Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

1. Dogfennau Sydd eu Hangen i Brofi Cymhwystra Ariannol

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'ch incwm, eich cymhwystra am forgais ac unrhyw drefniadau ariannu eraill.

Tystiolaeth Morgais

Mae'r dystiolaeth ofynnol yn cynnwys:

  • Tystysgrif Morgais, Addewid Morgais neu Benderfyniad mewn Egwyddor sy'n cynnwys enwau POB Ymgeisydd.

Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am forgais hyd yn oed os nad oes angen morgais arnoch, os na allwch gael morgais, neu os gwrthodwyd morgais i chi.

  • Llythyr neu e-bost gan fenthyciwr morgais yn cadarnhau uchafswm y morgais sydd ar gael i chi (ac unrhyw gyd-ymgeisydd), os nad yw'r geiriau "uchafswm" neu "hyd at" yn ymddangos ar eich Tystysgrif Morgais, Addewid Morgais neu Benderfyniad mewn Egwyddor.

Mae hyn yn ein helpu i asesu'r uchafswm y gallech ei fenthyca, a all fod yn wahanol i'r swm y gwnaethoch gais amdano'n wreiddiol.

Tystiolaeth o Incwm Cyflogaeth

  • Eich slipiau cyflog ar gyfer y 3 mis diwethaf.
  • Slipiau cyflog y cyd-ymgeisydd ar gyfer y 3 mis diwethaf (os yw'n berthnasol).
  • Eich P60 diweddaraf.
  • P60 diweddaraf y cyd-ymgeisydd (os yw'n berthnasol).
  • Tystiolaeth o Incwm Hunangyflogaeth
  • Cyfrifon busnes yn cwmpasu'r 3 blynedd diwethaf.
  • Cyfrifon busnes y cyd-ymgeisydd yn cwmpasu'r 3 blynedd diwethaf (os yw'n berthnasol).
  • Tystiolaeth o Incwm o Fudd-daliadau
  • Tystiolaeth o unrhyw fudd-daliadau a dderbynnir gan unrhyw ymgeisydd, megis llythyr dyfarniad neu ddatganiadau'r 3 mis diwethaf sy'n dangos y taliadau a dderbyniwyd.

Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Credyd Cynhwysol
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-daliadau Plant
  • Credyd Pensiwn

Tystiolaeth o Incwm Ymddeoliad

Os ydych wedi ymddeol, yn methu cael morgais oherwydd eich oedran, neu'n methu gweithio mwyach, darparwch:

  • Ddatganiadau taliadau pensiwn ar gyfer y 3 mis diwethaf.
  • Eich datganiad pensiwn blynyddol diweddaraf.
  • Manylion unrhyw lwfansau neu incwm ychwanegol.

Mathau Eraill o Incwm

Tystiolaeth sy'n egluro'r incwm a ffynhonnell y swm a dderbynnir.

Tystiolaeth o'ch Blaendal 5%

Rhaid i chi ddangos bod gennych ddigon o arian ar gael i dalu o leiaf 5% o'r pris prynu o'ch cyllid eich hun.

Gall enghreifftiau o dystiolaeth gynnwys:

  • Datganiadau banc neu gymdeithas adeiladu diweddar sy'n dangos y cyllid sydd ar gael.
  • Datganiadau cyfrif cynilo diweddar.
  • Datganiadau buddsoddi neu ISA diweddar sy'n dangos cyllid y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y pryniant.
  • Cadarnhad o gyllid a gedwir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr.
  • Tystiolaeth ddiweddar o flaendal rhoddedig, megis llythyr blaendal rhoddedig a datganiadau banc ategol.
  • Tystiolaeth ddiweddar o enillion o werthu ased arall lle bydd y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio tuag at y pryniant.

Tystiolaeth o Ariannu Ychwanegol

Os nad yw eich morgais, eich blaendal a Benthyciad y Cyngor yn talu'r pris prynu yn llawn, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol sy'n dangos sut y bydd gweddill cost y pryniant yn cael ei ariannu.

Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Datganiadau cynilo
  • Datganiadau buddsoddi
  • Cadarnhad o flaendal rhoddedig
  • Enillion o werthu ased arall
  • Cyllid arall sydd ar gael

Tystiolaeth o'r Pris Prynu Cytunedig

Tystiolaeth (h.y. llythyr neu e-bost) gan y gwerthwr neu'r asiant eiddo yn cadarnhau'r pris prynu y cytunwyd arno.

Cyn Cyflwyno Eich Cais

Gwnewch yn siŵr bod pob dogfen yn glir, yn gyflawn ac yn gyfredol.

Ni ellir asesu ceisiadau'n llawn nes bod yr holl dystiolaeth ariannol ofynnol wedi dod i law.