Ochr yn ochr â'n cynhyrchion cymorth ariannol isod, gallwn eich cefnogi i drefnu gwaith addasu neu adnewyddu i'ch eiddo. Bydd y gwasanaeth goruchwylio mewnol yn arolygu, yn llunio cynllun, yn tendro ac yn goruchwylio gwaith i'ch cynorthwyo i wneud newidiadau i'ch cartref. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynnwys os ydych chi'n gwneud cais am Grant Anabledd.

Os na allwch gael gafael ar y cymorth ariannol gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaeth yn breifat am ffi 12% cost y gwaith.

Bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi gyda threfniadau. Byddwn yn defnyddio contractwyr o'n fframwaith sy'n gyfarwydd â'r gwaith. Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael i'r rheini sy'n gwneud cais am un o'n benthyciadau di-log.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni gan ddefnyddio tai@ceredigion.gov.uk.