Mae ymgynghoriad ar y cynnig i drosglwyddo’r gwasanaethau gofal o Gartref Gofal Preswyl Tregerddan i Gartref Gofal Hafan y Waun yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 19 Mawrth 2024, bellach ar waith.

Nod yr ymgynghoriad yw archwilio barn preswylwyr a'u teuluoedd, staff a'r gymuned ehangach ar ddyfodol Cartref Gofal Tregerddan yn Bow Street, a'r cyfle i drosglwyddo'r ddarpariaeth gofal i Gartref Gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth.

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor i gymryd perchnogaeth o Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun ddiwedd 2023, mae cyfle i ailstrwythuro'r ddarpariaeth gofal preswyl yng ngogledd y sir er budd ein preswylwyr presennol, ac ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Cyngor yn gwahodd pobl i gyflwyno eu barn ar gyflawni'r cynllun. Cwblhewch yr ymgynghoriad ar-lein.

Gellir cael copïau papur o'r ymgynghoriad yn y lleoliadau canlynol:

  • Llyfrgell Aberystwyth (Canolfan Alun R. Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth SY23 2EB
  • Canolfan Lles Llambed
  • Llyfrgell Llambed
  • Llyfrgell Aberaeron
  • Llyfrgell Aberteifi
  • Llyfrgell Llandysul
  • Llyfrgell Cei Newydd

Mae’r ymgynghoriad yn dechrau ar 22 Ebrill a bydd yn dod i ben ar 15 Gorffennaf 2024.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae'r Cyngor yn cydnabod ymrwymiad ac ansawdd y staff gofal yng Nghartref Tregerddan ac yn cydnabod ymhellach y cyfoeth o gefnogaeth a ddarperir gan sefydliad Cyfeillion Tregerddan. Rydym yn mawr obeithio y bydd y cydweithrediad hwn yn cael ei gadw fel rhan o'r cynlluniau wrth symud ymlaen. Mae lles preswylwyr yn arbennig o bwysig ac felly rydym yn annog y rhai sydd am rannu eu barn i wneud mewn da bryd cyn y dyddiad cau."

I gael yr ymgynghoriad mewn ffurf eraill fel Hawdd i’w Ddarllen, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.