Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth

Mae cynlluniau blaendal tenantiaeth yn sicrhau bod yr arian sy’n cael ei dalu gan denantiaid (ar ffurf blaendal) yn cael ei gadw’n ddiogel.

Mae’r cynlluniau hyn yn gwarantu y bydd tenantiaid yn cael eu blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth os ydynt wedi bodloni telerau’r cytundeb tenantiaeth ac os nad ydynt wedi difrodi’r eiddo. Os yw landlord wedi gosod eiddo ar sail tenantiaeth byrddaliol sicr a ddechreuodd ar ôl 6ed Ebrill 2007, mae’n rhaid iddo ddiogelu blaendal y tenant(iaid) gan ddefnyddio cynllun blaendal tenantiaeth a gymeradwywyd gan y llywodraeth (gweler y dolenni a ddarparwyd). Os yw unrhyw denantiaeth a ddechreuodd cyn 6ed Ebrill 2007 wedi cael ei hadnewyddu drwy gyfrwng cytundeb tenantiaeth newydd ers y dyddiad hwnnw, mae angen i’r landlord gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a diogelu swm y blaendal gwreiddiol.

Os nad yw’r amodau hyn yn berthnasol – er enghraifft, oherwydd eich bod yn byw yn yr eiddo gyda’ch landlord – nid oes rhaid diogelu’r blaendal. Serch hynny, mae’n dal i fod yn beth da i’w wneud.

Os yw’r amodau uchod yn berthnasol, rhaid i’r landlord neu’r asiant ddefnyddio un o’r tri chynllun diogelu blaendal cymeradwy i ddiogelu blaendal y tenant(iaid). Os byddant yn defnyddio unrhyw gynllun arall, ni fydd y gyfraith yn diogelu’r blaendal. Dyma’r cynlluniau cymeradwy:

Gofynnwch i’ch landlord am fanylion y cynllun y mae’n ei ddefnyddio. Dylai’ch landlord roi manylion i chi cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r blaendal gael ei dalu, gan gynnwys:

  • manylion cyswllt y landlord neu’r asiant gosod tai
  • manylion cyswllt y cynllun diogelu blaendal perthnasol
  • yr eitemau neu’r gwasanaethau y mae’r blaendal yn berthnasol iddynt
  • yr amgylchiadau lle bydd modd i’r landlord gadw rhan o’r blaendal neu’r blaendal cyfan
  • gwybodaeth am sut i wneud cais i gael y blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth
  • manylion am yr hyn y gall y tenantiaid ei wneud os bydd anghydfod yn codi ynghylch y blaendal

Os nad yw’ch blaendal yn cael ei ddiogelu gan un o’r tri chynllun cymeradwy, gallwch ddwyn eich landlord gerbron y llys sirol ac fe allech gael eich blaendal yn ôl, ynghyd â swm sy’n gyfwerth â thair gwaith cymaint â’ch blaendal.

Mae’r cynlluniau hyn:

  • yn annog landlordiaid a thenantiaid i lunio cytundebau tenantiaeth clir
  • yn darparu gwasanaeth am ddim i ddatrys unrhyw anghydfod

Cynllun Bondiau Ceredigion

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darparu blaendal, neu fond, mae cynllun ar waith yng Ngheredigion i dalu’r blaendal, neu’r bond, ar ffurf gwarant i’r landlord. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod Lleol, Gwasanaeth Prawf Dyfed a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, a thrwy nawdd a chymorth gan y gymuned leol. Cymdeithas Gofal Ceredigion sy’n gweithredu ac yn rheoli’r cynllun ac mae ganddi swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberteifi.