Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyfrifoldebau Tenantiaid

Mae gan denantiaid gyfrifoldebau pan fyddant yn ymrwymo i gytundeb tenantiaeth ac yn symud i eiddo. Os byddwch chi’n esgeuluso’r cyfrifoldebau hynny, fe allech chi gael eich troi allan o’ch cartref. Isod nodir rhai o’ch cyfrifoldebau chi fel tenant.

Rhent

Fe ddylech chi dalu’ch rhent yn gyson ac yn brydlon. Os na fyddwch chi’n talu’r rhent, efallai y bydd y landlord yn ceisio’ch troi allan cyn i’ch cytundeb tenantiaeth ddod i ben. Os ydych yn cael trafferth i dalu’r rhent, mae'n bosibl y gallwch hawlio budd-daliadau megis Credyd Cynhwysol, neu Lwfans Tai Lleol.

Biliau

Os nad yw biliau, megis biliau trydan, nwy a Threth y Cyngor wedi’u cynnwys yn eich rhent, fe ddylech chi eu talu’n gyson. Os na fyddwch chi’n talu’r biliau’n gyson, efallai y bydd y cyflenwad yn cael ei atal a bydd rhaid i chi dalu i’w ailgysylltu. Os bydd y cyflenwad yn cael ei atal oherwydd nad ydych chi wedi talu’ch biliau, nid y landlord fydd yn gyfrifol am dalu i ailgysylltu’r cyflenwad.

Defnydd o'r Eiddo

Rydych chi’n ysgwyddo cyfrifoldeb am ddefnyddio’r eiddo mewn ffordd gyfrifol a gofalu amdano.  Os nad ydych yn gofalu am yr eiddo, gallai’r landlord geisio adennill meddiant o'r eiddo ac efallai y byddwch yn atebol am gost y gwaith atgyweirio. Dyma rai enghreifftiau sy’n darlunio’r cyfrifoldeb hwn:

  • Lleihau’r risg y bydd pibellau’n torri os byddwch chi’n mynd i ffwrdd yn ystod cyfnod oer, er enghraifft, drwy sicrhau nad ydyn nhw’n rhewi
  • Dadflocio sinc sydd wedi blocio
  • Gwneud yn siŵr nad ydych chi, eich teulu nac unrhyw ymwelwyr yn difrodi’r eiddo mewn unrhyw ffordd (ac eithrio ôl traul arferol)
  • Cael gwared ar sbwriel yn rheolaidd a pheidio â gadael iddo gronni

Contract Meddiannaeth Safonol

Ni ddylech chi dorri unrhyw amod teg yn eich cytundeb tenantiaeth, er enghraifft, is-osod, difrodi neu ddefnydd o’r garej. Os byddwch chi’n torri amodau’r cytundeb, efallai y bydd modd i’r landlord geisio cymryd meddiant o’r eiddo cyn i’ch cytundeb tenantiaeth ddod i ben ac efallai y byddwch chi’n colli’ch blaendal ac yn gorfod talu am unrhyw ddifrod.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Ymddygiad Gwaharddedig arall

Mae'r teler hwn yn nodi'r hyn na ddylai deiliad y contract, y bobl sy'n byw gyda deiliad y contract a'i ymwelwyr ei wneud. Mae'n cynnwys pethau fel:

  • gwneud gormod o sŵn
  • cam-drin geiriol neu drais corfforol ar bobl eraill sy'n byw yn y cartref, y landlord/asiant neu bobl eraill yn y gymdogaeth
  • cam-drin ei bartner (gan gynnwys cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol, seicolegol, economaidd neu ariannol)
  • defnyddio'r eiddo at ddibenion troseddol, neu
  • caniatáu i bobl eraill sy'n byw yn y cartref wneud y pethau hyn

Os yw deiliad y contract yn gwneud y pethau a restrir uchod, bydd yn torri ei gontract a gallai gael ei droi allan o'r cartref.

Dyletswydd i ofalu am yr annedd

Mae'r teler hwn yn nodi nad yw deiliad y contract yn gyfrifol os bydd pethau yn ei gartref yn mynd yn dreuliedig neu'n cael eu torri trwy ddefnydd bob dydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ddeiliad y contract ofalu'n briodol am ei gartref a'r pethau sydd ynddo sy'n eiddo i'r landlord. Ni chaniateir i ddeiliad y contract gymryd y pethau hynny allan o'r cartref (heb ganiatâd y landlord). Mae'n rhaid i ddeiliad y contract hefyd gadw'r cartref ‘wedi’i addurno mewn cyflwr rhesymol’ ac ni all gadw unrhyw beth yn y cartref sy'n risg i iechyd a diogelwch.

Dyletswydd i hysbysu'r landlord am nam neu gyflwr gwael

Mae’r teler hwn yn nodi bod yn rhaid i ddeiliad y contract hysbysu'r landlord am unrhyw namau neu ddifrod y disgwylir i'r landlord eu hatgyweirio. Os nad cyfrifoldeb y landlord yw'r nam neu'r difrod (er enghraifft, oherwydd deiliad y contract wedi achosi'r difrod trwy ddiffyg gofal priodol), mae'n rhaid i ddeiliad y contract wneud y gwaith atgyweirio.

Terfynu Tenantiaeth

Mae cyfrifoldeb arnoch chi hefyd i derfynu’r denantiaeth mewn ffordd briodol. Os na fyddwch chi’n terfynu’r denantiaeth mewn ffordd briodol, neu drwy gytuno (yn ysgrifenedig) â’r landlord, efallai y bydd rhaid i chi dalu’r rhent, hyd yn oed os na fyddwch chi’n byw yn yr eiddo mwyach. Gweler ein tudalen Terfynu Contract am ragor o wybodaeth.