Gyda chost ynni’n codi, mae nifer o gynlluniau a grantiau llywodraeth ar gael i helpu gyda biliau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer megis y Gostyngiad Cartref Cynnes, y Taliad Tanwydd Gaeaf a’r Taliad Tywydd Oer.
Gostyngiad Cartref Cynnes
Mae'r Gostyngiad Cartref Cynnes yn helpu cwsmeriaid gyda'u biliau ynni yn ystod misoedd y gaeaf. Ar gyfer gaeaf 2022/2023 mae wedi’i gynyddu i £150 a bydd y meini prawf cymhwysedd yn cael eu hymestyn bron i draean a bydd hyd at dair miliwn o aelwydydd bregus yn elwa o hyn.
Gostyngiad Cartref Cynnes (Saesneg yn unig) - wefan GOV.UK
Taliad Tanwydd Gaeaf
Grant gan y llywodraeth yw’r Taliad Tanwydd Gaeaf sydd yn rhoi rhwng £100 a £300 i bobl a anwyd cyn 26 Medi 1956.
Taliad Tanwydd Gaeaf - wefan GOV.UK
Taliad Tywydd Oer
Mae’r Taliad Tywydd Oer ar gael os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol, a bod eich ardal wedi dioddef tymheredd o dan 0 gradd am 7 diwrnod yn olynol.
Taliad Tywydd Oer - wefan GOV.UK
Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni
Gall y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO Energy Company Obligation) wneud gwahaniaeth mawr i'r rhai sy'n byw mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael. Mae’r cynllun ECO yn fenter a gefnogir gan y llywodraeth (a reoleiddir gan Ofgem) i leihau allyriadau carbon ac, yn ei dro, lleihau biliau gwresogi ar gyfer aelwydydd sy’n gymwys ar gyfer y cynllun. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflenwyr ynni mawr i osod mesurau effeithlonrwydd ynni, megis inswleiddio, gwres canolog am y tro cyntaf ac atal drafftiau. Mae’ch cymhwyster i gael cyllid ai peidio yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gwiriwch gyda’ch cyflenwr ynni i weld a allwch chi elwa o’r cynllun.
Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (Saesneg yn unig) - wefan GOV.UK
Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr
Mae Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr yn gynllun newydd gan y llywodraeth i helpu pobl i insiwleiddio eu cartrefi, eu gwneud yn fwy ynni-effeithlon ac arbed arian ar eu biliau ynni. Bydd y cynllun yn rhedeg tan fis Mawrth 2026. I weld a allwch chi dderbyn cymorth ewch i dudalen we Apply for support from the Great British Insulation Scheme Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).