Skip to main content

Ceredigion County Council website

Materion Ariannol

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael hyd i flaendal neu fond?

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd darparu’r blaendal neu’r bond, yna efallai y gallwch gael cymorth gan Gynllun Bond Ceredigion, a ariennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Awdurdod Lleol a Gwasanaeth Prawf Dyfed-Powys. Mae’r cynllun hwn yn cael ei redeg a’i reoli gan Gymdeithas Gofal Ceredigion. Cysylltwch â'n Gwasanaeth Opsiynau Tai ar 01545 574123.

Ydych chi ar ei hôl hi’n talu’r rhent?

Efallai bod eich sefyllfa wedi newid, er enghraifft, oherwydd eich bod wedi colli’ch swydd, oherwydd bod gennych broblemau iechyd neu oherwydd eich bod wedi gwahanu oddi wrth eich partner yn ddiweddar. Neu efallai eich bod yn ei chael hi’n anodd oherwydd bod prisiau’n codi a bod biliau’n cynyddu, heb fod gennych unrhyw incwm ychwanegol i’w talu.

Gall cynghorwyr Cyngor ar Bopeth Ceredigion edrych ar eich holl sefyllfa ariannol a'ch helpu i flaenoriaethu dyledion a hawlio unrhyw fudd-daliadau sy'n ddyledus.

Bydd cynghorwyr arian annibynnol yn pwyso a mesur eich sefyllfa ariannol yn ei chyfanrwydd, ond eu prif flaenoriaeth fydd datrys sefyllfa’ch rhent neu’ch morgais.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu’r rhent, gofynnwch am gyngor cyn gynted â phosib. Peidiwch â gadael i’r ôl-ddyledion gronni. Os byddwch chi’n gwneud hynny, fe allech chi golli’ch cartref a bydd hi’n anodd i chi gael tenantiaeth newydd yn y dyfodol.

Gair i gall:

  • Siaradwch â’ch landlord i geisio cytuno ar drefniant i dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent. Byddwch yn realistig. Peidiwch â chytuno i dalu mwy na’r swm rydych chi’n gallu fforddio’i dalu
  • Gofynnwch am gyngor annibynnol. Mae asiantaethau ar gael yng Ngheredigion sy’n darparu gwasanaeth cyfrinachol yn rhad ac am ddim. Byddan nhw’n pwyso a mesur eich sefyllfa ariannol yn ei chyfanrwydd ac yn awgrymu ffordd o symud ymlaen
  • Os nad ydych chi’n hawlio Budd-dal Tai, fyddai hi’n bosib i chi wneud hynny nawr?
  • Meddyliwch am ffyrdd eraill o gynyddu’ch incwm
  • Ystyriwch y Benthyciad Arbed Tenantiaeth, a ddarperir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fel rhan o gymorth Covid Llywodraeth Cymru

Cofiwch dylai talu’r rhent fod yn un o’ch prif flaenoriaethau bob amser.

Os ydych chi ar fin colli’ch cartref, fe gewch chi hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Opsiynau Tai Ceredigion.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud