl)
- Mae 0.5% yn Fwdhyddion (378 o bobl)
- Mae 0.2% yn Hindwiaid (158 people)
- Mae 0.1% yn Iddewon (75 o bobl)
- Mae 0.0% yn Sikhiaid (35 o bobl)
Roedd troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr sy’n ymwneud â chrefydd ar eu lefel uchaf erioed yn 2023/24, gyda 10,484 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi, i fyny o 6,383 yn 2021/22. Mae'r troseddau hyn yn cynnwys cam-drin geiriol, aflonyddu ac ymosodiadau corfforol, ac maent yn creu ofn ymhlith cymunedau crefyddol.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gallai'r ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu rhagor o effeithiau nad ydym yn ymwybodol ohonynt.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ddynion neu fenywod?
Dynion
- Dim / Fawr Ddim
Menywod
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae'n annhebygol y bydd defnyddio dronau yn cael effaith benodol ar bobl oherwydd eu rhyw. Gallai arwain at fenywod deimlo'n fwy diogel mewn mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, nodwyd mai bach iawn fydd yr effaith ddibwys.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae menywod yn y DU yn llawer mwy tebygol na dynion o deimlo'n anniogel yn eu cymunedau lleol, yn enwedig ar ôl iddi dywyllu. Mae'r ofn hwn yn gysylltiedig â chyfraddau uchel o aflonyddu, trais ar sail rhywedd, a mesurau diogelwch annigonol mewn mannau cyhoeddus.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Dim wed’i nodi; fodd bynnag, gallai'r ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu effeithiau nad ydym yn ymwybodol ohonynt.
A ydych yn credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl o Gymuned y Lluoedd Arfog?
Aelodau o'r Lluoedd Arfog
- Dim / Fawr Ddim
Cyn-filwyr
- Dim / Fawr Ddim
Gwŷr/gwragedd
- Dim / Fawr Ddim
Plant
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Ni nodwyd unrhyw effaith negyddol na chadarnhaol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Dyletswydd economaidd-gymdeithasol
Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn golygu byw ar incwm isel o'i gymharu ag eraill yng Nghymru, gydag ychydig neu ddim cyfoeth cronedig, sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.
Mae cefndir teuluol neu lle mae person yn cael ei eni yn dal i effeithio ar ei fywyd. Er enghraifft, mae plentyn o deulu cyfoethog yn aml yn gwneud yn well yn yr ysgol na phlentyn o deulu tlawd, hyd yn oed os yw'r plentyn tlotach yn fwy naturiol academaidd. Gelwir hyn weithiau yn anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.
Ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol?
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Cadarnhaol: gall pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig deimlo'n fwy diogel os ydynt yn gwybod y gall y polisi hwn arwain at fwy o fonitro o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Negyddol: mae’r mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwy tebygol o fod mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Gallai hyn arwain at sefyllfa lle bydd y bobl yn y cymdogaethau hynny yn teimlo fel petai rhywun yn 'sbïo arnynt.'
Fodd bynnag, mae'r polisi drôn yn amlinellu gwahanol weithgareddau gorfodi posibl ac mae'n annhebygol y bydd dronau yn hedfan yn rheolaidd dros gymdogaethau difreintiedig. Bernir felly mai bach iawn fydd yr effaith.
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r farn hon?
Canfu Mynegai "Bywyd yn y DU" Carnegie UK fod pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn teimlo'n anniogel wrth gerdded ar eu pennau eu hunain ar ôl iddi dywyllu o'i gymharu â'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Maent hefyd yn adrodd llai o ymddiriedaeth mewn cynghorau lleol a phlismona, sy'n gwaethygu ansicrwydd.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Gellir paratoi ymgyrch gyfathrebu effeithiol a rhannu arwyddion i dynnu sylw at ein polisi ar ddefnyddio dronau.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymdeithas gyda chymunedau deniadol, hyfyw, diogel, sydd â chysylltiadau da.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Mae defnyddio dronau yn debygol o arwain at gymunedau i deimlo'n fwy diogel os ydynt yn hyderus ein bod yn gwneud defnydd priodol o ddronau ac os yw lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu gostwng.
Nod yr ymgyrch ymgynghori a hyrwyddo yw annog pobl i ymgysylltu â ni a dylanwadu ar benderfyniadau lleol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Bydd y dechnoleg yn cael ei defnyddio i hybu effeithlonrwydd wrth orfodi a monitro ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae ymgyrch ymgynghori yn digwydd yn ystod Rhagfyr 2025/Ionawr 2026.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?
