Mae'r Gofrestr Etholwyr yn gofnod o bawb sy'n gymwys i bleidleisio.

Gallwch ond bleidleisio os bydd eich enw ar y Gofrestr Etholiadol. Ni chewch eich ychwanegu’n awtomatig pan fyddwch chi’n cofrestru gyda Threth y Cyngor.

Bydd yn ofynnol i chi’n gyfreithiol gofrestru eich manylion, fodd bynnag nid oes rheidrwydd i chi bleidleisio ar Ddiwrnod Etholiad (mae hyn yn ddewis i chi).

Cofrestru i Bleidleisio

Er mwyn cofrestru i bleidleisio bydd angen i chi lanw ffurflen gofrestru. Mae modd cofrestru i bleidleisio ar-lein:

gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio