Cyllid ECO4 Flex - Mesurau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (gan gynnwys systemau gwresogi, inswleiddio, a phaneli solar ffotofoltäig)
Mae Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni 4 (ECO4) yn gynllun effeithlonrwydd ynni Llywodraeth y DU a fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2026. O dan ECO4 mae'n ofynnol i gyflenwyr ynni leihau costau gwresogi ar gyfer aelwydydd incwm isel ac agored i niwed trwy ariannu mesurau effeithlonrwydd ynni, inswleiddio a gwresogi. Nod y cynllun yw lleihau tlodi tanwydd a biliau ynni yn y tymor hir a lleihau allyriadau carbon. Mae cwmnïau ynni yn gweithio gyda gosodwyr trydydd parti i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan ECO4 a'r cwmnïau ynni sydd i benderfynu pa fesurau y maent yn dewis eu hariannu, lefel y cyllid y maent yn ei ddarparu a'r gosodwr y maent yn dewis gweithio ag ef.
Beth yw ECO4 Flex?
Mae ‘Cymhwysedd Hyblyg ECO4’ (ECO4 Flex) yn fecanwaith atgyfeirio aelwydydd o fewn y Cynllun ECO4 ehangach. Gall cynghorau gymryd rhan yn wirfoddol yn ECO4 Flex i nodi aelwydydd cymwys nad ydynt yn cael budd-dal prawf modd (dull safonol cynllun ECO4 i gyflawni cymhwysedd) ond sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir isod; mae hyn yn unol â Datganiad o Fwriad ECO4 Flex y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gyrchu cyllid cynllun ECO4 nac am drefnu gosod unrhyw fesurau.
Mae rhagor o wybodaeth am ECO4 Flex ar gael ar dudalen we Energy Company Obligation (ECO) Ofgem.
Meini Prawf Cymhwysedd
Er mwyn elwa ar ECO4 Flex, rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun neu gael caniatâd eich landlord. Mae'n bwysig nodi mai rhwymedigaeth cyflenwr yw ECO4 ac nid cynllun grant, ac felly gall cwmnïau neu osodwyr gwahanol ddarparu gwahanol lefelau neu fathau o gymorth tuag at osod mesurau effeithlonrwydd ynni neu wresogi.
Er mwyn bod yn gymwys rhaid i eiddo fod yn eiddo domestig preifat a feddiannir (naill ai cartrefi perchen-feddiannaeth neu gartrefi yn y sector rhentu preifat). Rhaid i'r eiddo a'r aelwyd lynu at o leiaf un o'r tri llwybr sydd ar gael a amlinellir isod (Diffiniadau: TPY = Tystysgrif Perfformiad Ynni).:
Llwybr 1 – Incwm Isel
TPY bandiau D-G aelwydydd perchen-feddiannaeth a bandiau E-G aelwydydd yn y sector rhentu preifat sydd â chyfanswm cyfunol incwm blynyddol gros o bob ffynhonnell yn llai na £31,000 (dyma gyfanswm cyfunol incwm yr aelwyd, gan gynnwys pob person 18+ oed sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw, megis lletywyr a pherthnasau oedrannus, ac ati, a rhaid iddo gynnwys yr holl incwm a dderbynnir gan bawb sy'n byw yn yr aelwyd, gan gynnwys budd-daliadau heb brawf modd, llog o gynilon, taliadau costau byw, ac ati).
Llwybr 2 – Targedu procsi
TPY bandiau E-G aelwydydd perchen-feddiannaeth ac aelwydydd yn y sector rhentu preifat sy'n bodloni cyfuniad o ddau o'r procsiaid canlynol (ni ellir defnyddio procsiaid 1 a 3 gyda'i gilydd; nid yw procsi 5 ar gael oherwydd nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn rhedeg cynllun sy'n bodloni'r meini prawf):
Procsi 1 (ni ellir ei ddefnyddio gyda Phrocsi 3): Mae'r eiddo yn narpariaeth Cymru LSOA 1-3 ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (mae'r eiddo yn LSOA Aberteifi Teifi, Aberteifi Rhyd-Y-Fuwch neu Aberystwyth Penparcau 1: cyfeiriwch at fapiau LSOA sydd ar gael trwy Gymhwysedd ECO4 Flex Awdurdodau Lleol – Cyngor Sir Ceredigion).
Procsi 2: Mae rhywun yn yr aelwyd yn gallu hawlio gostyngiad Treth y Cyngor ar sail incwm isel.
Procsi 3: (ni ellir ei ddefnyddio gyda Phrocsi 1): Mae rhywun yn yr aelwyd yn agored i'r oerfel am un o'r rhesymau canlynol (o wefan National Institue for Health and Care Excellence):
- pobl â chyflyrau cardiofasgwlaidd
- pobl â chyflyrau anadlol (yn arbennig, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma plentyndod)
- pobl â phroblemau iechyd meddwl
- pobl ag anableddau
- pobl hŷn (65 oed a hŷn)
- aelwydydd â phlant ifanc (o fabanod newydd-anedig i blant oedran ysgol)
- menywod beichiog
Procsi 4: Plentyn yn yr aelwyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim oherwydd incwm isel.
Procsi 5: Ddim ar gael yng Ngheredigion.
Procsi 6: Mae rhywun yn yr aelwyd wedi cael ei atgyfeirio at yr awdurdod lleol am gymorth gan ei gyflenwr ynni neu Gyngor ar Bopeth oherwydd ei fod yn ei chael hi'n anodd talu ei filiau trydan a/neu nwy.
Llwybr 3 – Atgyfeiriadau'r GIG
TPY bandiau D-G aelwydydd perchen-feddiannaeth a bandiau E-G aelwydydd yn y sector rhentu preifat sydd wedi'u nodi a'u hatgyfeirio gan feddyg teulu, Bwrdd Iechyd neu ymddiriedolaeth y GIG, gan fod rhywun yn yr aelwyd yn dioddef o afiechyd difrifol neu hirdymor oherwydd un o'r cyflyrau isod, ac mae byw mewn cartref oer yn effeithio'n andwyol ar ei iechyd.
- cyflwr cardiofasgwlaidd
- clefyd anadlol
- imiwnoataliedig
- symudedd cyfyngedig
Darparwch lythyr gan y person perthnasol uchod yn cadarnhau'r cyflwr iechyd gyda'r ffurflen gais. Fel arall, gall templed llythyr atgyfeirio'r GIG sydd i'w weld ar ein tudalen we yma: Cymhwysedd ECO4 Flex Awdurdodau Lleol – Cyngor Sir Ceredigion gael ei gwblhau gan y person perthnasol.
Bydd y mesurau effeithlonrwydd ynni y caniateir eu gosod mewn aelwyd cymwys yn cael eu pennu gan y darparwr/asiant/gosodwr ECO. Mae enghreifftiau o'r mesurau y gellir eu gosod o dan ECO4 Flex yn cynnwys inswleiddio waliau solet, inswleiddio waliau ceudod, insiwleiddio ystafell yn y to, inswleiddio atig, inswleiddio to fflat, uwchraddio gwresogydd storio trydan, gwres canolog am y tro cyntaf i bwmp gwres ffynhonnell aer, uwchraddio boeleri o olew, LPG a thanwydd solet i bwmp gwres ffynhonnell aer, a phaneli solar ffotofoltäig. Mae ECO4 Flex yn defnyddio dull ôl-osod tŷ cyfan ac yn annog dull aml-fesur, oherwydd y Gofynion Sylfaenol (MR) o ran faint o welliannau effeithlonrwydd ynni a wneir ar eiddo. Rhaid gwella eiddo gyda bandiau TPY cychwynnol F a G i TPY D, tra bod yn rhaid gwella eiddo gyda bandiau TPY E a D cychwynnol i TPY C. Lle mae cyllid ar gael, mae aelwydydd cymwys felly'n debygol o dderbyn mesurau lluosog lle mae'n bosibl ac yn gost-effeithiol gwneud hynny.
Nid yw cymhwyster ar gyfer ECO4 yn gwarantu bod cyllid ar gael. Mae'r cyllid sydd ar gael a faint o arian sydd ar gael yn cael ei bennu gan y darparwyr/asiantau ECO a'u cyllidwyr. Gallai penderfyniadau gan gyflenwyr ynni a darparwyr/asiantau ECO ynghylch a ddylid gosod mesur ddibynnu ar a) yr arolwg a gynhelir gan gyflenwyr, neu eu hasiantau/contractwyr a chyfrifiad costau gosod a gyfrifwyd; b) yr arbedion ynni y gellir eu cyflawni ar gyfer eiddo; c) a yw cyflenwyr wedi cyrraedd, neu'n agos at gyrraedd, eu targedau; ac ch) ystyriaethau masnachol eraill.
Er y bydd rhai mesurau sy'n cael eu hariannu gan ECO yn rhad ac am ddim i'r deiliad tŷ, efallai y bydd eraill yn cael eu hariannu'n rhannol a bydd angen cyfraniad gan y deiliad tŷ er mwyn eu cyflawni. Bydd unrhyw drefniadau ariannol neu gytundebol yn ymwneud â gosod mesur, arolwg cartref penodol neu wasanaeth yn ôl disgresiwn perchennog y cartref neu'r deiliad i dderbyn neu wrthod fel y dymunant. Ni fydd y Cyngor yn rhan o unrhyw drefniadau o'r fath; bydd hyn rhwng y deiliad tŷ ac unrhyw drydydd parti o'i ddewis ar restr y Cyngor o ddarparwyr/asiantau ECO4 Flex cymeradwy.
Os nad oes TPY dilys ar gyfer eich eiddo ar hyn o bryd, yna bydd y gosodwr/darparwr ECO4 Flex cymeradwy y byddwch yn gwneud cais drwyddo yn trefnu i'ch eiddo gael ei asesu gan Aseswyr Ynni Domestig achrededig (AYD). Mae'r AYD yn cynnal yr asesiad ynni ac yn cyhoeddi sgôr effeithlonrwydd ynni. Gallwch wirio a oes Tystysgrif Perfformiad Ynni dilys ar eich eiddo drwy fynd i tudalen Find an energy certificate y Llywodraeth DU.
Dylai aelwydydd sy'n dymuno gwneud cais am gyllid ECO4 Flex gysylltu ag un o ddarparwyr/asiantau ECO4 Flex cymeradwy Cyngor Sir Ceredigion (gweler isod) a fydd yn hwyluso'r broses ymgeisio. Nid yw'r Cyngor yn derbyn ceisiadau yn uniongyrchol gan gartrefi. Sylwch nad yw'r Cyngor yn cymeradwyo unrhyw gyflenwr ynni penodol, asiant grant, gosodwr neu gwmni sy'n gysylltiedig â chymhwyso neu osod grantiau neu gynhyrchion cynllun ECO4.
Mae'r rhestr o ddarparwyr/asiantau cymeradwy'r Cyngor a all ddarparu mesurau effeithlonrwydd ynni o dan ECO4 Flex ar gael yn y ddogfen Rhestr o Osodwyr/Darparwyr ECO4 Flex Cymeradwy. O'r rhestr gallwch ddewis y darparwr yr hoffech wneud cais drwyddo. Fel arall, gallwch ffonio'r Gwasanaeth Tai ar 01545 572105 i ofyn am gopi papur.
Mae'n ofynnol i'r darparwr/asiant cymeradwy gasglu a chyflwyno tystiolaeth o'ch incwm a manylion perthnasol eraill (gan gynnwys manylion personol) i Gyngor Sir Ceredigion fel y gellir gwneud asesiad ynghylch eich cymhwysedd ar gyfer ECO4 Flex. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i ddarparu'r wybodaeth hon ond drwy wneud hynny rydych yn rhoi eich caniatâd i rannu'r wybodaeth â Chyngor Sir Ceredigion. Cyfeiriwch at ddogfen Hysbysiad Preifatrwydd ECO4 Flex y Cyngor sy'n esbonio sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio a'i storio gan y Cyngor mewn perthynas ag ECO4 Flex.
Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn cymeradwyo ansawdd crefftwaith darparwyr/asiantau/gosodwyr/contractwyr ECO4 a ddylai fod wedi'i gofrestru gyda Trustmark (Ymholiadau Cyffredinol Trustmark: 0333 555 1234). Fodd bynnag, mae Swyddog Effeithlonrwydd Ynni'r Cyngor yn rheoli fframwaith o ddarparwyr/asiantau ECO4 Flex cymeradwy, gan ganiatáu iddynt wneud atgyfeiriadau uniongyrchol i'r Cyngor ar gyfer gwiriadau cymhwyster a llofnodi datganiadau (lle bo hynny'n gymwys). Nid yw'r Cyngor yn derbyn atgyfeiriadau gan gynhyrchwyr arweiniol neu drydydd partïon.
Bydd darparwyr/asiantau ECO4 Flex a gymeradwywyd gan y Cyngor yn cael cyllid gan y cyflenwyr ynni sydd wedi ymrwymo gan ECO i gyflawni mesurau o dan y cynllun hwn. Wrth ddelio ag unigolion o'r sefydliadau hyn (gan gynnwys syrfewyr, cynhyrchwyr arweiniol, gosodwyr, ac ati sy'n gweithio ar ran darparwr/asiant cymeradwy), rhaid iddynt a) cario a dangos cerdyn adnabod â llun; b) esbonio'n glir pwy ydyn nhw, i bwy maen nhw'n gweithio a diben eu hymweliad; c) rhoi manylion cyswllt eu cwmni i chi fel y gallwch gysylltu â nhw os oes angen; ch) esbonio bod y cynllun yn cael ei ariannu gan y cyflenwyr ynni ac nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor nac ar ei ran; a d) rhoi eu Hysbysiad Preifatrwydd i chi yn egluro sut y byddant yn defnyddio, storio a rhannu eich data. Dylent hefyd roi rhestr o waith i chi (os bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen), cyfarwyddiadau gweithredu, manylion am ofynion gwasanaeth sy'n berthnasol i'r mesurau a osodwyd a dogfennaeth sy'n amlinellu gwarant y gosodwr a'r gwneuthurwr.
Sylwch na chaniateir i'r darparwyr/asiantau ECO4 Flex cymeradwy ddefnyddio logo'r Cyngor i farchnata cynllun ECO4.
O dan ECO4 Flex, nid yw Awdurdodau Lleol yn atebol am unrhyw hawliadau y mae cwsmer yn eu gwneud os ydynt yn anfodlon â safon y gwaith; y gosodwr sy'n atebol am unrhyw waith a wneir. Felly nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd sy'n deillio o unrhyw ganlyniad negyddol, difrod neu golled oherwydd gwaith sy'n gysylltiedig ag ECO4 Flex a'r gosodwr/darparwr/asiant. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion sy'n gysylltiedig â pharatoi'r cais neu'r arolwg cyn gwneud y gwaith gosod.
Mae rhan y Cyngor yn ECO4 Flex wedi'i gyfyngu i'r datganiad o gymhwysedd aelwydydd i gael cyllid yn unig. Dylai unrhyw gŵyn neu fater sy'n codi yn erbyn gwaith, neu'r broses ymgeisio sy'n ymwneud ag ECO4 Flex, gael ei thrafod gyda'r gosodwr/darparwr/cyflenwr ynni ymrwymedig. Os oes angen i chi fod yn fodlon ar ansawdd y gosodiad rhaid i chi ddibynnu ar eich arbenigwr annibynnol eich hun.
Os bydd unrhyw waith yn mynd yn ei flaen o dan y cynllun, mae'r cytundeb rhwng y deiliad tŷ a'r gosodwr/darparwr/asiant dan sylw (nid gyda'r Cyngor). Y gosodwr sy'n gyfrifol am y gosodiadau (ar gyfer diffygion gosod o fewn cyfnod penodol) a'r gwneuthurwr (ar gyfer cynhyrchion diffygiol o fewn y cyfnod gwarant). Cyfrifoldeb y deiliad tŷ/perchennog ac nid y gosodwr/darparwr/asiant ECO yw cynnal amserlenni gwasanaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gosodiad neu'r crefftwaith, cysylltwch â'r darparwr/gosodwr ECO4 Flex dan sylw.
Mae'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) yn ardystio, yn sicrhau ansawdd ac yn darparu amddiffyniad i ddefnyddwyr ar gyfer gosodiadau a gosodwyr microgynhyrchu. Mae'r rhain yn cynnwys technolegau trydan adnewyddadwy ar raddfa fach fel paneli solar ffotofoltäig, biomas, gwynt, pympiau gwres a chynhyrchion gwres. Os oes gennych gŵyn am dechnoleg o’r fath sydd wedi’i gosod yn eich cartref gan osodwr MCS ardystiedig, cysylltwch â MCS dros y ffôn ar 0333 103 8130, drwy e-bost hello@mcscertified.com, drwy ymweld â Contact Us - MCS neu yn ysgrifenedig at MCS, First Floor, Violet 3, Sci-Tech Daresbury, Keckwick Lane, Daresbury, Cheshire, WA4 4AB. Mae gan MCS hefyd dudalen we sy’n canolbwyntio ar beth i’w wneud os aiff pethau o chwith, "What to do if things go wrong". Gallai cwyn gynnwys y canlynol: system ddiffygiol neu gydrannau unigol; problemau gyda safon y crefftwaith; materion trydanol neu ddiogelwch; materion yn ymwneud â dyluniad, maint neu berfformiad y system; diffyg cydymffurfio â safonau gosod perthnasol; pecyn trosglwyddo anghyflawn; tystysgrif MCS ar goll neu'n anghywir.