Bydd arwyddion sy’n cynnwys gwybodaeth gyhoeddus yn cael eu defnyddio i hysbysu’r cyhoedd a rhoi sicrwydd iddynt am y defnydd o dechnoleg i frwydro yn erbyn achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Mae’r cyfraniad at y nod hwn yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae'r defnydd arfaethedig o ddronau yn cynnwys sganio am achosion o dorri rheoliadau cynllunio e.e. materion yn ymwneud ag adeiladau gwarchodedig neu restredig a safleoedd eraill o arwyddocâd treftadaethol. Gellid eu defnyddio i fonitro diogelwch mewn digwyddiadau celfyddydol, chwaraeon a gweithgareddau hamdden mawr. Mae potensial i'w defnyddio i helpu i godi diddordeb yn niwylliant a threftadaeth Ceredigion.
Nid oes effaith negyddol wedi’i nodi.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Polisi Dronau Cyngor Sir Ceredigion.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?
Nid oes dim wedi'i nodi hyd yn hyn. Efallai y bydd yr ymgynghoriad yn ein helpu i nodi mwy.
Gan gyfeirio at y canlynol, a ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y Gymraeg?
Cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
- Dim / Fawr Ddim
Trin y Gymraeg, dim llai ffafriol na'r Saesneg
- Dim / Fawr Ddim
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r safbwynt hwn?
Nid bwriad y polisi dronau yw cyfrannu at y gwaith o godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg na chynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir i'r cyhoedd, wrth gwrs, ar gael yn ddwyieithog.
Pa gamau y gallwch eu cymryd i gynyddu'r effaith gadarnhaol neu liniaru unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg?
Efallai y bydd yr ymgynghoriad yn ein helpu i nodi camau pellach y gallem eu cymryd.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cymdeithas sy'n ystyried sut y gallai ein gweithredoedd effeithio ar wledydd a phobl eraill ledled y byd.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Gallai defnyddio dronau arwain at lai o allyriadau carbon os yw'n arwain at lai o deithio i safleoedd. Fodd bynnag, bach iawn fydd yr effaith.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Yn 2023, amcangyfrifwyd bod yr allyriadau a ryddhawyd i'r atmosffer yng Nghymru yn uniongyrchol gyfystyr â 34.1 miliwn tunnell o garbon deuocsid (MtCO2e). Mae hyn yn ostyngiad o 6% ers 2022. Mae'r gostyngiad rhwng 2022 a 2023 yn barhâd o’r duedd ddiweddar o ostyngiadau mwy sylweddol, gyda gostyngiad cyffredinol o 29% rhwng 2016 a 2023.
Cyfrannodd tri phrif sector at y ffigurau y flwyddyn ddiweddaraf.
- Cyflenwad ynni: Mae gweithgarwch amrywiol mewn gorsafoedd pŵer wedi cael effaith nodedig ar allyriadau yn y sector hwn. Cafwyd gostyngiad o 29% yn yr allyriadau o orsafoedd pŵer rhwng 2022 a 2023, yn dilyn cynnydd o 42% rhwng 2020 a 2022.
- Trafnidiaeth ddomestig: Cafwyd gostyngiad o 2% yn yr allyriadau o'r sector hwn rhwng 2022 a 2023, er gwaethaf cynnydd cyffredinol ers codi’r cyfyngiadau teithio yn sgil COVID-19 yn 2020.
- Adeiladau preswyl: Cafwyd gostyngiad o 6% yn yr allyriadau rhwng 2022 a 2023, gan barhau â’r duedd ar i lawr a welwyd ers 2021.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?
Efallai y bydd yr ymgynghoriad yn ein helpu i nodi camau pellach y gallem eu cymryd.
