Isod mae rhestr o gynlluniau y mae'r Cyngor yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd, ynghyd â dolen i ostyngiadau ynni a grantiau eraill.
Dolenni Defnyddiol
Effeithlonrwydd Ynni
I gael cyngor diduedd ac annibynnol i'ch helpu i leihau eich biliau ynni, gwneud eich cartref yn gynhesach, cynllunio gwelliannau i'ch cartref a gwneud eich cartref yn wyrddach gallwch ymweld â thudalen we Gwella Effeithlonrwydd Ynni (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig) Llywodraeth y DU.
Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn sefydliad annibynnol sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. I gael gwybodaeth am sut i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon a lleihau eich allyriadau carbon, ewch i wefan Energy Saving Trust (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).
Mae Cymru Gynnes yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n gallu cynnig cyngor ynni a’ch helpu i wneud cais am grantiau. Ewch i wefan Cymru Gynnes (Dolen i wefan allanol) am ragor o wybodaeth.
National Energy Action (NEA) yw’r elusen tlodi tanwydd genedlaethol, sy’n gweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gynnes ac yn ddiogel. Mae gan NEA adnoddau defnyddiol i helpu'r rhai sy'n cael trafferth gyda chost ynni, yn ogystal â llinell gyngor i ddarparu cymorth dros y ffôn a sgwrs. I gael cyngor ynni NEA a thaflenni gwybodaeth ewch i'w tudalen Energy Advice & Information Leaflets (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol
Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol yn wasanaeth cymorth rhad ac am ddim y mae Cyflenwyr Ynni a gweithredwyr rhwydwaith yn ei gynnig i helpu pobl mewn sefyllfaoedd bregus. Mae pob un yn cadw ei gofrestr ei hun. I gofrestru ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol bydd angen i chi gysylltu â'ch cyflenwyr cyfleustodau yn uniongyrchol. Gellir dod o hyd i'w manylion cyswllt naill ai ar eu gwefannau neu ar y biliau a anfonir atoch. Mae rhagor o wybodaeth am y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol a’r cymorth y gallech ei gael ar gael ar dudalen we Ofgem (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).
Clybiau Tanwydd
Gall clybiau Olew Ceredigion eich helpu i arbed arian, cysylltu â’n cymuned a lleihau allyriadau carbon. Ewch i tudalen Clwb Clud - Clybiau Olew Ceredigion ni am ragor o wybodaeth.
Cadw’n Gynnes
Mae Cyngor Sir Ceredigion a CAVO wedi bod yn cydweithio i greu rhwydwaith o Fannau Croeso Cynnes ar draws y Sir. Bydd y mannau cymunedol hyn yn cael eu cadw’n gynnes drwy’r gaeaf. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys:
- Lleoedd i weithio
- Gweithgareddau i deuluoedd a phlant
- Clybiau Crefft
- Caffis talu fel y teimlwch
- Mannau dementia-cyfeillgar
Mae’n rhaid I’r Mannau Croeso Cynnes ystyried Covid-19 yn eu hasesiadau risg.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Clic ar 01545 570881 neu i ddarganfod mwy ewch i dudalen Map Mannau Croeso Cynnes (Dolen i wefan allanol) ar wefan Dweud Eich Dweud Ceredigion.
Cysylltwch
Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:
Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein
Post:
Gwasanaethau Tai
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Ffôn:
01545 572105