Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rydym yn adolygu ein Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi cyfredol ac rydym eisiau eich barn am yr hyn y dylid ei gynnwys yn y polisi wedi'i ddiweddaru.

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio yma yn defnyddio rhai o'r gwasanaethau yn y cyngor, gan gynnwys y bobl sy'n gweithio i'r cyngor. Gallai'r rhain fod y ffyrdd, ysgolion, llyfrgelloedd neu gasgliadau gwastraff. Mae'n bwysig ein bod yn gofyn am eich barn pan fyddwn yn gwneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n gwneud pethau.


Mae ein Polisi Ymgysylltu a Chyfranogiad yn nodi sut rydym yn gwrando ar eich barn ac yn sicrhau bod eich llais yn helpu i lunio beth rydyn ni'n ei wneud. Gallwch ddarllen ein polisi cyfredol "Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda'n Gilydd " ar wefan y cyngor.


Helpwch i Lunio sut rydym yn Cysylltu â chi

P'un a ydych chi wedi mynychu cyfarfod cymunedol, wedi ymateb i arolwg, neu'n ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol - neu hyd yn oed os nad ydych wedi ymgysylltu â ni o gwbl - mae eich adborth yn werthfawr.

Dyma'ch cyfle i helpu i lunio sut mae eich awdurdod lleol yn cyfathrebu, yn gwrando ac yn ymateb i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.


Gallwch gymryd rhan drwy:

  • cwblhau ein harolwg ar-lein
  • mynychu un o'n grwpiau ffocws hybrid
  • llenwi arolwg papur yn ein llyfrgelloedd a'n canolfannau hamdden leol

Rydym yn rhedeg sawl grŵp ffocws hybrid ledled y sir. Gallwch fynychu wyneb yn wyneb neu ymuno â ni ar-lein.

Bydd y digwyddiadau yn digwydd yn

  •        Penmorfa, Aberaeron - 15fed Gorffennaf 12:30 - 14:00
  •        Canolfan Rheidol, Aberystwyth - 17eg Gorffennaf 12:30 - 14:00
  •        Stryd Morgan, Aberteifi - 24ain Gorffennaf 12:30 - 14:00

I gofrestru, cwblhewch y ffurflen ar-lein hon neu ffoniwch Carys Huntly ar 07977 636596.

Bydd yr ymgysylltiad yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos o ddydd Gwener 4 Gorffennaf 2025 tan ddydd Sul 31 Awst 2025.


Bydd eich ymatebion yn ein helpu i ysgrifennu'r polisi drafft a byddwn yn dod yn ôl atoch i ofyn eich barn ar y drafft hwn nes ymlaen yn y flwyddyn.