Cynllun Rhannu Ecwiti Tai Cymunedol
Helpu Chi i Brynu Cartref yng Ngheredigion
Mae'r Cynllun Rhannu Ecwiti Tai Cymunedol yn helpu aelwydydd cymwys i brynu cartref pan na allant fforddio gwneud hynny heb gymorth. Mae'r cynllun yn lleihau'r swm y mae angen i chi ei fenthyca drwy forgais.
Mae'r Cyngor yn darparu benthyciad ecwiti di-log tuag at bris prynu eich cartref. Mae'r Cyngor yn cadw cyfran ecwiti yng ngwerth eich cartref nes bod y benthyciad ecwiti wedi'i ad-dalu'n llawn.
Pwyntiau Allweddol
- Ar gael i breswylwyr lleol cymwys, gweithwyr allweddol, gofalwyr neu bobl sydd angen gofal.
- Gall cartref sy'n addas i'w feddiannu gael cymorth o hyd at 20% o'r pris prynu.
- Gall cartref gwag cofrestredig gael cymorth o hyd at 40% o'r pris prynu.
- Y pris prynu uchaf yw £300,000, yn amodol ar adolygiadau cyfnodol.
- Rhaid darparu tystiolaeth gan y gwerthwr neu'r asiant eiddo yn cadarnhau'r pris prynu y cytunwyd arno.
- Rhaid darparu blaendal o leiaf 5% o'r pris prynu.
- Mae benthyciad ecwiti'r Cyngor yn ddi-log ac nid oes unrhyw ad-daliadau misol.
- Gall perchnogion gynyddu cyfran eu perchnogaeth drwy brynu cyfran ecwiti'r Cyngor mewn cynyddrannau o 5%.
- Rhaid ad-dalu benthyciad ecwiti'r Cyngor erbyn diwedd cyfnod y morgais neu o fewn 25 mlynedd, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf. Wrth ad-dalu'r benthyciad, bydd rhaid ad-dalu pa un bynnag sydd fwyaf:
- y swm a fenthycwyd yn wreiddiol gan y Cyngor; neu
- werth cyfran ecwiti'r Cyngor yn seiliedig ar werth marchnad cyfredol yr eiddo.
- Bydd benthyciad ecwiti'r Cyngor wedi'i warantu drwy arwystl cyfreithiol dros yr eiddo nes iddo gael ei ad-dalu'n llawn.
- Ni ellir defnyddio'r cynllun i brynu eiddo Tai Fforddiadwy Gostyngiad ar Werth.
A Allaf i Wneud Cais?
Efallai y byddwch yn gymwys os:
- Na allwch gael morgais sy'n fwy na 10% yn uwch na gwerth yr eiddo heb gyfraniad arfaethedig y Cyngor.
- Rydych yn bodloni un o'r gofynion canlynol: person lleol, gweithiwr allweddol, gofalwr neu'n berson sydd angen gofal.
- Bydd y cartref yn unig gartref ac yn brif gartref i chi.
- Gallwch ddarparu blaendal o leiaf 5%.
- Nid ydych yn berchen ar unrhyw eiddo preswyl arall.
- Rydych yn bodloni'r gofynion cymhwystra ariannol.
Heb Gael Eich Holl Dystiolaeth Eto?
Gallwch gyflwyno eich cais o hyd a darparu unrhyw ddogfennau sy'n weddill yn nes ymlaen.
Ni ellir asesu ceisiadau'n llawn nes bod yr holl ddogfennau ategol gofynnol wedi dod i law.
Faint o Gymorth y Gallaf ei Gael?
|
Math o Gartref |
Uchafswm Cyfraniad y Cyngor |
|
Cartref sy'n addas i'w feddiannu |
Hyd at 20% |
|
Cartref gwag cofrestredig |
Hyd at 40% |
Mae cartref sy'n addas i'w feddiannu yn golygu cartref sydd eisoes yn addas i fyw ynddo heb waith adeiladu mawr.
Mae cartref gwag cofrestredig yn golygu eiddo sydd wedi'i gofnodi gan y Cyngor fel eiddo gwag, heb ei feddiannu ac heb ddodrefn am fwy na 12 mis.
Mae'r lefel uwch o gymorth ar gyfer cartrefi gwag yn adlewyrchu'r costau ychwanegol sy'n aml ynghlwm wrth ddod â nhw yn ôl i ddefnydd.
Prynu Cartref Gwag
Os ydych yn prynu cartref gwag cofrestredig, efallai y bydd y Cyngor yn gallu darparu benthyciad ecwiti o hyd at 40% o'r pris prynu.
- Benthyciadau Gwella Cartrefi - Cyngor Sir Ceredigion
- Y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag - Cyngor Sir Ceredigion
Er mwyn cymhwyso fel cartref gwag, rhaid i'r eiddo fod wedi'i gofrestru fel eiddo gwag am fwy na 12 mis.
Ddim yn siŵr a yw cartref wedi'i gofrestru'n eiddo gwag?
Cysylltwch â'r Tîm Polisi Cynllunio yn CTC-CHS@ceredigion.gov.uk.
01545 570881
Ad-dalu Benthyciad Ecwiti'r Cyngor
Pan gaiff benthyciad ecwiti'r Cyngor ei ad-dalu, byddwch yn ad-dalu pa un bynnag sydd fwyaf:
Y swm gwreiddiol a fenthycwyd gan y Cyngor; neu
Werth cyfran ecwiti'r Cyngor yn seiliedig ar werth marchnad cyfredol yr eiddo.
Enghraifft
Mae'r Cyngor yn darparu benthyciad ecwiti o £50,000.
|
Ar adeg y pryniant |
Ar adeg y gwerthiant |
|
Gwerth yr eiddo £250,000 |
Gwerth yr eiddo £300,000 |
|
Cyfran ecwiti'r Cyngor £50,000 |
Cyfran ecwiti'r Cyngor £60,000 |
Gan fod gwerth yr eiddo wedi cynyddu 20%, mae gwerth cyfran ecwiti'r Cyngor hefyd wedi cynyddu 20%.
Arwystl y Cyngor dros yr Eiddo
Bydd benthyciad ecwiti'r Cyngor yn cael ei sicrhau drwy arwystl cyfreithiol dros yr eiddo. Bydd yr arwystl yn parhau mewn grym nes bod benthyciad ecwiti'r Cyngor wedi'i ad-dalu'n llawn.
Cynyddu Cyfran y Berchnogaeth
Mae cynyddu cyfran y berchnogaeth yn eich galluogi i brynu cyfran ychwanegol o'ch cartref a lleihau cyfran ecwiti'r Cyngor dros amser.
- Dim ond mewn cynyddrannau o 5% y gellir prynu cyfrannau ychwanegol.
- Fel arfer gellir cynyddu cyfran y berchnogaeth ar ôl 5, 10, 15, 20 a 25 mlynedd.
- Gellir ystyried ceisiadau cynharach os yw'n fforddiadwy.
- Fel arfer bydd angen prisiad o'r eiddo.