Adrannau 18A; 18B; ac 18C Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Ceredigion wedi cwblhau adolygiad o’r Dosbarthiadau Etholiadol, y Mannau Pleidleisio a’r Gorsafoedd Pleidleisio yn ardal awdurdod lleol Ceredigion yn Etholaeth Seneddol Ceredigion Preseli.

Ar ôl ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, canlyniad yr Adolygiad yw nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r Dosbarthiadau Etholiadol.

Ystyriwyd y sylwadau a wnaed ynghylch Gorsafoedd Pleidleisio, ac mae’r Swyddog Canlyniadau wedi newid lleoliad rhai o’r Gorsafoedd Pleidleisio. Mae manylion y newidiadau hyn ar gael i’w harchwilio. Daw’r newidiadau hyn i rym ar gyfer unrhyw etholiadau a gynhelir ar ôl 1 Chwefror 2024.

Gellir archwilio’r ddogfennaeth ar gyfer unrhyw ran o’r adolygiad hwn yn swyddfa Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Ceredigion drwy apwyntiad yn ystod oriau swyddfa arferol, neu gellir eu gweld ar wefan y Cyngor.

Eifion Evans, Y Prif Weithredwr.

Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA.

24 Ionawr 2024