Er mwyn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid, mae'n rhaid i'r gwaith o osod y rhan fwyaf o fesurau effeithlonrwydd ynni o dan ECO4 Flex gael eu cyflawni gan fusnesau sydd wedi'u cofrestru â TrustMark, y mae'n ofynnol iddynt gadw at safonau annibynnol y Fanyleb sydd ar Gael yn Gyhoeddus (PAS). Mae gosodwyr hefyd wedi'i rwymo gan weithdrefnau trwy eu corff ardystio. Os nad yw gosodwr yn gwneud y gwaith yn iawn yn y lle cyntaf, neu'n methu ag unioni'r sefyllfa lle nad yw'n gwneud hynny, mae gweithdrefnau'n bodoli a ddilynir i amddiffyn y defnyddiwr. Gall cwsmeriaid gysylltu â TrustMark, a all ymchwilio i weld a yw cwmni'n cadw at Siarter Cwsmeriaid Trustmark a rhoi cyngor ar y camau nesaf posibl. At hynny, mae gan TrustMark broses datrys anghydfod hefyd os yw cwsmer yn dymuno gwneud cwyn yn erbyn gosodwr cofrestredig. Gellir cael rhagor o wybodaeth trwy fynd i wefan Trustmark. Gallwch hefyd gysylltu â Trustmark ar y rhif ffôn 0333 555 1234, neu drwy ysgrifennu at Trustmark (2005) Limited, Arena Business Centre, The Square, Basing View, Basingstoke, RG21 4EB.
Mae gan Ofgem dudalen we hefyd sy'n amlinellu'r camau a allai eich helpu i ddatrys cwynion am fesur effeithlonrwydd ynni a osodwyd o dan ECO4 Flex yn eich cartref. Ewch i tudalen Ofgem ECO4 Complaints process i ddarllen mwy am y broses.
Os ydych yn pryderu am ymddygiad y syrfëwr neu eich hawliau fel defnyddiwr, ffoniwch linell gymorth Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133 i gael cynghorydd sy'n siarad Saesneg neu 0808 223 1144 am gynghorydd sy'n siarad Cymraeg.
Er mwyn i aelwyd wneud cais am gyllid posibl o dan ECO4 Flex, bydd angen i'r darparwr/asiant ECO4 Flex cymeradwy a'r Cyngor gasglu data personol. Bydd y Cyngor angen y wybodaeth ganlynol am yr aelwyd/ymgeisydd gan y darparwr/asiant ECO: enw cleient, dyddiad geni, cyfeiriad, tystiolaeth ategol a llwybr atgyfeirio (gall hyn gynnwys gwybodaeth ariannol a data categori arbennig megis gwybodaeth am rai cyflyrau iechyd). Mae enghreifftiau o'r wybodaeth sydd ei hangen i'w gweld yn ffurflen gais ECO4 Flex a fydd ar gael gan y darparwr rydych yn gwneud cais drwyddo.Bydd gwybodaeth am nifer y datganiadau a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn cael ei chofnodi trwy ddefnyddio Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN). Pan fydd datganiad wedi'i roi i'r darparwr cymeradwy, bydd y Cyngor yn anfon gwybodaeth y datganiad (cyfeiriad a llwybr cyfeirio) at Ofgem, gweinyddwr ECO4. Gall ceisiadau a datganiadau fod yn destun archwiliadau Ofgem yn ystod yr amser y mae ECO4 mewn grym a hyd at dair blynedd ar ôl i'r cynllun ddod i ben. Yn ystod yr archwiliadau hyn efallai y bydd Ofgem yn gofyn i'r Cyngor rannu'r ffurflenni cais a'r dystiolaeth ategol â nhw.
Bydd y Cyngor yn trin yr holl ddata personol a brosesir ar gyfer ECO4 Flex yn unol â gofynion yr holl ddeddfwriaeth diogelu data a phreifatrwydd berthnasol sydd mewn grym o bryd i'w gilydd yn y DU gan gynnwys GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018 (a rheoliadau a wneir o dan hynny) a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 (OS 2003/2426) fel y'u diwygiwyd. Cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cymhwysedd ECO4 Flex y Cyngor sy'n esbonio sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio a'i storio gan y Cyngor mewn perthynas ag ECO4 Flex. Gellir gweld Hysbysiad Preifatrwydd cyffredinol y Cyngor ar ein tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.