Fforwm Mynediad Lleol
Mae rhwydwaith llwybrau cyhoeddus Ceredigion a thiroedd eraill yn asedau pwysig. Yn ogystal â sicrhau cyfleoedd i hamddena, maent hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran datblygu twristiaeth a hybu ffyrdd iach o fyw.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am aelodau i eistedd ar y Fforwm Mynediad Lleol am gyfnod o dair blynedd o 2025-2028. Gweler y wybodaeth ar waelod y dudalen i ddarganfod mwy.
Mae'r Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion yn helpu i sicrhau bod cyfleoedd am fynediad i'r arfordir a chefn gwlad yn cael eu hystyried yn llawn.
Corff gwirfoddol yw'r fforwm gyda hyd at 22 o aelodau. Cânt eu penodi ar ôl hysbysebu am aelodau ac maent yn cynrychioli perchnogion a rheolwyr tir, defnyddwyr tir a'r rhai hynny â diddordebau eraill. Mae'r Fforwm yn rhoi cyngor i'r awdurdod lleol ynglŷn â materion sy'n ymwneud â mynediad a hamdden.
Yn ôl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 rhaid i fforwm gynnwys aelodau sy'n cynrychioli'r canlynol:
- y bobl sy'n defnyddio tir mynediad a llwybrau cyhoeddus lleol
- perchnogion a deiliaid tir mynediad a thir sydd â llwybrau cyhoeddus
- buddiannau eraill sy'n berthnasol i'r ardal
Gwybodaeth Bellach
Cyfarfodydd i ddod:
01/05/25 Penmorfa, Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron, SA46 0PA 19:00
Gall aelodau o’r cyhoedd fod yn bresennol fel arsylwyr; i gadarnhau eich presenoldeb e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.
Cofnodion - Fforwm Mynediad Lleol
I weld cofnodion cyfarfodydd y fforwm cysylltwch ag clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.
Adroddiadau Blynyddol
Addroddiad Blynyddol Ffmll 23 24
Adnoddau Eraill
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am aelodau i eistedd ar y Fforwm Mynediad Lleol (FfML) am gyfnod o dair blynedd o 2025-2028.
Mae'r FfML wedi cyrraedd diwedd ei dymor tair blynedd diweddaraf ac mae trefniadau'n cael eu gwneud i benodi Fforwm newydd. Bydd aelodaeth am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad cyfarfod cyntaf y Fforwm newydd.
Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori'r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill sy'n arfer swyddogaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhad o'r ardal.
Mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn cynghori ar agweddau ar fynediad cyhoeddus yng Ngheredigion, gan gynnwys hawliau tramwy cyhoeddus a hawl mynediad i gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod, gweler y wybodaeth bellach yn y dogfennau isod.
Cwestiynau Monitro Cydraddoldeb
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Awst 2025.