Cryfhau’r Cynnig
Os ydych wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol yn yr adrannau uchod, rhowch fanylion am unrhyw newidiadau a chamau gweithredu ymarferol a allai helpu i ddileu neu leihau'r effeithiau negyddol.
| Beth fyddwch chi'n ei wneud? | Pryd? | Pwy sy'n gyfrifol? | Cynnydd |
| Sicrhau cyfathrebu da â'r cyhoedd ynghylch rheolaethau preifatrwydd a thrin data. | |||
| Sicrhau cydymffurfiaeth â'n polisi defnydd mewnol lle bydd y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol yn awdurdodi unrhyw ddefnydd mewnol a bydd y sawl sy’n gweithredu’r dronau yn cael eu hyfforddi’n briodol gan gydymffurfio â’r Deddfau Hedfan Sifil. | |||
| Cyflwyno ymgyrch gyfathrebu effeithiol a gosod arwyddion i dynnu sylw at ein polisi ar ddefnyddio dronau. | |||
| Defnyddio arwyddion sy’n cynnwys gwybodaeth gyhoeddus yn y mannau lle ceir llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn hysbysu’r cyhoedd a rhoi sicrwydd iddynt am y defnydd o dechnoleg i frwydro yn erbyn achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. | |||
| Archwilio'r posibilrwydd o ddarparu arwyddion hygyrch sy’n darparu gwybodaeth gyhoeddus mewn mannau lle ceir llawer o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i roi gwybodaeth a sicrwydd i'r cyhoedd am y defnydd o dechnoleg i frwydro yn erbyn achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol e.e. codau QR sy’n cyfeirio pobl at Iaith Arwyddion Prydain, neu fersiynau darllen yn uchel o'r wybodaeth. |
Os na chymerir camau i ddileu neu liniaru effeithiau negyddol, a fyddech cystal â chyfiawnhau pam. (Os ydych wedi nodi unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yna mae’n rhaid newid neu ddiwygio’r cynnig.)
Amherthnasol.
Sut fyddwch chi'n monitro effaith ac effeithiolrwydd y cynnig?
Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi gofyn am adroddiadau rheolaidd ar y defnydd o dronau.
Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: 5 Ffordd o Weithio
Disgrifiwch isod sut rydych wedi gweithredu'r pum ffordd o weithio yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Hirdymor - sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr ac anghenion tymor hir a’r angen i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Er bod y cyllid wedi'i ddarparu ar gyfer mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae'r darparwyr grant wedi cymeradwyo y gellir ehangu'r defnydd o'r dechnoleg i ddarparu effeithlonrwydd mewn meysydd eraill o weithgarwch y cyngor, gan arwain at fanteision hirdymor i'r holl wasanaethau.
Cydweithio - cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni canlyniadau.
- Bydd peilotiaid y dronau yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr dronau Heddlu Dyfed Powys i rannu arfer gorau a phethau eraill.
Cynnwys - cynnwys pobl sydd â buddiant a gofyn am eu barn.
- Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y polisi arfaethedig yn digwydd yn ystod Rhagfyr 2025/Ionawr 2026.
Atal - darparu adnoddau i atal problemau rhag codi neu waethygu.
- Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosion eraill o fynd yn groes i’r gyfraith sy'n gofyn am dystiolaeth i helpu gyda’r gwaith gorfodi. Bydd arolygiadau mwy effeithlon o eiddo'r cyngor yn cefnogi’r prosesau o ran sicrhau gwell cynnal a chadw a chanfod problemau yn gynnar.
Integreiddio - ystyried effaith eich cynnig ar bedwar piler llesiant (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a'r amgylchedd), amcanion cyrff cyhoeddus eraill ac ar draws meysydd gwasanaeth yn y Cyngor.
- Bydd y polisi dronau yn cael effaith gadarnhaol ar y pedwar piler llesiant. Nid oes unrhyw effeithiau negyddol sylweddol wedi'u nodi. Mae yna bosibilrwydd y gellir gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i gyflawni eu hamcanion, er enghraifft Heddlu Dyfed Powys a Chyfoeth
Naturiol Cymru.
Risg
Crynhowch y risg sy'n gysylltiedig â'r cynnig.
| 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | |
|
Meini prawf asesu effaith |
Isel iawn | Isel | Canolig | Uchel | Uchel iawn |
|
Meini prawf asesu tebygolrwydd |
Annhebygol o ddigwydd | Llai tebygol o ddigwydd | Yr un mor debygol o ddigwydd ag o beidio digwydd | Mwy tebygol o ddigwydd | Tebygol o ddigwydd |
| Disgrifiad o'r Risg | Effaith | Tebygolrwydd | Sgôr (Effaith x Tebygolrwydd) |
| Tresbasiad ar breifatrwydd | 4 | 2 | 8 |
| Anaf corfforol | 3 | 1 | 3 |
| Difrod i eiddo | 3 | 2 | 6 |
| Niwed i enw da Cyngor Sir Ceredigion | 3 | 2 | 6 |