Yng Nghymru, gall pobl ifanc 16 ac 17 oed gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau’r Cyngor lleol.

Dim ond yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau’r Cyngor lleol y gallwch chi bleidleisio pan rydych yn 16 oed. Mae etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n wahanol, ac ni fyddwch chi’n gallu pleidleisio yn yr etholiadau hyn hyd nes eich bod yn 18 oed.

Ond drwy gofrestru cyn hynny gallwch bleidleisio cyn gynted ag y byddwch yn gymwys i wneud hynny.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Etholiadau drwy ffonio 01545 572 032.