Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig a oedd yn arfer byw yn y Deyrnas Unedig, gallwch gofrestru i bleidleisio fel etholwr tramor.

Ers 16 Ionawr 2024, dilëwyd yr angen i fod wedi cofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf.

Gwnaed nifer o newidiadau o ran pleidleisio dramor:

  • Gallwch gofrestru i bleidleisio os oeddech chi’n arfer byw yn y Deyrnas Unedig ond nid oeddech wedi cofrestru i bleidleisio
  • Gallwch gofrestru i bleidleisio fel etholwr tramor waeth pa mor hir yn ôl gadawoch chi’r Deyrnas Unedig neu ba mor hir yn ôl yr oeddech chi wedi cofrestru i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig
  • Mae eich datganiad tramor bellach yn ddilys am dair blynedd, tan 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl iddo ddod i rym (er enghraifft, os daw eich datganiad i rym ar 1 Mawrth 2024, bydd yn dirwyn i ben ar 1 Tachwedd 2026)
  • Bellach, gallwch gofrestru ar-lein (nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael yng Ngogledd Iwerddon)

Os ydych chi’n etholwr tramor a gofrestrodd i bleidleisio cyn 16 Ionawr 2024, bydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad pan ddaw eich datganiad i ben. Os wnaethoch chi gais am bleidlais drwy ddirprwy cyn 31 Hydref 2023, bydd yn dod i ben ar 31 Ionawr 2024 a bydd angen i chi wneud cais arall am bleidlais drwy ddirprwy.

Os oes gennych chi bleidlais bost hirdymor y gwnaethoch gais amdani cyn 31 Hydref 2023, ni fydd yn dod i ben ar 31 Ionawr 2026. Bydd tîm y gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol yn cysylltu â chi cyn i gyfnod eich pleidlais bost ddod i ben.

Yr Etholiadau y caiff Etholwyr Tramor Bleidleisio ynddynt

Fel etholwr tramor rydych yn gymwys i bleidleisio yn Etholiadau a Refferenda Senedd y Deyrnas Unedig yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru fel etholwr tramor ewch i tudalen Etholwyr Tramor ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.

Cofrestru i Bleidleisio Ar-lein

Er mwyn cofrestru i bleidleisio ewch i tudalen Cofrestru i bleidleisio ar wefan y Llywodraeth.

Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol ar gyfer Etholwyr Tramor

Mae’n rhaid i etholwyr tramor gofio gwneud cais ar wahân i bleidleisio drwy’r post (Pleidlais Bost) neu i gael rhywun i bleidleisio ar eu rhan (Pleidlais drwy Ddirprwy), oni bai eu bod yn bwriadu dychwelyd adref er mwyn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Fel arfer caiff papurau pleidleisio drwy’r post eu hanfon at etholwyr tramor 2-3 wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Rhaid i etholwyr tramor sicrhau y bydd eu papur pleidleisio drwy’r bost (datganiad pleidleisio drwy’r post) yn ein cyrraedd ni cyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad, neu ni chaiff y bleidlais ei chyfrif.

Os oes unrhyw amheuaeth na fyddwch yn gallu dychwelyd eich papur pleidleisio drwy’r post atom ni erbyn diwrnod yr etholiad, yna dylech ystyried gwneud cais fel bod rhywun yn gallu pleidleisio ar eich rhan (Pleidlais drwy Ddirprwy).

Gweision y Goron

Gall pobl a gyflogir gan y llywodraeth neu’r Cyngor Prydeinig i weithio dramor am gyfnodau hir wneud cais i gofrestru fel Gweision y Goron. Am ragor o wybodaeth gweler yr adran am gofrestru pleidleiswyr sy’n Weision y Goron a gweithwyr tramor y Cyngor Prydeinig ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.

Gwybodaeth Bellach ac Ymholiadau

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost i gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk er mwyn cysylltu â thîm y Gwasanaethau Etholiadol.