3. Dogfen sydd ei hangen i brofi unig breswyliad
Bydd angen i chi gyflwyno datganiad statudol wedi'i lofnodi, a ddylai gynnwys eich enwau a chael ei lofnodi gennych chi a'ch partner (os yw'n berthnasol) ym mhresenoldeb cyfreithiwr, a rhaid cynnwys enw a chyfeiriad y cyfreithiwr hefyd.
Gall y cyfreithiwr/comisiynydd llwon godi tâl am y gwasanaeth hwn, ac felly efallai y byddai’n well ichi aros tan ichi gasglu’r holl wybodaeth angenrheidiol cyn sicrhau’r datganiad statudol. Mae’n rhaid i’r cyfreithiwr/comisiynydd llwon roi stamp yn dwyn ei enw a’i gyfeiriad ar y datganiad.