Blaenoriaethau Allweddol Gweithgarwch Corfforol 2027–2032
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 17 Ionawr 2027
Gwasanaeth y Canolfannau Lles (Ceredigion Actif) yw prif wasanaeth y Cyngor ar gyfer annog pobl i fod yn gorfforol.
Rydym yn gwahodd trigolion i helpu i lunio sut y gallwn gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Ngheredigion yn y dyfodol.
Helpodd ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2021 i lywio ein blaenoriaethau ar gyfer 2022–2027, ac mae’r ffeithluniau hyn yn dangos rhywfaint o’r gwaith rydym wedi’i wneud a’r effaith rydym wedi’i chael dros y pedair blynedd diwethaf.
Dolen i ffeithlun: Cyflawniadau Gwasanaeth Canolfannau Llesiant Ers 2022
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein harolwg ar-lein: Blaenoriaethau Allweddol Gweithgarwch Corfforol 2027–2032
Neu
Argraffu a chwblhau copi papur: Blaenoriaethau Allweddol Gweithgarwch Corfforol 2027–2032 copi papur
Os hoffech dderbyn y wybodaeth a’r arolwg mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy e-bostio: ceredigionactif@ceredigion.gov.uk
Gallwch hefyd gasglu copi papur o’ch llyfrgell leol neu’ch canolfan hamdden leol, neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk
Dychwelwch gopïau papur i’ch llyfrgell leol, eich canolfan hamdden leol neu i Ceredigion Actif, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.
Grwpiau Ffocws
Bydd grwpiau ffocws hefyd yn cael eu cynnal yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr er mwyn archwilio ymhellach beth fyddai’n helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn y sir.
I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu un o’r grwpiau ffocws, rhowch eich manylion yma: Cofrestru ar gyfer Grŵp Ffocws – Llenwi ffurflen
Diogelu Data
Darllenwch sut mae’r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgyngoriadau – Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau Awdurdodau Lleol - Cyngor Sir Ceredigion
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd eich ymatebion yn helpu i lywio Blaenoriaethau Allweddol Gwasanaeth y Canolfannau Lles (Ceredigion Actif) ar gyfer 2027–2032.
Bydd crynodeb o’r canfyddiadau a’r Blaenoriaethau Allweddol y cytunwyd arnynt yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â:
Gwasanaeth y Canolfannau Lles (Ceredigion Actif)
Ffôn: 01545 570881
E-bost: clic@ceredigion.gov.uk