Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli drafft ar gyfer Llansantffraed
Bydd yr ymgynghoriad hon yn cau ar 24ain Rhagfyr 2026.
Mae'r Cyngor yn paratoi Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli drafft ar gyfer Llansantffraed.
Mae ardaloedd cadwraeth yn lleoedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i'w hadolygu'n rheolaidd a chynnig ffyrdd o gadw a gwella eu cymeriad.
Mae'r Arfarniad yn nodi'r nodweddion sy'n gwneud Llansantffraed yn arbennig, yn ogystal ag unrhyw heriau neu gyfleoedd a allai effeithio ar yr ardal. Mae hyn yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer Cynllun Rheoli mwy manwl sy'n nodi'r camau gweithredu a fydd yn rhoi sylw i'r materion hynny a chefnogi cadwraeth hirdymor yr ardal.
Bwriad y Cyngor yw mabwysiadu Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Llansantffraed fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA). Mae hyn yn golygu y bydd yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar yr Ardal Gadwraeth.
Fodd bynnag, hoffem glywed eich barn ar y ddogfen ddrafft yn gyntaf.
Yr Arfarniad a'r Cynllun Rheoli
Gallwch weld y ddogfen trwy glicio ar y ddolen ganlynol: Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Llansantffraed.
Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu ebostio clic@ceredigion.gov.uk.
Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad
Cwblhewch ein harolwg ar-lein: Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Llansantffraed.
Lawrlwythwch copi o'n harolwg: Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Llansantffraed (lawrlwthwch).
Gallwch ofyn am gopi papur y ffurflen o’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol neu drwy ffonio ni ar 01545 570881 neu danfon e-bost i: clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch eich arolygon papur wedi'u cwblhau trwy'r ebost i clic@cerdigion.gov.uk neu trwy'r post i Bolisi Cynllunio, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.
Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Polisi Cynllunio.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Byddwn yn dadansoddi eich ymatebion.
- Byddwn yn adolygu'r Cynllun Gwerthuso a Rheoli Ardaloedd Cadwraeth drafft i wneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu'r ymatebion a dderbyniwn.
- Byddwn yn cyflwyno'r cynllun terfynol i'r Cabinet i'w gymeradwyo ar 13 Chwefror 2027.
- Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd penderfyniad wedi'i wneud.