
Dod o hyd i Landlord
Y peth pwysicaf i unrhyw denant yw dod o hyd i lety diogel, fforddiadwy y gellir byw ynddo. Isod mae ychydig o awgrymiadau i’ch helpu i wneud hyn yn llwyddiannus.
Awgrymiadau ar ddod o hyd i’r eiddo a’r landlord preifat gorau
- Faint allwch chi ei fforddio? Bod yn realistig ynghylch faint sydd gennych i dalu’ch rhent a’ch biliau pob mis yw’r ffactor pwysicaf o ran y math o lety sydd ar gael i chi
- Ble allwch chi chwilio?
- Asiant Gosod Tai - mae llawer o landlordiaid yn defnyddio asiantau gosod tai i reoli a gosod eu heiddo. Efallai y bydd yr asiantaeth gosod tai’n hysbysebu eu heiddo yn eu ffenestr, ar y rhyngrwyd neu mewn papurau lleol
- Papurau newydd - mae eiddo’n cael eu hysbysebu bob wythnos ym mhob papur newydd lleol
- Hysbysfyrddau a ffenestri siopau - fel arfer bydd yr eiddo’n agos i’r man lle mae’r hysbyseb, felly rhowch gynnig ar gerdded o gwmpas ardal mae gennych ddiddordeb ynddi’n rheolaidd
- Ar lafar - gall hon fod yn ffordd dda o ddod o hyd i landlord dibynadwy gan y byddwch yn clywed profiad uniongyrchol oddi wrth ffrind neu aelod o’ch teulu
- Undeb Myfyrwyr neu Goleg - os ydych chi’n fyfyriwr, mae’n bosibl y bydd eich coleg neu brifysgol yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i rywle i fyw. Dylech gysylltu â’ch undeb myfyrwyr neu hysbysfyrddau’r coleg ac mae gwefannau hefyd yn lle da i ddod o hyd i fflatiau a thai i’w rhannu
- Gwiriwch a yw’r landlord / asiant gosod tai wedi’i gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a bod landlord neu asiant trwyddedig yn rheoli’r eiddo. Bydd landlordiaid Rhentu Doeth Cymru wedi cael hyfforddiant a bydd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â chod ymddygiad safonol. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol i landlordiaid sy’n gosod eiddo ar rent yng Nghymru
- Gwnewch apwyntiad i weld yr eiddo. Os gallwch gyfarfod â’r landlord neu’r asiant gosod tai yn yr eiddo bydd yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau am y dyddiad mae’r rhent yn daladwy, neu ei weithdrefn ar gyfer rhoi gwybod am ddiffyg atgyweirio a gweithredu arno, er enghraifft. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi farnu pa mor dda fydd eich perthynas â’r landlord neu’r asiant gosod tai. Mae’n bosibl y cewch gyfle i ofyn i denantiaid eraill am eu profiadau hwy
- Darllenwch y contract yn drylwyr cyn llofnodi. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno gofyn am gyngor cyfreithiol. Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu yng Nghymru gontractau meddiannaeth. Gall y rhain fod yn rhai cyfnodol (ar sail dreigl) neu’n rhai tymor penodol. Rhaid i landlordiaid ddarparu “datganiad ysgrifenedig” o’r contract o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y bydd deiliaid y contract yn symud i mewn. Rhaid i’r datganiad hwn, sy’n disodli’r hen gytundeb tenantiaeth, gynnwys holl delerau’r contract. Yn ogystal, rhaid i landlordiaid ddarparu dogfennau megis yr Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol (EICR), y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC), a’r Dystysgrif Diogelwch Nwy, yn unol â’r amserlenni a bennwyd
- Gwiriwch fod gan gyfarpar fel tanau nwy neu fwyleri olew dystysgrif diogelwch ddiweddar a’u bod yn cael gwasanaeth yn rheolaidd, a gofynnwch am gael gweld copi. Dylech dderbyn copi o’r Dystysgrif Perfformiad Ynni
Cofiwch, erbyn hyn dylai pob blaendal gael ei ddiogelu o dan y Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth.