Mae Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru wedi newid. O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae gan y cynllun fwy o ffocws ar dechnolegau carbon isel ar gyfer y cartref i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad sero net erbyn 2050.

Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru ar arbed ynni a dŵr, gwneud y mwyaf o’ch incwm, a lleihau eich ôl troed carbon. Os ydych chi’n gymwys, mae Nyth hefyd yn cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel gwres canolog, inswleiddio, paneli solar, neu bwmp gwres.

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244 neu ewch i dudalen Cynllun Cartrefi Cynnes Nyth Llywodraeth Cymru.

Nest logo