Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn deillio o benderfyniad Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar Fai 23ain 2023.
Mae’n gynnig i ddiwygio cyfrwng Iaith Dysgu Sylfaen y 5 ysgol a ganlyn; Ysgol Gynradd Cei Newydd, Ysgol Gynradd Comins Coch, Ysgol Gynradd Plascrug, Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos ac Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant. Yn ogystal â hyn mae’r cynnig yn newid oed derbyn disgyblion i gynnwys disgyblion 3 oed rhan amser mewn 3 o’r ysgolion hynny, sef Ysgol Cei Newydd, Ysgol Comins Coch ac Ysgol Gatholig Padarn Sant.
Mae’r ymgynghoriad ar agor ar y 15fed o Fedi ac yn cau ar Dachwedd y 17eg. Gallwch ymateb yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod hwn wedi i chi ddarllen y dogfennau perthnasol.
Ysgol Gynradd Cei Newydd
Dogfen Ymgynghori Gwybodaeth Atodol
Ysgol Gynradd Comins Coch
Dogfen Ymgynghori Gwybodaeth Atodol