Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys cymdogion sy’n swnllyd neu’n ymddwyn yn ddifrïol, taflu sbwriel a graffiti. Gall achosi i chi deimlo’n ofnus, yn grac ac o dan fygythiad.

Mae’r Awdurdod Lleol a’r Heddlu, ynghyd â sefydliadau eraill, yn cydweithio mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i fynd i’r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cwynion am sŵn

Mae gan bawb hawl i fwynhad tawel yn ei gartref. Os ydych chi’n teimlo bod sŵn gormodol wedi tarfu ar hyn, er enghraifft cŵn yn cyfarth yn ddi-baid, sŵn yn hwyr y nos o dafarnau neu glybiau neu beiriannau, yna gall yr Awdurdod Lleol ymchwilio i achos y broblem, a gall hyn arwain at gamau yn erbyn y sawl sy’n gyfrifol am y sŵn. Os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd drwy anfon e-bost at publicprotection@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 572 105.

Perthi uchel

Yn aml gall anghydfodau ynghylch perthi terfyn arbennig o uchel fod yn ddadleuol. Ni all yr Awdurdod Lleol ymwneud â hwy ond o dan amgylchiadau penodol ac ar ôl i chi roi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys y broblem. Siaradwch â’ch cymydog, defnyddiwch wasanaeth cyfryngu a chadwch gofnodion o bob cam a gymerir. Bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaeth mae’r Awdurdod Lleol yn ei gynnig.

Cwynion am ymddygiad mewn Tai Amlfeddiannaeth

Os caiff yr Awdurdod Lleol gŵyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol o Dŷ Amlfeddiannaeth, byddwn yn mynd i’r afael â hyn trwy landlord a rheolwyr yr eiddo. Mae dyletswydd ar unigolyn sy’n gyfrifol am Dŷ Amlfeddiannaeth i’w reoli’n briodol ac mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad y tenantiaid.

Troi allan

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn sail i droi tenant allan o adeilad, hyd yn oed os yw’r denantiaeth ond newydd ddechrau. Dylai landlordiaid sydd eisiau cael gwared ar denantiaid gwrthgymdeithasol o’u heiddo geisio cyngor cyfreithiol am y ffordd gywir o wneud hyn.

Landlordiaid sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol

Os yw’ch landlord yn ymddwyn mewn ffordd fygythiol tuag atoch, edrychwch ar ein tudalennau ar Aflonyddu a Throi Allan yn Anghyfreithlon i gael mwy o wybodaeth.

Yr hyn y gallwch ei wneud

  • Meddyliwch sut y bydd eraill yn ystyried eich ymddygiad ac ymddygiad y sawl sy’n ymweld â chi.
  • Ystyriwch eich lefelau sŵn eich hunan, e.e. cŵn yn cyfarth neu gerddoriaeth.
  • Os ydych yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, cadwch ddyddiadur gan nodi’r hyn sy’n digwydd a phryd mae’n digwydd.
  • Ffoniwch yr heddlu os yw’r ymddygiad yn ymosodol neu’n fygythiol.