Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Asesiad o Lesiant Lleol

Bydd yr ymgyrch hwn yn cau ar 8fed Awst 2026

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cynnal Asesiad o Lesiant Lleol. Byddwn yn defnyddio'r asesiad i ysgrifennu ein Cynlluniau Llesiant nesaf.

Beth yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus?

Maent yn bartneriaethau o sefydliadau lleol fel cynghorau, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau brys ac eraill sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella llesiant - pethau sy'n helpu pobl i deimlo'n hapus, yn ddiogel ac yn iach.

Sut i rannu eich barn

Edrychwch am y tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant a fydd allan yn ystod yr haf i ofyn am eich barn yn bersonol.

Cwblhewch ein harolwg ar-lein - Arolwg Snap.

Lawrlwythwch gopi papur - Holiadur Llesiant.

Plant a Phobl Ifanc, lawrlwythwch gopi papur wedi'i gynllunio ar eich cyfer - Holiadur Llesiant Plant a Phobl Ifanc.

Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom yn clic@ceredigion.gov.uk.

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch partneriaethau@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol neu drwy'r post i:

Tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant,
Cyngor Sir Ceredigion,
Neuadd y Sir Ceredigion, 
Penmorfa, 
Aberaeron
SA46 0PA

Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

 

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen - Beth sy'n digwydd nesaf?