Sut i Wneud Cais
Cam 1 – Gwiriwch Eich Bod yn Gymwys
Cam 2 – Darllenwch y Nodiadau Canllaw
➡ Telerau a Chanllawiau'r Cynllun
Cam 3 – Llenwch y Ffurflen Gais
➡ Ffurflen Cais Cynllun Tai Cymunedol
Cam 4 – Cyflwyno Eich Cais
Cyflwynwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau a'r dogfennau ategol drwy e-bost lle bynnag y bo modd i:
Os nad ydych yn gallu anfon eich cais drwy e-bost, gallwch ei bostio i'r cyfeiriad isod. Os hoffech i unrhyw ddogfennau gwreiddiol gael eu dychwelyd, nodwch hyn mewn llythyr eglurhaol.
Polisi Cynllunio, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA
Caiff ceisiadau eu hystyried yn nhrefn eu derbyn, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
Peidiwch ag oedi cyn cyflwyno eich cais os ydych yn dal i aros am rai dogfennau.
Ticiwch "Yn aros amdani/ymdano" ar y ffurflen gais lle bo'n briodol ac anfonwch y dogfennau pan fyddant ar gael.
Beth Sy'n Digwydd Nesaf?
Unwaith y byddwn wedi asesu eich cais ac wedi cadarnhau eich bod yn bodloni'r holl ofynion cymhwystra, byddwn yn:
Anfon Tystysgrif Gymhwystra atoch.
Am Ba Mor Hir Mae'r Dystysgrif yn Ddilys?
Mae eich Tystysgrif Gymhwystra yn ddilys am 18 wythnos o'r dyddiad y caiff ei chyhoeddi.
Angen Tystysgrif Newydd?
Os daw eich tystysgrif i ben cyn i chi gwblhau'r pryniant, gallwch wneud cais am dystysgrif newydd.
Er mwyn ailgyhoeddi tystysgrif, fel arfer bydd angen y canlynol:
- Eich slipiau cyflog neu wybodaeth incwm ddiweddaraf ar gyfer y 3 mis diwethaf
- Cadarnhad o'ch cynnig morgais presennol neu forgais mewn egwyddor
- Tystiolaeth ddiweddar o flaendal o o leiaf 5%
Mae hyn yn ein galluogi i gadarnhau eich bod yn dal i fodloni'r gofynion cymhwystra ariannol cyn cyhoeddi tystysgrif newydd.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi dderbyn eich tystysgrif?
Ar ôl i ni gyhoeddi eich Tystysgrif Gymhwystra Cynllun Tai Cymunedol, byddwn yn trosglwyddo eich manylion i dîm Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor.
Bydd y Gwasanaethau Cyfreithiol wedyn yn gweithio gyda'ch cyfreithiwr fel rhan o'r broses arferol o brynu eiddo. Mae hyn yn golygu y bydd y gwaith cyfreithiol sy'n ymwneud â benthyciad rhannu ecwiti'r Cyngor yn rhedeg ochr yn ochr â'r broses drawsgludo, y trefniadau morgais a'r gwiriadau eiddo arferol.
Cyn y gall y Gwasanaethau Cyfreithiol gyhoeddi'r pecyn cyfreithiol a'r llythyr awdurdodi i fwrw ymlaen, bydd angen cadarnhad fel arfer o:
- swm eich morgais cyntaf; ac
- unrhyw gyfraniad arian parod rydych yn ei wneud tuag at y pryniant.
Yna bydd angen i'ch cyfreithiwr ddarparu'r ymrwymiadau cyfreithiol gofynnol. Unwaith y cânt eu derbyn, bydd y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cyhoeddi'r awdurdod i gyfnewid contractau ac, ar y cam priodol, yn trefnu rhyddhau arian benthyciad y Cyngor.
Mae proses gyfreithiol y Cyngor wedi'i chynllunio i gyd-fynd â'ch pryniant eiddo. Bydd yr amser y mae'n ei gymryd yn dibynnu'n bennaf ar eich cyfreithiwr, eich benthyciwr morgais a'r gwiriadau cyfreithiol arferol sy'n gysylltiedig â phrynu eiddo.
Angen Help?
Os hoffech drafod eich cymhwystra, cael cymorth i gwblhau cais, neu gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â:
01545 570881
Gwybodaeth Bwysig
Mae benthyciad ecwiti'r Cyngor wedi'i warantu yn erbyn yr eiddo ac mae'n ffurfio rhan o'r cytundeb cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r cartref.
Rhaid meddiannu'r eiddo fel eich unig gartref neu eich prif gartref.